I galon cymunedau...



I galon cymunedau...

Lein Calon Cymru

Rheilffordd wledig ysblennydd 121 milltir o hyd yw Lein Calon Cymru, rhwng Abertawe ac Amwythig, trwy ucheldiroedd gwledig Sir Gaerfyrddin, Powys a Swydd Amwythig. Mae Trafnidiaeth Cymru yn gweithredu'r gwasanaeth trên saith diwrnod yr wythnos.


Mae pobl ar drip undydd a cherddwyr yn hoff iawn o’r lein, ac mae hefyd yn darparu cyswllt trafnidiaeth hanfodol ar gyfer cymunedau a threfi gwledig bywiog ledled Canolbarth Cymru a'r Gororau. Mae Lein Calon Cymru yn cysylltu â phrif lwybrau a llwybrau trefol ar draws Rhwydwaith y DU trwy Crewe, Amwythig, Craven Arms, Llanelli, Abertawe a Chaerdydd.

Community Rail


This site is run by the Heart of Wales Line Community Rail Partnership, an accredited Community Rail Partnership promoting and developing the Heart of Wales Line for the benefit of people living and working locally, local businesses and of course for visitors.


We are proud to be part of the Community Rail Network, supported by councils, the rail industry and Welsh Government.

READ MORE

Rheilffordd Gymunedol


Caiff y wefan hon ei rhedeg gan Bartneriaeth Rheilffordd Gymunedol Lein Calon Cymru, Partneriaeth Rheilffordd Gymunedol achrededig sy'n hyrwyddo ac yn datblygu Lein Calon Cymru er budd pobl sy'n byw ac yn gweithio'n lleol, busnesau lleol ac, wrth gwrs, i ymwelwyr.


Rydym yn falch i fod yn rhan o'r Rhwydwaith Rheilffyrdd Cymunedol, â chefnogaeth cynghorau, y diwydiant rheilffyrdd a Llywodraeth Cymru..

DARLLEN MWY

Lein Calon Cymru


Mae Llwybr Lein Calon Cymru yn llwybr unigryw, pellter hir, 141 milltir o hyd sy'n dirwyn ei ffordd rhwng gorsafoedd o Craven Arms yn Swydd Amwythig i Lanelli yn Ne Cymru, gan alluogi cerddwyr i ddefnyddio'r trên i ddechrau eu taith gerdded neu ddychwelyd i'r man cychwyn ar y diwedd. 


Ers Gwanwyn 2019, mae cannoedd o gerddwyr wedi archwilio'r llwybr hwn sy'n canolbwyntio ar brofiad araf, golygfaol i’r teithiwr, a dod â budd economaidd i fusnesau a chymunedau ar hyd y lein.

TEITHIAU CERDDED
Share by: