The Heart of Wales Line Community Rail Partnership is looking for new members to help shape the focus of our work in communities. A Community Rail Partnership is usually composed of people interested in how the railways connect with the local community and includes representatives from county and town councils, train operating companies, Network Rail, local voluntary groups, rail user groups and tourism organisations. We want to recruit a diverse and energetic group from who can help formulate an annual action plan that will be delivered by the Community Rail Officer.
We are looking for people representing organisations or community groups to join the new partnership, who can bring energy and enthusiasm and provide some local knowledge and experience.
We will be holding 3 events at venues along the Heart of Wales Line, specifically, Shrewsbury, Llanelli and Llanwrtyd Wells. These events will allow us to share what we do in the partnership and how you can get involved. You will hear from current members and the Community Rail Officer. You will be able to ask questions, and there will be light refreshments available as well.
We have timed the event so you can travel by train from other stops along the Heart of Wales line. Full details can be found below. If you would like to attend an event please book in advance so we can plan food and seating.
If you can’t attend but you are interested please get in touch at owen.griffkin@heart-of-wales.co.uk
Mae Partneriaeth Rheilffyrdd Cymunedol Lein Calon Cymru yn chwilio am aelodau newydd i helpu i lunio ffocws ein gwaith mewn cymunedau. Mae Partneriaeth Rheilffyrdd Cymunedol fel arfer yn cynnwys pobl sydd â diddordeb yn y ffordd y mae’r rheilffyrdd yn cysylltu â’r gymuned leol ac mae’n cynnwys cynrychiolwyr o gynghorau sir a thref, cwmnïau gweithredu trenau, Network Rail, grwpiau gwirfoddol lleol, grwpiau defnyddwyr rheilffyrdd a sefydliadau twristiaeth. Rydym am recriwtio grŵp amrywiol ac egnïol o blith y rhain a all helpu i lunio cynllun gweithredu blynyddol a fydd yn cael ei gyflawni gan y Swyddog Rheilffyrdd Cymunedol.
Rydym yn chwilio am bobl sy'n cynrychioli sefydliadau neu grwpiau cymunedol i ymuno â'r bartneriaeth newydd, a all ddod ag egni a brwdfrydedd a darparu rhywfaint o wybodaeth a phrofiad lleol.
Byddwn yn cynnal 3 digwyddiad mewn lleoliadau ar hyd Lein Calon Cymru, yn benodol, Amwythig, Llanelli a Llanwrtyd. Bydd y digwyddiadau hyn yn ein galluogi i rannu'r hyn a wnawn yn y bartneriaeth a sut y gallwch chi gymryd rhan. Byddwch yn clywed gan aelodau presennol a’r Swyddog Rheilffyrdd Cymunedol. Byddwch yn gallu gofyn cwestiynau, a bydd lluniaeth ysgafn ar gael hefyd.
Rydym wedi amseru’r digwyddiad er mwyn i chi allu teithio ar y trên o arosfannau eraill ar hyd Lein Calon Cymru. Gweler manylion llawn isod. Os hoffech fynychu’r digwyddiad, archebwch o flaen llaw er mwyn i ni allu cynllunio bwyd a seddi.
Os na allwch fynychu ond bod gennych ddiddordeb, cysylltwch â owen.griffkin@heart-of-wales.co.uk