Taith Gerdded Gylchol Fer
Gorsaf Broome
TAITH GERDDED | |
---|---|
Pellter | 6.1km | 3.8 milltir |
Tir | Ffordd, caeau a choetir |
Anhawster | Mae’r uchder yn cynyddu gan 117m. Bryniau cymedrol. Rhai camfeydd |
Rhybuddion | Byddwch yn cerdded ar ffordd B heb unrhyw balmant ar y dechrau a'r diwedd |
Trosolwg
Mae'r daith gerdded hon o orsaf Broome o gwmpas Aston-on-Clun mewn gwirionedd, pentref bach hardd, llai na 1km i ffwrdd. Rydych chi'n gweld y pentref darluniadwy â'i dai crwn diddorol a Choeden Deildy ** cyn esgyn i gefn gwlad â golygfeydd dros fryniau Swydd Amwythig. Mae'r daith gylchol yn heddychlon ac yn syml, ac yn rhoi blas hyfryd o'r ardal. Gellir ei hymestyn hefyd i gynnwys Llwybr Swydd Amwythig ger Bryn Hopesay os dymunwch gynnwys bryn uwch a golygfeydd pellgyrhaeddol.
Disgrifiad o'r daith gerdded ** blychau gwybodaeth ychwanegol
O Orsaf Broome wrth i chi ddod i lawr y llethr o'r platfform, cerddwch yn syth ymlaen i ben y lôn a throwch i'r chwith pan fydd yn cwrdd â'r brif ffordd. Parhewch ar hyd y ffordd B4369 troellog hon am ychydig llai nag 1km, gan ofalu eich bod yn gallu gweld yn glir o'ch blaen a byddwch yn effro i draffig. Ar ôl i chi fynd heibio neuadd y pentref a'r siop gymunedol ar y chwith (lle gallwch brynu cyflenwadau) byddwch yn dod i gyffordd T lle byddwch chi'n troi i'r chwith. Dilynwch y palmant heibio tafarn y Kangaroo ar y chwith, ac arhoswch ar y palmant wrth iddo wyro i'r dde. Ewch drosodd i'r palmant gyferbyn a chyn bo hir fe gyrhaeddwch chi ffordd ar eich ochr dde o'r enw Mill Street a byddwch yn gweld man eistedd wrth ymyl y Goeden Deildy ***. Trowch i'r dde i Stryd y Felin a cherddwch ar hyd y lôn hon, â nant yn cyd-redeg, â’i thŷ crwn a bythynnod tlws eraill.
Mae'r ffordd yn gwyro i'r chwith yn fuan, parhewch ar ei hyd nes i chi ddod i ddiwedd y tai ar y chwith. Edrychwch am y giât o'ch blaen ag arwydd 'Three, The Firs' ac arwydd llwybr troed arni. Ewch trwy giât y cae, a pharhewch yn syth ymlaen, heibio'r tŷ ar y chwith. Arhoswch ar y chwith ar y llwybr glaswellt pan welwch rodfa â gatiau i fyny i'r tŷ. Ewch ar hyd y llwybr hyfryd hwn â golygfeydd yn agor o'ch cwmpas (peidiwch ag anghofio edrych yn ôl hefyd). Mae pyst marcio gwyn ysbeidiol ar hyd y llwybr i gadarnhau'r ffordd. Parhewch tuag at y coetir nes bod y llwybr a'r marcwyr yn dechrau mynd ychydig i lawr yr allt i'r chwith, tuag at gornel chwith y coetir.
Cerddwch ochr wrth ochr â'r coetir â ffens ar eich ochr dde ac yn fuan byddwch yn mynd trwy giât mochyn i gae agored. Cerddwch yn syth ymlaen (i'r chwith fe welwch Neuadd Hesterworth) a dilynwch y llwybr wrth iddo wyro i'r dde – fe welwch byst marcio gwyn i'ch helpu. O'ch blaen mae coetir arall â giât. Peidiwch â mynd trwy'r giât, yn hytrach trowch i'r dde o'i blaen a cherddwch i fyny'r allt ar hyd ffin y coetir ac yna i mewn i gae agored. Yn y cae, cerddwch ychydig i'r dde ac i fyny'r allt gan chwilio am y pyst marcio gwyn ar hyd y llwybr, i aros ar y trywydd iawn. Ewch i mewn i'r coetir nesaf trwy giât cae a dewch allan yr ochr arall, dros gamfa i mewn i lannerch. Croeswch y llannerch, sydd â golygfeydd agored i'r dde, ac edrychwch am arwydd y llwybr troed o'ch blaen. Dilynwch y llwybr i mewn i faes lle mae arwyddbost.
Trowch i'r dde a pharhewch trwy'r cae gan ddilyn y ffin ar y dde. Ewch trwy linell o goed a chofiwch aros i’r dde (nid yw'r ffensys ar y rhan hon yno mwyach, ond byddwch yn pasio trwy linellau o goed yn lle). Parhewch i lawr y trydydd cae/cae olaf (a all fod yn gorslyd) â’r ffin a'r coed ar y dde, nes i chi gyrraedd cornel y cae. Ewch trwy'r giât ac yna ewch dros gamfa o'ch blaen, i mewn i gae agored â golygfeydd (nid yr un sy'n arwain i goetir).
Ewch yn syth dros y cae gan anelu at giât cae ar yr ochr arall. Peidiwch â mynd trwy'r giât, yn lle hynny ewch at y bont fach a chamfa i'r dde ohoni. Ewch dros y rhain ac i'r cae nesaf, lle byddwch chi'n parhau yn syth â’r ffin ar y dde. Hanner ffordd ar hyd y ffin, byddwch yn sylwi ar giât mochyn yn y ffens ar eich dde. Ewch trwyddi i'r ochr arall, trowch i'r chwith a cherddwch drwy'r cae, a'r un nesaf, â’r ffin ar eich chwith bellach. Ym mhen pellaf y cae, ewch dros y gamfa wrth ymyl giât y cae, i lôn. Ar ddiwedd y lôn, byddwch yn gweld eich bod bellach yn ôl ar Mill Street. Parhewch i'r diwedd a throwch i'r chwith i'r B4369. Parhewch ar y ffordd hon, heibio'r dafarn eto a throwch i'r dde lle mae arwydd i Clungunford. Ewch ar hyd y ffordd, heibio'r siop ac yn ôl i'r orsaf yn Broome.
** Y Goeden Deildy
Mae Aston on Clun yn cynnal seremoni Addurno Coeden flynyddol, yr olaf yn y wlad hon. Cynhelir yr ŵyl yng nghanol y pentref bach, lle saif coeden aethnen ddu. Mae yna orymdaith o faneri wedi’u gwneud gan blant ysgol lleol, dan arweiniad ffidlwr a chwaraewr hyrdi-gyrdi, o neuadd y pentref, i'r goeden aethnen ddu enwog. Arferai addurno coed fod yn ddigwyddiad poblogaidd mewn llawer o bentrefi Prydain. Ym 1660, cyhoeddodd Siarl II fod 29 Mai yn ŵyl gyhoeddus, a elwir yn Ddiwrnod Derw-Afal. Cafodd y gwyliau ei ddiddymu ym 1859 a chollwyd y traddodiad i raddau helaeth.