Taith Gerdded Gylchol Fer
Gorsaf Llangynllo
TAITH GERDDED | |
---|---|
Pellter | 6.2km | 3.6 milltir |
Tir | Caeau, lonydd gwledig |
Anhawster | Rhyw fryniau graddol, rhai rhannau mwdlyd, dyfrllyd, nant fach i'w chroesi |
Rhybuddion | Rhan fer o gerdded ar y ffordd, posibilrwydd o wartheg mewn caeau, croesi nant, efallai y bydd yn rhaid dringo dros ychydig o gatiau |
Trosolwg
Mae'r daith gerdded hon, o un o orsafoedd lleiaf poblogaidd Cymru, fel cam yn ôl mewn amser. Mae'n ymdroelli'n trwy lonydd gwledig yn bennaf, ac ar draws caeau â gwrychoedd hynafol, wedi gordyfu, yn hytrach na ffensys. Mae'r daith yn ôl yn dilyn rhan fer o Lwybr Glyndŵr *. Gellir ymestyn y daith gerdded i mewn i'r pentref, sydd 2.2km o'r orsaf.
Disgrifiad o'r daith gerdded
Wrth i chi adael platfform gorsaf Llangynllo,
croeswch rodfa breifat rhwng y tai ac ewch trwy'r giât ar y ffordd. Trowch i'r dde ac ewch i fyny'r ffordd. Ar ôl troad i’r dde, pont dros afon a thaith i fyny'r allt, fe gyrhaeddwch chi adeiladau fferm ar yr ochr dde â hen flwch ffôn y tu allan. Trowch i'r chwith trwy’r giât gyferbyn â'r blwch ffôn ac ewch yn groeslinol i'r chwith ar draws y cae, gan anelu at wrych ffin o'ch blaen ar y chwith. Mae'r cae yn culhau wrth i chi ddilyn y ffin nes i chi ddod at giât. Ewch trwy'r giât a cherddwch ar hyd ochr dde'r gwrych ddraenen wen ffin i'r giât nesaf. Ewch trwy un cae arall, yna yn yr un olaf, ewch yn groeslinol i lawr i'r gornel chwith a thuag at ffens o flaen nant. Bydd coetir bach ar y chwith. Ewch trwy'r giât o'ch blaen, nid yr un ar y chwith i chi, a neidiwch dros y nant yna trowch i'r dde ac ewch i fyny'r allt gan gadw'r nant i'ch dde.
Dilynwch y cae i'r ffin uchaf yna trowch i'r chwith o flaen y gwrych a pharhewch ar hyd ymyl uchaf y cae, gan gadw'r gwrych ar eich dde. Mae giât yng nghornel y cae sy'n arwain i lôn werdd. Byddwch yn mynd heibio tŷ adfeiliedig ar eich dde, a chyn bo hir wedyn, ysgubor â tho tun rhychog, mawr. Ewch trwy'r giât yma a pharhewch ar hyd y llwybr nes i chi gyrraedd lôn tarmac.
Trowch i'r dde ar y lôn a pharhewch i fyny'r allt nes i chi gyrraedd fferm. Ewch drwy'r giât i'r iard a chroeswch drosodd i'r dde, y tu ôl i'r tŷ ac ewch i fyny lôn y ffordd gefn. Parhewch ar hyd y lôn nes i chi gyrraedd giât ar groesffordd o draciau. Mae'r trac sy'n croesi'ch llwybr hefyd yn rhan o Lwybr Glyndŵr ac fe welwch bostyn cyfeirbwynt ar y chwith.
Trowch i'r chwith ar y lôn ac yn fuan wedyn, dilynwch y postyn arwydd sy'n gwyro i'r chwith ar lwybr glaswelltog rhwng caeau. Dilynwch y llwybr â golygfeydd ar y ddwy ochr nes iddo fynd trwy giât ac i gae yn y pen draw. Cerddwch ar hyd ffin chwith y cae ac ewch trwy'r giât nesaf. Ewch ymlaen ar hyd y ffin i'r giât nesaf. Yn y cae nesaf, cyn bo hir bydd y llwybr aneglur yn dechrau gwyro i'r dde a bydd angen i chi fynd i lawr trwy'r cae, i gornel chwith isaf y cae. Ewch drwy giât y cae ac yn syth drwy un arall ar eich dde, ag arwydd Llwybr Glyndŵr. Dilynwch y ffin ar eich chwith wrth ymyl coedlan fach, nes i chi ddod at giât sy'n arwain at drac. Trowch i'r dde a dilynwch y trac ar hyd y ffin ar y dde, ond wrth i'r trac wyro i’r chwith, dilynwch y trac glaswelltog i fyny'r allt yn hytrach, a dilynwch ef i'r giât nesaf. Yn y cae nesaf, parhewch i lawr yr allt ar hyd y trac a dilynwch ef wrth iddo wyro i'r chwith ger arwydd cyfeirbwynt.
Parhewch i lawr y lôn ac ewch heibio cafn dŵr a bwthyn ar eich chwith. Bydd y llwybr yn eich tywys dros grid gwartheg i'r ffordd lle byddwch chi’n gweld pont reilffordd o'ch blaen. Trowch i'r chwith i fyny'r ffordd yn ôl i'r orsaf.
Os hoffech ymestyn y daith gerdded hon i bentref Llangynllo, trowch i'r dde ar y ffordd, i'r chwith eto wrth y gyffordd nesaf, yna i'r dde i mewn i'r pentref (tua 1.7km). Gwnewch y gwrthwyneb ar eich ffordd yn ôl i ddychwelyd i'r orsaf (2.2km).
* Llwybr Cenedlaethol 135 milltir (217 km) o hyd yw Llwybr Glyndŵr sy'n troelli trwy rostir agored, tir fferm eang, coetir a choedwig canolbarth Cymru. Gan ddechrau yn Nhrefyclo a gorffen yn y Trallwng, mae’r Llwybr wedi’i enwi ar ôl Owain Glyndŵr, Tywysog Cymru ac arweinydd cenedlaetholgar canoloesol Cymreig a drefnodd wrthryfel yn erbyn brenin Lloegr, Harri IV yn 1400.
Mae Llwybr Glyndŵr yn eich tywys i rai o'r nodweddion tirwedd gorau yng Nghymru, gan gynnwys Bryniau tawel Sir Faesyfed, glannau Cronfa Ddŵr Clywedog a Phumlumon â grug drosti. Mae golygfeydd ysblennydd dros Gadair Idris, Llyn Efyrnwy, Mynyddoedd Cambria a'r Golfa. Mae'r llwybr yn cyrraedd ei bwynt uchaf yn Foel Fadian (1530 troedfedd/510m) ac oddi yno, ar ddiwrnod clir, mae golygfeydd yn ymestyn allan ar hyd dyffryn mawreddog Dulas i Fachynlleth a'r môr. (dyfyniad o wefan Llwybr Glyndŵr).