Taith Gerdded Gylchol Fer
Llanwrtyd
TAITH GERDDED | |
---|---|
Pellter | 5.4km | 3.4 milltir |
Tir | Palmant, lonydd gwledig, caeau, glan afon a choedwigoedd |
Anhawster | Fflat, un gamfa simsan, glannau afonydd |
Rhybuddion | Yn croesi ffordd A |
Trosolwg
Mae'r daith gerdded hon bron yn union yr un fath â'r 'Llwybr Tref' sefydledig a'r 'Llwybr Treftadaeth Gwledig', y byddwch yn gweld arwyddion i’r ddau ar y ffordd. Mae'n teithio i mewn i'r dref o'r orsaf ac yna'n dilyn glan chwith yr afon cyn belled â Melin Dinas ac Eglwys Dewi Sant. Yna mae'n mynd yn ôl ar lan arall yr afon, trwy Barc Dolycoed ac yn ôl i'r dref
Disgrifiad o'r daith gerdded
Ar ôl gadael Gorsaf Llanwrtyd, trowch i'r chwith a cherddwch am 5 munud i'r dref. Trowch i'r chwith wrth gerflun y barcud coch a chroeswch y bont ffordd dros Afon Irfon. Croeswch y ffordd a throwch i'r dde ger Eglwys Sant Iago ar hyd Ffordd Victoria. Dilynwch y ffordd, ac yn fuan ar ôl pen y tai, a phan fydd yn dechrau gwyro i'r chwith, dilynwch y fforch ar y dde yn lle, gan deithio ar hyd lôn fach i mewn i goedwig. Ewch ar hyd y llwybr rhwng Tŷ Dolgoy a'r ysguboriau, a dilynwch y llwybr ar hyd yr afon. Pan fyddwch chi’n cyrraedd cae, croeswch yn groeslinol i'r gornel dde, trwy’r giât cae a byddwch yn dod allan o flaen Victoria Wells Log Cabin Motel (un o hen ffynhonnau'r dref).
Trowch i'r dde ar hyd y ffordd i'r diwedd, ac yna ewch yn syth ymlaen wrth i'r ffordd droi yn llwybr troed trwy gaeau, ar ôl pasio clwstwr o eiddo. Parhewch drwy'r caeau â’r goedwig ar eich chwith ac wrth iddo wyro i ffwrdd o'r afon, byddwch chi’n croesi camfa simsan ac yn cyrraedd ffordd goedwigaeth lle byddwch chi'n troi i'r dde. Parhewch ar y ffordd dros y bont afon a heibio i Felin Dinas nes i chi gyrraedd 'hen Lanwrtyd' ac eglwys hynafol Dewi Sant.*
Croeswch y bont ffordd ar y dde a cherddwch ar hyd y ffordd dawel hon, gan ystyried traffig, am tua 700m nes i chi weld llwybr troed ag arwydd yn syth ymlaen, gan fynd i mewn i'r goedwig i'r afon eto. Ewch heibio'r 'Bont Gynhennus' â’i harwydd Llwybr Treftadaeth a pharhewch ar hyd y llwybr troed nes i chi gyrraedd fforch yn y trac.
Dilynwch y trac ar y chwith tuag at yr hen dŷ pwmp. Sylwch ar yr adeilad siâp cromen y tu ôl iddo, a oedd yn gartref i'r hen 'Ffynnon Droellwyd' (ffynnon drewllyd) sylffwr, y dywedir bod ganddi rinweddau iachaol pan gafodd ei darganfod gan Theophilus Evans. Ewch rhwng yr adeiladau, yna ar hyd rhes o goed castan i'r dde, tuag at hen Westy Dol-Y-Coed, sydd bellach yn Charcroft Electronics.
Cerddwch heibio ochr yr adeilad a thrwy'r maes parcio, trowch i'r dde a pharhewch yn syth ymlaen ar hyd y ffordd nes i chi ddod yn ôl i'r dref. Yma gallwch ymweld â siopau’r dref, y Ganolfan Treftadaeth a'r tafarndai a'r caffis cyn dychwelyd, ar hyd Ffordd yr Orsaf, i'r dde o'r siop cyfleustra, yn ôl i'r orsaf, y ffordd y daethoch chi.
* Mae Eglwys Dewi Sant yn eglwys restredig gradd II ac arferai fod yn eglwys plwyf 'hen Lanwrtyd'. Dywedir i'r safle gael ei ddewis gan Dewi Sant ei hun ar gyfer eglwys gynnar i ledaenu'r ffydd Gristnogol. Mae ei phensaernïaeth yn dyddio o cyfnod o'r 11g i'r 16eg ganrif, ac ymhlith ei chlerigwyr nodedig mae Theophilus Evans a ddarganfu briodweddau iachusol y dyfroedd sylffwr lleol yn gyntaf, a hefyd William Williams (Pantycelyn) a ysgrifennodd 800 o emynau.