Cynlluniwch Eich Taith
Tocynnau
Gellir prynu pob tocyn ar y trên, ar-lein, trwy'r ap neu mewn swyddfa docynnau.
Mae swyddfeydd tocynnau ar gael yn
Amwythig, Llandrindod, Llanelli ac
Abertawe.
Cerdyn Rheilffordd Calon Cymru
Mae'r cerdyn rheilffordd yn ddilys ar gyfer teithiau ar wasanaethau Lein Calon Cymru rhwng Abertawe, Llanelli ac Amwythig trwy Landrindod. Mae ar gael i bobl 16 oed neu hŷn sy’n byw mewn codau post penodol ar hyd llwybr Lein Calon Cymru.
Mae'r cerdyn rheilffordd yn costio £13.50 ac mae'n ddilys am flwyddyn. Mae gan ddeiliad y cerdyn hawl i gael gostyngiad 34% wrth deithio ar y rheilffyrdd lleol. Gall hyd at ddau o blant 5-15 oed deithio â deiliad y cerdyn am gost £2.00 y plentyn. Nid oes isafswm pris. Mae plant dan 5 oed yn teithio am ddim.
Gellir prynu cardiau rheilffordd o swyddfeydd tocynnau yn
Amwythig,
Llandrindod, Llanelli ac
Abertawe.
Tocynnau ‘Ranger’ Cylchol Calon Cymru Un Diwrnod a Dau Ddiwrnod
Mae ‘Ranger’ Cylchol Calon Cymru yn eich galluogi i deithio ar hyd Lein Calon Cymru ar lwybr cylchol dros 1 neu 2 ddiwrnod.
Mae ‘Ranger’ Cylchol Diwrnod Calon Cymru yn cynnig taith gylchol i'r naill gyfeiriad neu'r llall o amgylch y gylchdaith rhwng Caerdydd Canolog - Craven Arms - Amwythig - Llandrindod - Llanelli - Abertawe - Caerdydd Canolog ar wasanaethau Trafnidiaeth Cymru. Gall y daith ddechrau mewn unrhyw orsaf ar y gylchdaith ddynodedig. Yn ddilys dros 1 neu 2 ddiwrnod.
Gallwch brynu ‘Ranger’ Cylchol 1 neu 2 ddiwrnod Calon Cymru o swyddfa docynnau eich gorsaf Reilffordd leol. Os nad oes cyfleusterau prynu tocynnau yn yr orsaf lle rydych yn cychwyn ar eich taith, gallwch hefyd brynu ‘Ranger’ Cylchol 1 neu 2 Ddiwrnod Calon Cymru gan Archwiliwr Tocynnau ar wasanaeth Trafnidiaeth Cymru.
Teithio Rhatach Lein Calon Cymru
Os oes gennych Docyn Teithio Rhatach gan Awdurdod Lleol yng Nghymru, gallwch deithio'n rhad ac am ddim ar Lein Calon Cymru rhwng 1 Hydref a 31 Mawrth. Nid yw Trafnidiaeth Cymru yn darparu tocynnau am ddim ar gyfer teithiau sy’n gyfan gwbl rhwng
Amwythig a
Bucknell a
Llanelli ac
Abertawe.
Amserlen
Cliciwch y botwm i weld.