Gorsafoedd, Cymunedau a'r Rheilffordd
Darganfyddwch Lein Calon Cymru. Ewch ar daith anhygoel. Cefnogwch elfen hanfodol o fywyd gwledig. Mwynhewch dreftadaeth y rheilffordd, trefi bywiog, bwytai annibynnol, gwestai gwely a brecwast hynod a chefn gwlad gogoneddus Canolbarth Cymru a'r gororau.
Mae pob gorsaf ar hyd Lein Calon Cymru yn borth i gymuned. Yn wahanol i orsafoedd trefol sydd â nifer uchel o ymwelwyr, nifer fach o gaffis masnachol neu siopau papur newydd sydd gennym mewn gorsafoedd ar hyd Lein Calon Cymru, heblaw yn y gorsafoedd mwy ar y naill ben neu'r llall. Yn hytrach, mae gorsafoedd ar gael i bobl leol - garddwyr, selogion rheilffyrdd, mentrau gwledig bach a gwirfoddolwyr.
Man geni Charles Darwin
Amwythig
Tref dra hoff, sy’n cael ei hedmygu oherwydd yr hen bensaernïaeth hardd a'r strydoedd canoloesol, yn ogystal â’r dewis eang o siopau modern ac annibynnol. I gyrraedd yno, heb drafferth parcio, argymhellwn y trên. Gallwch ddisgwyl dod o hyd i leoedd gwych i fwyta allan sy’n gweddu i chwaeth a dymuniadau pawb, sin theatr a chelfyddydau cyffrous, profiadau hanesyddol a diwylliannol sy’n trochi a gwyliau stryd drwy gydol y flwyddyn.
I ffwrdd ac i'r bryniau
Gan deithio i'r de byddwch yn cyrraedd rhanbarth sydd heb ei gyffwrdd i raddau helaeth gan ddatblygiad trefol neu ddiwydiannol, heblaw ffermio traddodiadol. Mae'r byd yn agor mewn un o'r ardaloedd cyntaf i gael ei dynodi'n Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol. Croeso i Fryniau Swydd Amwythig. Mwynhewch y golygfeydd yr holl ffordd i Drefyclo, neu dewch i ffwrdd o’r trên yn un o'r gorsafoedd llai ar hyd y ffordd
Church Stretton
Dewch i ffwrdd o’r trên yma i fynd am dro - neu redeg - i fyny'r Long Mynd neu bori siopau a chaffis y stryd fawr yn y dref hon i gerddwr. Yr ochr arall i Church Stretton mae Caer Caradog a Chefn Gweunllwg atmosfferig y tu hwnt.
Craven Arms
Tref fach brysur yn Swydd Amwythig yw Craven Arms. Dewch i ffwrdd o’r trên yma i ddechrau Llwybr Cerdded Lein Calon Cymru. Ewch i Ganolfan Ddarganfod Bryniau Swydd Amwythig yn Craven Arms lle gallwch gwrdd â Mammoth Swydd Amwythig, archwilio'r 30 erw o ddolydd glan yr afon ac ymlacio yn y caffi, sy'n gweini coffi da a bwyd traddodiadol wedi'i goginio gartref, gan ddefnyddio cynnyrch lleol. Mae yna hefyd siop anrhegion ac oriel. Mae Castell Stokesay yn rhywle arall y mae'n rhaid ei weld, a ddisgrifiwyd fel y maenordy canoloesol caerog yn y cyflwr gorau yn Lloegr.
Broome, Hopton Heath a Bucknell
Y gorsafoedd hyn yw'r pyrth i deithiau cerdded a beicio oddi ar y ffordd rhagorol, â llwybrau coedwig a thraciau i lawr allt yn Bucknell a Hopton Heath. Mwynhewch yr awyrgylch gwych mewn tafarndai lleol, bwytewch gynnyrch lleol, efallai treuliwch noson neu ddwy mewn gwesty gwely a brecwast teuluol. Ar hyd y ffordd, edrychwch am hen eglwysi hyfryd, cyfoeth o stiwdios celf agored a chaffis celf, bridiau anarferol o ddefaid, siopau a chaffis sy'n cael eu rhedeg gan y gymuned. Wyddoch chi mai’r Gororau sy’n cynnwys y crynhoad dwysaf o gestyll mwnt a beili yng Nghymru a Lloegr?
Dros y ffin ac i mewn i Gymru
Mae'r trên yn croesi dros y ffin ac i mewn i Gymru yn Nhrefyclo. Mae gorsaf Trefyclo ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr, mewn gwirionedd mae'r orsaf ei hun yn Lloegr a gallwch groesi'r ffin i Gymru trwy gerdded i mewn i'r maes parcio. Mae'r dref ar bwynt canolog ar hyd Clawdd Offa enwog, sydd bellach yn llwybr troed pellter hir.
Ochr yn ochr â Chnwclas gyfagos (gorsaf arall), mae tref farchnad brysur Trefyclo yn cynnwys cymuned fywiog o artistiaid sy'n agor eu stiwdios o bryd i'w gilydd - pob un yn hygyrch ar y trên ac yn cael ei argymell yn fawr. Edrychwch am Ganolfan Clawdd Offa, a agorwyd ym 1999 sy’n cynnwys arddangosfa am Glawdd enwog yr 8fed Ganrif, y gorchmynnodd Offa, Brenin Mersia, iddo gael ei adeiladu. Gyda'i chaffi a'i harddangosfa am ddim, mae'r Ganolfan yn darparu ar gyfer anghenion amrywiaeth eang o ymwelwyr ac mae yna barc ac ardal chwarae hyfryd i blant yn y cefn.
O Drefyclo mae'r trên yn mynd â chi ar draws hen sir Maesyfed (sydd bellach yn rhan o Bowys) ar y ffordd i Landrindod trwy gymunedau gwledig bywiog bach gan gynnwys Cnwclas, Dolau a Phen-y-bont. Mae llawer o Sir Faesyfed o fewn y mynyddoedd. Mae'r bryniau'n gyforiog o ddefaid yn pori, ac yn cyfareddu selogion cefn gwlad gwyllt. Mae Fforest Clud, cartref y ddraig olaf yng Nghymru yn ôl y sôn, yn ymestyn i'r de - lle i'w archwilio - rhostiroedd, coedwigoedd ac afonydd.
Cofiwch edrych am Draphont Cnwclas (un o blith dwy ar hyd y lein) sy'n rhychwantu un o lednentydd Afon Tefeidiad rhwng Trefyclo a Chnwclas. Mae ganddi 13 bwa, â pharapet cyfylchog eiconig, tyrau crwn ar bob pen a thyrau sgwâr yn y bwtresi.
Photo © Hawlfraint y Goron / © Crown copyright (2023) Cymru Wales.
Y Trefi Sba
Mae'r trên yn teithio ar draws canolbarth Cymru trwy'r hen "Drefi Sba." Roedd pobl yn teithio yma'n arbennig i ymdrochi yn y dyfroedd iachaol, a’u hyfed, yn llawn mwynau o'r bryniau. Mae'r trên yn stopio yn nhrefi sba Llandrindod, Llanfair-ym-Muallt, Llangammarch a Llanwrtyd, cyn croesi o Bowys i Sir Gaerfyrddin.
Llandrindod
Yn adnabyddus i bobl leol fel Llandod, mae'r dref sba hon yn fwrlwm o weithgarwch. Ymlwybrwch i fyny i’r llyn pysgota i ddarganfod y bwystfil dŵr. Y lle gorau i’w weld yw ar y pedalos draig. Ar gyfer y rhai mwy anturus mae digon o weithgareddau dŵr fel canŵio a padlfyrddio wrth sefyll, ond cofiwch ddillad sbâr rhag ofn y cewch godwm. A ydych yn hapusach â’ch traed ar dir sych? Dim problem, mae yna ddigon i'w fwynhau o hyd. Mae Parc Hamdden Princes Avenue yn gartref i amrywiaeth o gemau sy'n addas i deuluoedd fel Golff Gwallgof a Drafftiau Enfawr neu os ydych chi'n hoff iawn o amgueddfeydd beicio, mae yna un da yn Llandod. Ewch am dro drwy'r coetiroedd ym Mharc y Creigiau neu archwiliwch y dref gyfan trwy ddilyn y Llwybr Treftadaeth.
Llanfair-ym-Muallt
Mae Llanfair-ym-Muallt yn gartref i Sioe Frenhinol Cymru, sioe wych ag awyrgylch gwledig go iawn. Mae trenau arbennig yn cael eu trefnu o Abertawe i Gwm-bach Llechryd â gwasanaeth bws gwennol o'r orsaf i faes y sioe. Mae'r trenau hyn yn boblogaidd iawn, ac fel arfer mae awyrgylch gwych (a llawer o sachau teithio) ar y trên. Peidiwch â cholli'r cneifio defaid (mae cneifio wedi dod yn gamp genedlaethol falch iawn, ochr yn ochr â rygbi, i raddau helaeth) y cobiau Cymreig, gasebo Lein Calon Cymru (wel byddem yn dweud hynny) a'r stondinau niferus sy'n arddangos cynnyrch o Gymru.
Llanwrtyd
Mae Llanwrtyd yn enwog am fod y dref leiaf ym Mhrydain, ac am Snorcelu Cors. Gall hefyd ymfalchïo yn y Ras Dyn yn erbyn Ceffyl a Gemau Amgen y Byd. Mae'r dref wedi'i hamgylchynu gan olygfeydd godidog rhan ddeheuol Mynyddoedd Cambria, ac mae'n ganolfan ardderchog ar gyfer gweithgareddau awyr agored fel cerdded, beicio mynydd, merlota, pysgota a gwylio adar.
Photo © Hawlfraint y Goron / © Crown copyright (2023) Cymru Wales.
Sugar Loaf i Lanymddyfri trwy Draphont Cynghordy
O Lanwrtyd mae allt hir i fyny i'r Sugar Loaf, un o rannau mwyaf ysblennydd y lein rheilffordd gyfan. Ar gopa Sugar Loaf mae'r trên yn plymio i mewn i dwnnel tywyll hir trwy'r bryniau, â golygfeydd gwych i gyfarch teithwyr ar yr ochr arall. Ymhellach ar hyd y daith, mae’r trên yn croesi Traphont Cynghordy hardd, sy’n dolennu. Mae Cynghordy ei hun yn arhosfan ar gais, ond mae'n werth ymweld â’r pentref i gerdded trwyddo i Landŵr a dilyn y ffordd fach o dan y draphont i gael golygfa wych o'r campwaith peirianneg hwn.
Photo © Hawlfraint y Goron / © Crown copyright (2023) Cymru Wales.
Trefi Marchnad a Gwlad Gerdded Go Iawn
Mae'r gorsafoedd o Lanymddyfri i Landybïe trwy Langadog a Llandeilo wedi cael eu defnyddio ers tro gan gerddwyr brwd, oherwydd eu bod yn arwain at wlad gerdded ogoneddus Sir Gaerfyrddin a Bannau Brycheiniog sy’n heriol yn aml. Byddwch yn aml yn cwrdd â cherddwyr brwd sy'n chwilio am olygfeydd gogoneddus, copaon mynydd a her ar y rhan hon o'r lein.
Llanymddyfri
Ar un adeg roedd yn fan gorffwys pwysig i borthmyn, bellach mae'r dref hon yn estyn 'Croeso i Gerddwyr' ac yn gyrchfan boblogaidd ac yn apelio’n fawr i ymwelwyr a beicwyr. Mae Llanymddyfri yn cynnal calendr o ddigwyddiadau cyfeillgar i deuluoedd, fel Penwythnos Beiciau Modur Llanymddyfri blynyddol, Gŵyl Ddefaid Llanymddyfri ac Eisteddfod yr Urdd yn 2023, gŵyl unigryw Gymreig.
Mae Castell Llanymddyfri a cherflun Llywelyn ap Gruffydd Fychan daith gerdded fer o'r orsaf ac mae'n werth ymweld â nhw. Mae gan Lanymddyfri hanes sy'n llawn treftadaeth reilffordd, yn wreiddiol roedd côr meibion Llanymddyfri, a ganodd yn lansiad Llwybr Lein Calon Cymru yn Sir Gaerfyrddin, yn gôr rheilffordd.
Llandeilo
Wedi'i henwi fel y lle gorau i fyw yng Nghymru gan The Sunday Times, mae Llandeilo yn dref liwgar, ddarluniadwy, wasgaredig ag amrywiaeth o siopau bach annibynnol bach: dillad ffasiynol gan gynnwys labeli dylunwyr, dodrefn wrth fesur, cyflenwyr bwyd lleol sydd wedi ennill gwobrau, crefftau lleol, a llawer mwy. Cofiwch ymweld ag Eglwys Sant Teilo hanesyddol a Pharc a Chastell Dinefwr, i gyd o fewn pellter cerdded i'r orsaf. Os oes gennych gludiant sy’n mynd ymlaen, rydym hefyd yn argymell Gerddi Aberglasne a Gerddi Botaneg Cenedlaethol Cymru.
Rhydaman
Ar un adeg roedd Rhydaman yn hen dref lofaol â threftadaeth ddiddorol iawn, daeth ei henw o'r rhyd a arferai groesi afon Aman. Bellach mae’n ganolfan wych i archwilio Dyffryn Aman a'r Mynydd Du. Rydym yn argymell neidio ar eich beic ar hyd Llwybr Glanyrafon Dyffryn Aman i Frynaman. Mae'r Arcêd Fictoraidd fawreddog yn llawn siopau bach annibynnol lle byddwch yn dod o hyd i eitemau unigryw. Mwynhewch ddanteithion melys tymhorol o’r Coaltown Canteen ar ymylon y dref, lle mae'r 'Aur Du' newydd yn cael ei rostio ar y safle â llaw mewn sypiau bach i wneud y coffi gorau, mwyaf ffres.
Photo © Hawlfraint y Goron / © Crown copyright (2023) Cymru Wales.
Aber Llwchwr ac i mewn i Lanelli
Wrth adael Rhydaman byddwch yn dechrau gweld y cefn gwlad yn newid wrth i chi deithio tuag at forfeydd heli Aber Llwchwr ac ymlaen i Lanelli.
Pontarddulais
Caiff ei hadnabod yn lleol fel Bont, ac mae Pontaddulais yn dref fach Gymreig sy'n llawn hanes â llawer o straeon i'w hadrodd. Dilynwch Lwybr Ramble a Scramble sy'n mynd â chi heibio llawer o safleoedd hanesyddol gan ddechrau â Charreg Beca, sy’n coffáu safle tollborth tyrpeg ym Mhontarddulais a gafodd ei ddinistrio yn Nherfysgoedd Beca. Mae'r Llwybr yn eich tywys trwy’r dref, heibio llawer o siopau a bwytai annibynnol, i'r Parc Coed Bach llawn hwyl. Parhewch ar y llwybr i'r gwlyptiroedd (efallai y bydd angen eich welis arnoch ar gyfer y rhan hon) tuag at hen safle Eglwys Llandeilo Tal-y-Bont, sydd bellach wedi'i hail-godi yn Amgueddfa Werin Cymru yn Sain Ffagan ar ôl cael ei datgymalu a'i hachub carreg wrth garreg.
Llanelli
Mae tref brysur Llanelli yn adnabyddus am ei Llwybr Arfordir y Mileniwm, sy'n rhan o Lwybr Arfordir Cymru, ar gyrion Aber Llwchwr. Mae'r llwybr cerdded 13 milltir i gerddwyr a beicwyr yn cysylltu Llanelli â Pharc Gwledig Pen-bre, gan fynd heibio atyniadau amrywiol fel Canolfan Gwlyptiroedd Llanelli, Bistro a Bwyty Cwrw Bae Sant Elli a harbwr Porth Tywyn, lle rydych chi'n siŵr o brynu pysgod a sglodion blasus wrth edmygu golygfeydd godidog Penrhyn Gŵyr. Mae'r dref ei hun yn ferw o siopau lle mae enwau annibynnol ac enwau’r stryd fawr yn eistedd ochr yn ochr. Mae adeiladau ac amgueddfeydd hanesyddol Llanelli yn adrodd hanes diddorol gorffennol diwydiannol y dref sef mwyngloddio glo, tunplatio a gwaith dur.
Photo © Hawlfraint y Goron / © Crown copyright (2023) Cymru Wales.
Sir a Dinas Abertawe
Ymlaen ar y trên eto trwy Dre-gŵyr ac i mewn i Abertawe, ac rydych wedi cyrraedd pen deheuol y lein lle, mae ein taith yn dod i ben, neu'n dechrau os ydych chi'n mynd i'r Gogledd. Dinas arfordirol yw Abertawe, ar hyd Bae Abertawe, a hi yw'r ddinas fwyaf ond un yng Nghymru. Fe welwch ddigon o bethau i'w gweld a'u gwneud yma, ond dyma rai o'n ffefrynnau.
TAmgueddfa Genedlaethol y Glannau, sy'n adrodd hanes diwydiant ac arloesedd Cymru trwy arddangosfeydd clyweledol a rhyngweithiol. Mae gan yr amgueddfa atgynhyrchiad o locomotif stêm cyntaf y byd, gwasg frics ac un o'r nifer fach iawn o wagenni glo sydd wedi goroesi.
Mae Marchnad Abertawe, yng nghanol y ddinas, wedi bod yn gwasanaethu'r gymuned ers cenedlaethau. Mae'n farchnad brysur a bywiog â thros 100 o stondinau, gan gynnwys cynnyrch lleol ffres ac anrhegion traddodiadol Cymreig, a chyfle i flasu cocos enwog Abertawe, bara lawr a chawsiau Cymreig gwych.
Yn edrych ymlaen at grwydro i lawr i'r bae i fwynhau awyr y môr? O Fae Abertawe gallwch gerdded allan i'r Mwmbwls neu ddal bws ar hyd Penrhyn Gŵyr hardd - mae gwasanaeth bws ar gael os dymunwch orffwys eich coesau. Dewch â'ch dillad nofio i gael hwyl wrth sblasio yn yr LC2 â sleidiau dŵr cyffrous, afon ddiog i arnofio arni a ‘Board-rider’ i'r rheiny sy'n hoff o syrffio.
Photo © Hawlfraint y Goron / © Crown copyright (2023) Cymru Wales.
Mae'r byd yn anhygoel ac mae yma i ni ei archwilio, gobeithio y byddwch yn mwynhau eich taith ar hyd Lein Calon Cymru...