Teithiau cerdded
Rydym wedi sicrhau cymorth Lisa Denison o ‘Quiet Walks’ i ddod â 'Theithiau Cerdded o Orsafoedd' i chi ar hyd Lein Calon Cymru.
Mae'r teithiau cerdded yn amrywio o ran pellter ac yn eich tywys ar hyd hawliau tramwy a llwybrau troed cydnabyddedig. Gyda phob taith gerdded daw cyfarwyddiadau y gellir eu lawrlwytho, mapiau OS, ffeiliau GPX a chanllawiau o ran anhawster a thir.
COFIWCH
Cofiwch fod yn effro wrth gerdded ger y rhwydwaith rheilffyrdd. Os ydych chi'n defnyddio croesfan reilffordd, byddwch yn ofalus a STOPIWCH, EDRYCHWCH, GWRANDEWCH cyn croesi.
I gael gwybodaeth am gadw'n ddiogel ar groesfannau rheilffordd, ewch i wefan Network Rail trwy glicio
yma.