Rheilffordd Gymunedol
Rheilffordd Gymunedol
Mudiad llawr gwlad ym Mhrydain yw rheilffyrdd cymunedol, sy'n cynnwys partneriaethau rheilffordd gymunedol a grwpiau sy’n mabwysiadu gorsafoedd.
Gan weithio â phartneriaid lleol, rhanbarthol a chenedlaethol, mae partneriaethau rheilffordd gymunedol yn ymgysylltu â chymunedau ac yn hyrwyddo cynhwysiant cymdeithasol, lles cymunedol, datblygiad economaidd, a theithio cynaliadwy. Maent hefyd yn cydweithio â gweithredwyr trenau i wella ac adfywio gorsafoedd.
Mae'r Rhwydwaith Rheilffyrdd Cymunedol yn cynnig cefnogaeth a chyngor trwy eu haelodaeth, cysylltu partneriaethau a grwpiau ac eirioli dros reilffyrdd cymunedol â’r llywodraeth, y diwydiant rheilffyrdd, a'r sector gwirfoddol a chymunedol ehangach.
4 Colofn Rheilffordd Gymunedol
● Rhoi llais i'r gymuned
● Hyrwyddo teithio cynaliadwy, iach a hygyrch
● Dod â chymunedau ynghyd, gan gefnogi amrywiaeth a chynhwysiant
● Cefnogi datblygiad cymdeithasol ac economaidd
Y Bartneriaeth
Partneriaeth achrededig yw Partneriaeth Rheilffordd Gymunedol (CRP) Lein Calon Cymru. Mae Rhwydwaith Rheilffyrdd Cymunedol yn gweinyddu’r system achredu ac mae'n berthnasol i'r CRPs hynny sy'n gweithredu yng Nghymru a Lloegr.
Mae'n gydnabyddiaeth ffurfiol gan yr Adran Drafnidiaeth (DfT) a Llywodraeth Cymru bod CRP yn gweithredu i safon uchel ac yn meddu ar amcanion a gweithgareddau y mae’r Llywodraeth yn eu cefnogi.
Grŵp llywio ar gyfer CRP Lein Calon Cymru sy'n goruchwylio gweithgareddau a chynllun busnes y bartneriaeth. Mae'r grŵp llywio yn cynnwys amrywiaeth eang o unigolion a sefydliadau sy’n aelodau gan gynnwys Gweithredwyr Trafnidiaeth, Llywodraeth Leol, Sefydliadau Rheoli Cyrchfannau, Busnesau Lleol a Chynghorau Gwirfoddol Sirol.
Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Powys
Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Powys (PAVO) yw'r sefydliad sy’n lletya Partneriaeth Rheilffordd Gymunedol Lein Calon Cymru.
PAVO yw Cyngor Gwirfoddol Sirol Powys sy'n cefnogi'r trydydd sector yn y sir. Eu 4 maes gweithgaredd yw:
1. Gwirfoddoli
2. Llywodraethu Da
3. Cyllid Cynaliadwy
4. Ymgysylltu a Dylanwadu
Cysylltwch â ni os hoffech wybod mwy am Bartneriaeth Rheilffordd Gymunedol Lein Calon Cymru.