Taith Gerdded Gylchol Fer
Gorsaf Trefyclo
TAITH GERDDED | |
---|---|
Pellter | 7.4km | 4.6 milltir |
Tir | Palmant, lonydd gwledig, caeau, a choedwigoedd |
Anhawster | Drinfa eithaf serth 1km (yr uchder yn cynyddu gan 333m) i ddechrau, dim camfeydd, fel arall yn wastad neu i lawr allt |
Rhybuddion | Yn croesi ffyrdd A |
Trosolwg
Mae'r llwybr hwn yn cyfuno taith gerdded trwy strydoedd hardd Trefyclo â cherdded rhan o llwybr Clawdd Offa uwchben y dref. Mae hefyd yn mynd â chi heibio Canolfan Ymwelwyr Clawdd Offa lle gallwch ddod o hyd I fwy o wybodaeth am hanes y Clawdd a'r llwybr, wrth fwynhau lluniaeth neu bori'r siop lyfrau.
Disgrifiad o'r daith gerdded
Ar ôl gadael Gorsaf Trefyclo (sydd ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr), trowch i'r chwith (i Gymru!) dros afon Tefeidiad a cherddwch am tua 5 munud, heibio tafarn y Horse and Jockey ar y dde ac i'r Stryd Fawr. Fe welwch y gofeb rhyfel ar eich chwith. Croeswch drosodd i’r Knighton Hotel, ewch i'r chwith a chymerwch y troad cyntaf i'r dde i Larkey Lane. Ewch heibio Canolfan Arddio Bradford ac arhoswch ar y lôn sy'n esgyn tuag at y
A488.
Croeswch y brif ffordd ac ewch draw i Ffrydd Terrace, lle dylech weld arwyddbost llwybr troed pren yn pwyntio i'r dde. Gwyrwch i’r dde am gyfnod byr ac ewch rhwng, yna y tu ôl, y tai tuag at y modurdai yn y cefn, lle byddwch yn gweld arwydd llwybr troed arall ar y postyn lamp. Trowch i'r dde o flaen y modurdai, i lôn ac ewch yn syth i'r chwith i mewn i'r goedwig y tu ôl, gan ddilyn y postyn cyfeirbwynt. Rydych chi ar lwybr Clawdd Offa a byddwch yn gweld rhai marcwyr carreg ar hyd y llwybr, yn ogystal ag arwyddion llwybr troed arferol a symbol mesen Llwybr Cenedlaethol.
Yn fuan wedyn, byddwch chi’n croesi dros drac tarmac, parhewch i fyny ac i mewn i'r coed, gan ddilyn arwyddion y llwybr. Parhewch i esgyn y llwybr trwy'r coetir, a fydd yn eich tywys trwy giât ac yn dod â chi at ffin Cwrs Golff Trefyclo, sy’n cynnwys coed aeddfed hyfryd. Trowch i'r dde a dilynwch y ffin ar hyd y goedwig ac wrth iddo wastatau, bydd y golygfeydd yn dechrau agor.
O'r pwynt hwn, parhewch yn syth trwy sawl cae a 4 giât a mwynhewch y golygfeydd. Pan fyddwch yn cyrraedd cae sydd â detholiad hyfryd o hen goed fel gwrych ar hyd y ffens, byddwch yn sylwi bod y llwybr yn gwyro i'r dde ac mae'r giât yn mynd â chi i ochr arall y ffin lle bydd stribed llydan o goed mewn llwybr ceuffordd ar eich chwith. Parhewch i gerdded ar hyd y ffin, ewch trwy un giât arall a heibio un arall lle mae'r ffens wedi cael ei thynnu allan.
Ewch trwy bedair giât arall, gan gadw'n syth ymlaen. Mae'r giât olaf yn arwain at ffordd lle byddwch chi'n troi i'r dde. Ewch ymlaen a dilynwch y troad cyntaf i'r dde lle mae'r arwydd 'rhybudd ceffyl', a pharhewch i gerdded ar hyd y lôn dawel hon yn ôl i gyfeiriad Trefyclo.
Ychydig cyn tro 's’ yn y ffordd, fe welwch giât ac arwydd llwybr troed ar y dde, gan eich tywys i'r cae. Trowch i'r chwith yn y cae a pharhewch i gerdded ar hyd y ffin ac anwybyddwch y giât, gan fynd yn ôl allan i'r ffordd. Daliwch ati nes i chi ddod i lannerch â chronfa ddŵr â ffens ar eich dde, lle byddwch chi'n croesi drosodd i'r cae nesaf. Ewch ymlaen i'r ffin ar y chwith trwy’r cae nes i chi ddod i bostyn llwybr troed a giât yn y gornel lle mae angen i chi fynd ar y lôn.
Trowch i'r dde ar y lôn a pharhewch i gerdded i lawr yr allt heibio Fferm Upper Woodhouse a heibio arwydd llwybr troed ar eich dde. Ar y troad nesaf yn y ffordd fe welwch arwydd llwybr troed a giât i mewn i gae. Dilynwch yr arwydd hwn a cherddwch i lawr yr allt gan ddilyn y ffin chwith orau y gallwch, nes i chi ddod at giât yn ôl i'r lôn ger y byngalo.
Trowch i'r dde i lawr y lôn i'r brif ffordd. Croeswch drosodd gyferbyn â'r garej ac ewch i lawr Heol Penybont. Trowch i'r dde gyntaf ar Heol y Felin a fydd yn eich tywys ar hyd yr afon yn ôl i Drefyclo. Byddwch yn pasio'r hen felin wedi’i gorchuddio â phren, ac yn gweld arwyddbost Llwybr Glyndŵr, sef ail Lwybr Cenedlaethol sy'n dechrau yn y dref. Pan ddewch chi i fforch yn y ffordd, dilynwch y ffordd uchaf ar y chwith heibio i'r bythynnod gwyn. Byddwch hefyd yn mynd heibio teras o fythynnod brics coch cyn cyrraedd arwyddbost ar bolyn lamp lle byddwch chi’n troi i'r chwith i fyny stryd gefn â chanllaw i lawr y canol. Ar ben y ffordd gefn, trowch i'r chwith i fyny'r allt, heibio'r orsaf dân a dewch allan ger tafarn o'r enw The Plough ar eich chwith, â’r Eglwys Gatholig gyferbyn â chi. Croeswch drosodd i'r eglwys, trowch i'r dde a dilynwch y teras o fythynnod i lawr i'r gyffordd nesaf. Trowch i'r chwith i lawr Stryd Norton ac ar y gwaelod fe welwch Ganolfan Ymwelwyr Clawdd Offa dros y ffordd.
Unwaith y byddwch wedi treulio peth amser yn y Ganolfan Ymwelwyr, gallwch fynd yn ôl i'r dref trwy droi i'r chwith allan o'r prif ddrws a dilyn Stryd West sy'n uno â'r Stryd Fawr wrth y twr cloc. I ddychwelyd i'r orsaf, byddwch chi’n parhau i lawr Stryd Lydan ac yn troi i'r chwith gyferbyn â’r Knighton Hotel a cherddwch yn ôl y ffordd y daethoch i'r orsaf.