Taith Gerdded Gylchol Fer
Gorsaf Cnwclas
TAITH GERDDED | |
---|---|
Pellter | 4.4km I 2.7 milltir |
Tir | Ffordd, caeau a bryniau |
Anhawster | Mae’r uchder yn cynyddu gan 132m. Dringfa serth i fyny i’r castell ac i lawr. Rhai camfeydd |
Rhybuddion | Cerdded ar ffordd fach heb balmant. Croesfan reilffordd |
Trosolwg
Mae'r llwybr hwn yn eich tywys trwy'r pentref hardd, yn cynnig taith gerdded o dan Draphont Cnwclas a golygfeydd ohoni, yn ogystal â dringfa i fyny Bryn y Castell, lle mae'r hen ragfuriau bellach yn cynnig golygfan donnog o'r bryniau cyfagos a cheir atyniad ychwanegol cerflun Dant y Ddraig. Mae'r llwybr yn ôl yn gwyro trwy bentrefan bach Llanddewi-yn-Heiob. Mae rhannau o'r llwybr hwn yn dilyn Llwybr Lein Calon Cymru a byddwch yn gweld sawl ‘marc cylchol’ traphont ar arwyddion y llwybr troed.
Disgrifiad o'r daith gerdded ** blychau gwybodaeth ychwanegol
O blatfform gorsaf Cnwclas ewch i lawr y ramp ac, ar y gwaelod, cerddwch i lawr yr allt trwy'r stad dai i gyffordd y ffordd. Trowch i'r chwith ac wrth gyrraedd tafarn y Castle Inn dilynwch y fforch i’r dde. Mae hyn yn eich arwain at bont gerrig fach ar draws yr afon lle byddwch chi'n croesi drosodd ac yn mynd ychydig i'r chwith i'r lôn i fyny'r allt rhwng y tai, i'r dde o'r hen flwch ffôn coch.
Cerddwch i fyny'r lôn hon sy'n cynnig golygfeydd gwych o draphont Cnwclas** a lein rheilffordd i'ch chwith wrth iddi ddringo. Yn y pen draw, mae'r ffordd yn gwyro’n sydyn i'r dde ac wrth wneud hynny, fe welwch bostyn arwydd a mynedfa i fryn Castell Cnwclas ar y dde. Ewch trwy'r giât a dringo'r bryn coetir serth, gan fynd trwy giât arall. Mae'r llwybr yn eich tywys at arwydd sy'n eich pwyntio chi i’r chwith. Dilynwch hwn nes i chi gyrraedd yr arwydd nesaf, ymhellach i fyny, sy’n pwyntio i'r dde. Dilynwch unrhyw un o'r llwybrau a fydd yn eich tywys yr holl ffordd i fyny at olion y castell, sydd wedi'u gorchuddio â glaswellt. Ar y copa fe welwch olygfeydd panoramig o Ddyffryn Tefeidiad, bryniau Clawdd Offa a cherflun pren hyfryd 'Dant y Ddraig' gan Rolf Hook.
I ddod i lawr o'r castell ewch yn ôl y ffordd y daethoch, gan ddefnyddio unrhyw lwybr. Pan gyrhaeddwch waelod y coetir serth, a chyrraedd y ffordd eto, yn hytrach na throi i'r chwith, ewch i lawr y rhodfa breifat yn syth o'ch blaen. Ychydig o’ch blaen ar hyd y chwith, mae bwlch a byddwch chi’n gweld camfa. Ewch drosti ac yna, yn ddiogel ac yn gyflym, croeswch y trac rheilffordd, gan sicrhau na allwch chi weld na chlywed unrhyw drenau yn agosáu. Unwaith y byddwch chi wedi croesi, byddwch yn gweld camfa arall yn mynd i mewn i gae.
Yn y cae trowch i'r dde a cherddwch ar hyd y ffin uchaf am 3 chae. Bydd yr arglawdd rheilffordd coediog ar y dde. Pan gyrhaeddwch y pedwerydd cae, byddwch chi'n mynd i lawr ac ar draws y cae i gamfa yn y gwrych. Y tu hwnt i hon, dylech allu gweld yr eglwys. Unwaith y byddwch chi dros y gamfa, cerddwch i gyfeiriad yr eglwys a chyn bo hir dylech chi weld pont fetel yn mynd dros nant islaw'r cae. Peidiwch â mynd trwy'r giât i'r cae nesaf, yn hytrach ewch i lawr yn ofalus i'r bont fetel a chroeswch drosodd i gae arall. Ewch i fyny'r bryn tuag at yr eglwys. Mae'r gamfa ar gyfer y llwybr cyhoeddus yn mynd i mewn i fferm i'r chwith o'r eglwys, ond efallai y byddai'n well gennych chi fynd drwy'r giât cae yn wal yr eglwys (ymhellach i'r dde) sy'n eich tywys trwy fynwent hardd Eglwys Dewi Sant.
Pan fyddwch chi'n gadael yr eglwys drwy’r brif giât, trowch i'r chwith a dilynwch y ffordd fach hon yr holl ffordd yn ôl i Gnwclas. Pan fyddwch chi’n cyrraedd y draphont, mae bwrdd gwybodaeth i'w ddarllen. Ewch o dan y draphont a throwch i'r dde ar unwaith. Mae'r ffordd breswyl hon yn eich arwain yn ôl i'r dafarn o'r cefn, ac oddi yma byddwch chi’n ail-olrhain eich camau’n ôl i'r orsaf trwy ddilyn y ffordd a throi i'r dde ar ôl y safle bws ar Ffordd 'Glyndŵr' sy'n arwain i fyny i'r orsaf.
** Traphont Cnwclas
Cafodd y draphont ei hadeiladu gan Gwmni Rheilffordd Canolbarth Cymru, ac roedd yn un o ddau ddarn o waith peirianyddol mawr a oedd yn ofynnol wrth adeiladu'r rheilffordd o Drefyclo i Landrindod rhwng 1860 a 1865. Prif beiriannydd sifil y cwmni oedd yr arloeswr rheilffordd o’r Alban, Henry Robertson (1816 - 1888). Roedd eisoes wedi ennill cryn brofiad yn y gwaith o ddylunio ac adeiladu rheilffyrdd yng Ngororau Cymru ac yn gyffredinol fe'i hadnabyddir fel dylunydd Traphont Cnwclas. Dywedir hefyd bod perchennog olion Castell Cnwclas ar y pryd wedi dylanwadu’n drwm ar nodweddion dyluniad y draphont, Mynnodd os oedd angen cerrig o olion y castell i'w defnyddio wrth adeiladu'r draphont, yna roedd yn rhaid i'r draphont gynnwys rhai o nodweddion castell. Yn sicr mae tystiolaeth gref bod rhywfaint o'r cerrig a ddefnyddiwyd fel deunydd craidd y draphont wedi'u cloddio o'r castell yn wir.
Mae'r draphont yn strwythur syth 190 llath o hyd, a chafodd ei hadeiladu'n bennaf o gerrig garw, er ei bod yn cynnwys rhywfaint o waith brics o fewn ei phileri. Mae ganddi 13 bwa, pob un yn ymestyn dros 35 troedfedd 9 modfedd, ac ar ei huchaf mae tua 75 troedfedd uwchben llawr y dyffryn. Ar y ddau ben, mae yna ddau dŵr hanner cylch sylweddol, y ddau â chroes Gristnogol fawr wedi'i hendorri’n ddwfn yn y gwaith cerrig.