Taith Gerdded Gylchol Fer Gorsaf Llandeilo

TAITH GERDDED
Pellter 6km | 3.7 milltir
Tir Caeau, lonydd gwledig, coetir, rhodfeydd, palmentydd, ffyrdd.
Anhawster Mae rhai bryniau graddol, yn wastad yn bennaf, grisiau i lawr i ac i fyny o'r eglwys, grisiau i lawr i'r orsaf
Rhybuddion Croesi ffyrdd a cherdded arnynt, croesi lein rheilffordd

Trosolwg


Mae'r daith gerdded hon yn rhoi cyfle i chi archwilio dwy warchodfa natur cyn cyrraedd tref Llandeilo i archwilio popeth sydd ganddi i'w gynnig. Mae Coed Cadw yn rheoli Coed Tregib ac mae'n cynnwys rhodfeydd a llwybr cerfluniau. Yn ddiweddarach yn y daith mae Coed y Castell, sy'n rhan o Barc Dinefwr yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Gallwch ymestyn y daith gerdded hon i Ystâd Dinefwr, neu ei byrhau trwy osgoi Coed y Castell. Mae'n cynnig llawer o hyblygrwydd.


Disgrifiad o'r daith gerdded


Mae'r daith gerdded yn dechrau ar ochr y de (nid ochr y maes parcio) felly os oes angen, croeswch drosodd pan fydd hi'n ddiogel gwneud hynny. Byddwch chi’n gweld llwybr troed yn rhedeg ochr yn ochr â'r platfform yn mynd i mewn i'r coed. Dilynwch y llwybr hwn, ewch trwy'r giât mochyn, a phan gyrhaeddwch y diwedd, trowch i'r chwith ar y bont droi. Croeswch y bont dros afon Tywi a phan fyddwch chi'n mynd allan o’r giât ar y pen arall, trowch i'r dde i lwybr ar hyd glan yr afon. Dilynwch y llwybr hwn trwy ddau gae, nes i chi gyrraedd camfa sy’n arwain at ffordd. Trowch i'r dde, croeswch y bont ac ewch trwy'r giât ar eich chwith. Rydych chi nawr yng Nghoed Tregib.


Dilynwch y trac i'r chwith, gan ddilyn y ffin chwith a phan fyddwch chi’n cyrraedd postyn pren (ag arwydd Llwybr Coetir) dilynwch hwn yn syth ymlaen. Dilynwch y llwybr troellog, glaswelltog hwn ac ar ôl iddo wyro i’r dde fe gyrhaeddwch chi lannerch. Trowch i'r chwith i ddilyn yr arwyddion coch (llwybr y pathew). Chwiliwch am y pathew cerfiedig ar y cerfluniau hardd yn y coetir.


Arhoswch ar y trac sy'n gwyro i'r dde ac yn troi yn rhodfa. Sylwch ar yr holl arwyddion pren cerfiedig sy'n nodi enwau’r coed yn Gymraeg a Saesneg wrth i chi gerdded heibio. Daliwch ati nes i chi gyrraedd arwydd coch troi i'r dde ar y rhodfa – trowch i'r dde yma. Mae'r rhodfa yn gorffen ger cerflun sycamorwydden fawr. Dilynwch y fforch i’r dde, sy'n llwybr glaswelltog sy'n arwain yn y pen draw at lwybr graean. Trowch i'r chwith ar y llwybr ac ewch trwy giât sy'n eich tywys allan o'r coed. Mae'r giât nesaf yn eich tywys dros bont bren a'r giât olaf i goetir cymunedol.


Trowch i'r dde yn y coetir a cherddwch ar hyd yr ymyl â’r ffin ar y dde. Ar ben y cae peidiwch â mynd i'r cae nesaf, yn hytrach trowch i'r chwith a cherddwch ar hyd y llwybr â’r ffin ar eich ochr dde o hyd. Ar ddiwedd y llwybr, ewch trwy giât yna trwy'r giât fawr i mewn i'r caeau chwaraeon. Trowch i'r dde i ddilyn y llwybr graean o amgylch ffin y caeau, nes i’r llwybr eich arwain at y ffordd. Cerddwch ymlaen ar hyd y ffordd a chyn bo hir, dylech gyrraedd palmant.


Parhewch ar y palmant ar y dde ac ewch heibio'r arwydd brown ar gyfer Castell Carreg Cennen. Ewch o dan y bont reilffordd a heibio i'r ysgol gynradd. Wrth y gyffordd â goleuadau traffig, trowch i'r dde ar hyd yr A483 tuag at y dref. Croeswch drosodd pan allwch chi, ac yna cerddwch dros Bont Llandeilo - lle hyfryd arall i weld Afon Tywi. I'r dde, ar ddiwedd y bont, fe welwch lôn yn mynd i'r chwith i lawr yr allt. Ewch i lawr y lôn hon ac ar hyd y ffordd nes i chi gyrraedd giât wedi'i marcio Coed Y Castell/Castle Woods.


Ewch ar hyd y llwybr trwy'r warchodfa natur hon nes bod y ffens bren ar y chwith yn dod i ben. Yma fe welwch lwybr i lawr i'r chwith sy'n mynd â chi i Eglwys Llandyfeisant, lle gallwch archwilio'r eglwys a'r fynwent hon sy’n hanesyddol bwysig *. Ewch yn ôl i fyny i'r llwybr roeddech chi arno a pharhewch arno, i fyny inclein araf nes i chi ddod i'r gatiau allan o'r coed. Mae hyn yn eich tywys i’r rhodfa i Dŷ Newton yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a Chastell Dinefwr * pe baech yn troi i'r chwith (taith gerdded o tua 10 munud os byddwch yn dewis archwilio'r rhain). I barhau ar y daith gylchol, ewch i'r dde ar hyd y ffordd (neu'r parcdir ochr yn ochr os yw'n well gennych) a fydd yn eich tywys allan o'r ystâd ar ffordd lle rydych chi'n troi i'r dde tuag at y dref.


Wrth i'r ffordd fynd i'r chwith gallwch naill ai fynd yn syth ymlaen i'r dref, gan gadw neuadd y farchnad ar eich chwith, i archwilio'r siopau, yr eglwysi a llawer o leoedd i fwyta, neu gallwch fynd yn ôl i'r orsaf trwy ddilyn y ffordd rownd i'r chwith (Ffordd Newydd). Parhewch i fynd i lawr y ffordd hon nes i chi gyrraedd y gyffordd â'r brif ffordd lle byddwch chi'n troi i'r chwith ac yn croesi drosodd. Dilynwch y troad cyntaf i'r dde yn i Ffordd Alan. Ar ben y ffordd ar y dde, mae llwybr troed coblog sy’n mynd i lawr, pont a grisiau sy'n eich tywys i lawr i blatfform yr orsaf.


*Eglwys Llandyfeisant ac mae'n adeilad o ddiddordeb hanesyddol sylweddol i'r ardal, sydd â chysylltiad cryf ag ystâd Dinefwr. Mae'r Arglwydd Dinefwr olaf wedi'i gladdu ar dir yr eglwys, yn ogystal â llawer o weision a oedd yn gweithio ar ystâd Dinefwr.


Efallai bod hanes y safle’n ymestyn yn ôl i'r cyfnod cyn-Gristnogol. Adeiladwyd yr eglwys gerrig fechan am y tro cyntaf yn yr Oesoedd Canol. Mae'n bosibl bod yr adeilad wedi cael ei ddisodli neu ei ehangu ar ddiwedd y drydedd ganrif ar ddeg, neu ddechrau'r bedwaredd ganrif ar ddeg.


Ailadeiladwyd yr eglwys bron yn gyfan gwbl yn ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mae gan y tu allan arwynebau cerrig rwbel, parapetau talcen a tho llechi. Y tu mewn i’r adeilad, ceir to agored, wedi’i gryfhau gan fwâu, â thrawstiau-croes a chorbelau cerrig, a ffenestr yn y wal ddeheuol o'r 13eg ganrif o'r strwythur blaenorol.


Cafodd yr adeilad ei restru yn Radd II fel "eglwys o ddiddordeb pensaernïol cymedrol mewn lleoliad eithriadol ym Mharc Dinefwr, â mynwent serth iawn â hen gerrig bedd". Ar hyn o bryd mae’r Eglwys yng Nghymru yn berchen arni, sefydlwyd grŵp 'cyfeillion' i helpu i ddiogelu'r eglwys.


*Castell Dinefwr a Thŷ Newton


Mae safle Dinefwr wedi bod yn cael ei ddefnyddio ers ymhell dros 2000 o flynyddoedd. Yn yr Oes Haearn roedd fferm yn y parc, a phâr o gaerau Rhufeinig. Mae taith gerdded fer trwy'r parcdir yn eich tywys i adfeilion Castell Dinefwr o'r 12fed ganrif, y defnyddiodd y tywysog pwerus o Gymru, yr Arglwydd Rhys. Pan ddienyddiwyd Rhys ap Gruffydd am frad gan Harri VIII ym 1531, newidiodd y teulu eu henw i Rice, ac aethant ati i brynu’n ôl yr holl diroedd a atafaelodd y goron.


Erbyn 1659 roeddent wedi llwyddo, a dechreuodd Edward Rice adeiladu tŷ newydd cain yn null Jacobeaidd ar safle plasty canoloesol. Yna, yn y 18fed ganrif, dechreuodd George Rice a'i wraig y Foneddiges Cecil Talbot ail-greu'r parcdir hynafol fel gardd tirwedd hardd, â’r castell adfeiliedig rhamantus ar y bryn yn ganolbwynt parod. Helpodd Capability Brown i ddylunio'r llwybr dolennog sy'n ymdroelli trwy'r parc, â choed sbesimen wedi'u plannu i fframio golygfeydd o'r tŷ a'r castell.

Share by: