Llwybrau Lein Calon Cymru

Lawrlwytho Llwybrau GPX


Yn syml, cliciwch ar y botwm dolen GPX ar gyfer eich llwybr o ddewis i lawrlwytho'r ffeil. Yna gallwch agor y ffeil GPX gan ddefnyddio'r ap o'ch dewis – bydd y ffeil a lawrlwythwyd ar gael yn eich ffolder lawrlwythiadau.


Caiff GPX (fformat eXchange GPS) ei ddefnyddio i ddisgrifio cyfeirbwyntiau, traciau a llwybrau. Gall apiau arbenigol sydd wedi’u dylunio ar gyfer cerddwyr a beicwyr ddarllen y data a gynhwysir mewn ffeiliau GPX. Mae'r ap yn dangos map â’r trac GPX wedi'i osod drosto. Os oes gan y ddyfais sy'n rhedeg yr ap, ffôn deallus neu lechen fel arfer, GPS bydd yn dangos eich lleoliad presennol. Mae apiau mwy soffistigedig yn cynnig gwahanol fathau o fapiau (gwahanol fformatau AO, ac o’r awyr). Efallai y byddant hefyd yn casglu data am eich gweithgaredd mewn ffordd debyg i systemau tracio ffitrwydd.


Mae cywirdeb ffeil GPX yn dibynnu ar sut y cafodd ei chreu.


Mae trac GPX yn cael ei greu trwy gerdded y llwybr mewn gwirionedd. Mae ap yn casglu data lleoliad GPS yn aml, ac yn cynhyrchu cofnod cywir o ble’r aethoch chi, gan gynnwys unrhyw ddargyfeiriadau o'r llwybr a gynlluniwyd.


Caiff llwybr GPX ei adeiladu ar gyfrifiadur trwy glicio ar gyfeirbwyntiau. Mae ansawdd llwybr yn dibynnu ar nifer y cyfeirbwyntiau a gofnodwyd, cywirdeb cofnod, a bod y llwybr yn adlewyrchu'r hyn sydd ar lawr gwlad mewn gwirionedd. Oni bai bod gan yr unigolyn sy'n creu'r llwybr wybodaeth leol, efallai na fydd yn cynnwys dargyferiaidau ar gyfer rhwystrau, camfeydd neu lwybrau sydd wedi'u difrodi, ac ati.


Ar hyn o bryd mae ffeiliau GPX Llwybr Lein Calon Cymru yn llwybrau. Maent yn cael eu disodli gan draciau mwy cywir wrth i Hyrwyddwyr y Llwybr gerdded pob adran eto.


Ceir fformatau ffeil eraill sy’n gwneud gwaith tebyg i GPX, fel KML. Dylai ap sy'n defnyddio un o'r ffeiliau hyn gynnwys cyfarwyddiadau ar ei ddefnydd. Bydd offerynnau trosi ar-lein yn symud data o un fformat i'r llall.


Apiau GPS

Mae yna lawer o apiau ar y farchnad, rhai’n rhad ac am ddim ac mae’n rhaid talu am rai. Nid ydym yn argymell unrhyw ap penodol, ond yn rhestru rhai i'w hystyried. Gofynnwch i gyd gerddwyr i weld beth sy'n gweithio iddyn nhw, a darllenwch adolygiadau ar y rhyngrwyd. Dylai apiau ddod â Canllaw Defnyddwyr, a Chwestiynau a Ofynnir yn Fynych, i'ch helpu i lawrlwytho a mewnforio ffeiliau GPX Llwybr Lein Calon Cymru.


Gwasanaeth tanysgrifio yw OS Maps Online https://www.ordnancesurvey.co.uk/shop/os-maps-online.html sy'n rhoi mynediad i holl fapiau AO. Gall ffeiliau GPX gael eu mewnforio a gall llwybrau gael eu harddangos ar amrywiaeth o ddyfeisiau gan gynnwys ffonau deallus a chyfrifiaduron. Mae'r mapiau papur diweddaraf AO yn cynnwys lawrlwythiad am ddim o'r map, i'w ddefnyddio ar unrhyw ddyfais, gan ganiatáu i ffeiliau GPX gael eu mewnforio.


Ap am ddim yw MapMyWalk https://www.mapmywalk.com â llawer o ymarferoldeb ychwanegol ar gyfer monitro ffitrwydd.


Mae fersiynau premiwm ac am ddim ar gael o GPX Viewer o siopau Android ac Apple. Mae'n darllen ffeiliau mewn amrywiaeth o fformatau.


Mae View Ranger https://www.viewranger.com yn cynnwys amrywiaeth eang o deithiau cerdded ledled y byd.


Os oes gennych hoff ap, rhowch wybod i ni a byddwn yn ei ychwanegu at y rhestr.

Cyfarwyddiadau Ysgrifenedig Llwybr


Ar gyfer cyfarwyddiadau ysgrifenedig llwybr, sgroliwch i lawr neu cliciwch ar ddolen y 'Llwybr' a fydd yn mynd â chi i'r adran honno o'r dudalen. Byddwch yn gweld botwm Lawrlwytho PDF ar ddiwedd pob adran.

1. Gadewch orsaf reilffordd Craven Arms o Blatfform 2 i'r maes parcio a throwch i’r dde bron yn syth, ar hyd llwybr trefol cul, ag arwyddion i Ganol y Dref, rhwng gerddi a ffensys. Mae angen i chi ddilyn yr arwyddion treftadaeth haearn du trwy'r dref. Ewch i'r chwith wrth y gyffordd ac yna tua’r dde ar draws maes parcio'r archfarchnad i fynd heibio mynedfa'r archfarchnad, ac yna i'r chwith i brif ffordd yr A49. Croeswch y ffordd yn ofalus iawn a throwch i'r dde i gyrraedd Corvedale Road (B4368) sy’n mynd i'r chwith o gylchfan fechan. Ewch i lawr y ffordd hon nes i chi gyrraedd Market Street ar y dde, ewch i lawr y stryd hwn a cherddwch yn syth ymlaen, heibio Amgueddfa Hiraeth ‘Land of Lost Content’ nes i chi gyrraedd Tafarn Stokesay. Ychydig y tu hwnt mae mynedfa Canolfan Ddarganfod Bryniau Swydd Amwythig, man cychwyn amgen, sydd ar agor bob dydd ac yn ddelfrydol ar gyfer lluniaeth, mapiau a llyfrau.

 

2. Os ydych chi’n dechrau yng Nghanolfan Ddarganfod Bryniau Swydd Amwythig, gadewch drwy'r brif fynedfa i gerddwyr, trwy'r maes parcio. Ewch dros y ffordd a throwch i'r chwith. Croeswch yr A49 wrth y groesfan i gerddwyr, ewch i'r chwith ac yna’n syth i'r dde ar hyd llwybr i mewn i Dodds Lane. Daliwch ati i ymuno â llwybr; sy’n rhedeg o dan reilffordd y Mers i gamfa ger giât. Ewch i mewn i'r cae ac ewch ychydig i'r dde gan ddilyn llinell nifer o hen goed. Croeswch gamfa ac ewch ychydig i'r dde tuag at y gwrych ochr yn ochr â rheilffordd Calon Cymru. Ewch yn eich blaen, gan fynd dros dros dair camfa wrth i chi gerdded trwy gaeau i Park Lane.

 

3. Ewch i'r dde yma, o dan y rheilffordd i'r B4368. Byddwch yn ofalus wrth groesi drosodd i ffordd tarmac ac yna ewch ymlaen i ymuno â Watling Street. Ewch i'r chwith ar lwybr ger mynegbost sy’n dangos Llwybr Swydd Amwythig, gan basio sawl tŷ i ail giât mochyn. Ewch yn eich blaen dros ddwy gamfa arall mewn ffiniau caeau i adael Craven Arms. Chwiliwch am borth a chamfa ar y chwith, hanner ffordd i fyny'r cae nesaf. Ewch drwyddi ac ewch ychydig i’r dde, gan anelu am bostyn cyfeirbwynt yna at gamfa sy'n arwain i mewn i lôn. Byddwch yn ofalus o'r traffig!

 

4. Dringwch gamfa ddwbl yn union gyferbyn â parcdir. Ewch ychydig i'r chwith ger y postyn cyfeirbwynt a byddwch yn gweld adeiladau Sibdon Carwood i'r dde. Ewch trwy giât mochyn, dros y drofa, a thrwy ddwy giât arall, pont droed a chamfa bren i fynd i mewn i borfa fawr. Nawr, anelwch ychydig i’r dde yn agos iawn at goed derw mawr. Parhewch i anelu i’r chwith o fwthyn carreg o'ch blaen, lle byddwch yn croesi camfa ychydig fetrau y tu hwnt iddo.

 

5. Byddwch chi’n esgyn ar lwybr hynafol i borfa ychydig i'r chwith o wrych, a dilynwch linell y gwrych am tua 100 metr, cyn arafu ychydig i'r chwith i fyny'r cae i gamfa wrth giât â ffynidwydden tal y tu hwnt iddi. Ewch i'r chwith i fyny trac a dilynwch ffin y coetir yr holl ffordd o amgylch i gornel chwith uchaf y cae, lle byddwch yn mynd i'r chwith o adeilad adfeiliedig: mae tir gwlyb o gwmpas. Esgynnwch i gamu dros gamfa a pharhewch ar hyd y ffens i gyffordd llwybrau troed wedi'u marcio gan fynegbost.

 

6. Croeswch y gamfa ar Gomin Hopesay, sy'n eiddo i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, lle gwelwch Fryngaer Burrow o’r Oes Haearn ar y gorwel o'ch blaen. Dilynwch y llwybr ymlaen am tua 100 metr ac yna ychydig i'r chwith i gyrraedd pen uchel y bryn lle ceir golygfa bron i 360 gradd - y Long Mynd a'r Stiperstones i'r gogledd, Swydd Henffordd i'r de a Llwydlo i'r de ddwyrain. Parhewch yn eich blaen i'r chwith o glwstwr o goed tal ac i lawr y bryn, gan anelu i'r dde o dŷ mawr yn y dyffryn. Fe welwch bentref ac eglwys Hopesay islaw ar y dde. Yng nghornel waelod y Comin, ewch drwy'r giât fach a throwch i'r chwith i fynd i lawr i giât mochyn a throfa, gan basio annedd ar y dde. Croeswch dros y lôn ac ewch drwy ail giât fach a thros bont droed. Mae'r llwybr yn gwyro ychydig i'r dde trwy'r coetir gan fynd allan dros gamfa i mewn i borfa.

 

7. Parhewch gan wyro ychydig i'r dde tuag at bostyn cyfeirbwynt; mae'r llwybr yn gwyro ychydig i'r chwith i gamfa arall. Ewch ymlaen trwy goedwig fach arall gan fynd ymlaen ochr yn ochr â ffens i'ch chwith i mewn i borfa. Mae'r llwybr yn mynd heibio i eithin a phrysgwydd wrth i chi fynd ymlaen a chyn bo hir byddwch chi’n dilyn llwybr glaswellt o dan lethr o eithin. Mae yna nifer o byst cyfeirbwynt yma i'ch tywys. Mae'r trac yn rhedeg o dan fythynnod ac i lawr at giât cae. Unwaith y byddwch wedi dod trwy’r giât, ewch ymlaen ar lôn sy'n gwyro i'r dde i fynd i lawr i Aston ar Clun a'r Goeden Deildy, y mae'r pentref yn haeddiannol o enwog o’i herwydd. Ger y gyffordd, croeswch dros y ffordd B4368 â gofal, a throwch i'r chwith i gerdded ar hyd y palmant i Redwood Drive. O'ch blaen mae tafarn y Kangaroo, ac ychydig fetrau ymhellach ymlaen ac i lawr y lôn i'r dde (B4369 i Broome) mae’r Siop Gymunedol a'r Caffi.

 

8. Ar y pwynt hwn, gallwch gysylltu â gorsaf Broome trwy barhau ar hyd y B4369, heibio i'r Siop Gymunedol i'r orsaf, sydd 0.5km bellach i lawr y lôn hon. Mae mynedfa'r orsaf reilffordd ar y dde cyn y bont.

1. Os ydych chi wedi bod yn cerdded o Craven Arms, gallwch gysylltu â gorsaf Broome o Aston-ar-Clun trwy barhau ar hyd y B4368, heibio'r siop gymunedol a Thafarn y Kangaroo, yna cymerwch y troad cyntaf i'r dde (B4369) i'r orsaf, sydd 0.5km bellach i lawr y lôn hon. Mae mynedfa'r orsaf reilffordd ar y dde cyn y bont. Os ydych chi'n cychwyn eich taith gerdded ar y llwybr o Broome, yna cerddwch ymlaen i'r gyffordd ffordd â’r bont i'r dde. Ewch i'r chwith a dilynwch y ffordd i Aston-on-Clun, ac wrth y gyffordd â'r B4369, ewch i'r chwith i gyrraedd Redwood Drive.


2. Cerddwch i lawr Redwood Drive, gan anwybyddu'r gyffordd ar y dde, i gyrraedd trac, ychydig i'r dde, ychydig y tu hwnt i'r tai. Mae'r llwybr yn mynd o flaen giât. Dilynwch y llwybr wrth iddo wyro i'r chwith, a thrwy dwy giât a chorlannau defaid dros dro, i fynd i mewn i gae. Fe welwch gamfa o'ch blaen, ac un drosodd mewn ffens ar y dde. Ewch dros y gamfa ar y dde, i mewn i'r cae mawr, yna parhewch ymlaen yn gyfochrog â llinell o goed i giât mochyn yn y gwrych sy'n arwain ar lôn. Trowch i'r chwith ar hyd y lôn, croeswch y bont dros Afon Clun ym mhentre Beambridge ac ewch i'r dde. Dilynwch y lôn hon am tua hanner milltir. Mae'r ffordd yn gwyro ychydig i'r chwith o dan ganopi o goed ac, ar y pwynt hwn, fe ewch i'r dde i lawr i bont droed dros Afon Clun sydd i'w gweld o'r ffordd uwchben.


3. Cerddwch ychydig i'r chwith dros gamfa wrth giât gae. Dilynwch linell o goed ychydig i'r dde a thros gamfa arall wrth giât. Parhewch ymlaen i fynd yn agos at annedd ar y dde; anelwch i'r dde o ysgubor lle byddwch chi'n croesi camfa wrth giât gae. Cerddwch ochr yn ochr â llinell o goed cyll i basio trwy giât arall. Yn awr, anelwch ychydig i'r dde tuag at hen goeden dderw, ac ymlaen at giât cae. Unwaith y byddwch drwyddi, dilynwch y gwrych i'r dde ac ar ddiwedd y cae, ewch trwy giât cae arall i ffordd.


4. Trowch i'r chwith, dros y bont, a cherddwch ar hyd ffordd sy'n ymdroelli trwy bentref hardd Clunbury sy’n swatio o amgylch yr eglwys. Mae'r ffordd yn codi i fyny at gyffordd; cadwch i'r dde yma i fynd ar hyd lôn ag arwydd i Twitchen. Ymhen tua hanner milltir, byddwch yn cyrraedd cyffordd â’r B4385. Croeswch â gofal, yna trowch i'r chwith i gerdded 50 metr at giât mochyn.


5. Trowch i lawr i gerdded dros bont drol i'r cae nesaf. Anelwch at yr ysgubor o’ch blaen, ac wrth y postyn cyfeirbwynt, ewch i'r chwith ac yna i'r dde i fynd heibio’r ysgubor (yn aml mae’n fwdlyd yma) yna anelwch i’r chwith i groesi ffos a chyrraedd giât fechan yn y gwrych. Dringwch i fyny ac ewch ychydig i'r dde i ben y cae, lle byddwch chi'n croesi camfa ddwbl. Dringwch i fyny, ochr yn ochr â'r coedwig ar y dde, yna ewch ar draws y borfa i gamfa sy'n arwain i goetir. Cerddwch am ychydig fetrau i'r dde, yna mae'r llwybr yn gwyro ychydig i'r chwith ac yn dringo'n raddol i fyny clawdd i bostyn cyfeirbwynt ar drac coedwigaeth. Ewch i'r chwith a pharhewch ymlaen am tua 250 metr. Ychydig cyn y ddisgynfa, edryhwch am lwybr ar y dde. Dilynwch hwn drwy'r coedwig hyd at giât mochyn ar lôn wledig.


6. Ewch dros y lôn, croeswch gamfa a dilynwch ymyl dde'r cael lle ceir golygfeydd da o’ch blaen tuag at Gymru. Croeswch gamfa i'r cae nesaf a byddwch yn gweld Castell Hopton islaw. Ewch ychydig i’r dde; rydych chi'n anelu at bwynt ychydig i'r chwith o adeilad adfeiliedig. Ewch dros y gamfa a bydd y trac yn gostwng i lawr i drofa ac yna lôn. Parhewch ymlaen at gyffordd yng Nghastell Hopton. Os ydych chi'n parhau i Bucknell, trowch i'r dde.


7. Ar y pwynt hwn, mae'n bosibl dilyn llwybr cyswllt ar gyfer taith gerdded 1.5 km i orsaf Hopton Heath sy'n mynd heibio Castell Hopton. Ewch i'r chwith ar hyd y ffordd, a throwch i’r dde ger yr arwydd cyntaf i Bedstone. Mae'r castell ar y dde (mynediad am ddim). Ewch heibio tŷ a chwiliwch am gamfa ar y chwith. Croeswch hon ac ewch dros y cae i giât cae a phont dros nant. Cerddwch ychydig i'r dde, ewch drwy giât cae arall i lôn, a throwch i'r dde i gerdded ar hyd y lôn i mewn i Hopton Heath. Wrth y gyffordd, cadwch i'r dde ar draws y bont reilffordd, yna cerddwch i lawr grisiau i'r platfform.

1. Mae llwybr cyswllt o Orsaf Reilffordd Hopton Heath i Gastell Hopton. Camwch i fyny i'r ffordd, trowch i'r chwith dros y bont rheilffordd ac i’r chwith eto ar hyd lôn hyfryd gydag ymyl gwyrdd llydan. Ar ôl i chi basio bryncyn nodedig Warfield Bank ar y chwith, a'r lôn yn gostwng i lawr i wyro i'r dde, ewch i'r chwith trwy giât i gae. Cerddwch ychydig i'r dde ar draws y cae, dros bont droed a thrwy ail giât cae. Mae'r llwybr yn croesi'r ail gae hwn i gamfa mewn gwrych ac i mewn i lôn. Ewch i'r dde i Gastell Hopton, ymhellach ymlaen ar y chwith. O'r Castell ewch i'r chwith i'r gyffordd, ac i’r chwith eto trwy'r pentref i ymuno â'r prif lwybr.


2. Cerddwch drwy'r pentref â’r nant fechan i'ch chwith; mae'r eglwys ar draws cae i'r dde wrth i'r ffordd wyro i'r chwith i basio mynedfa Upper House Farm. Wrth iddo godi a dechrau gwyro i'r dde, ewch drwy giât ar y chwith i gae, a dilynwch y trac tractor o'ch blaen, trwy ddwy borfa a gatiau. Mae'r trac yn codi, yn gwyro i'r dde ac yna i'r chwith i gyrraedd giât cae i mewn i Hopton Wood.


3. Ewch i'r chwith i fyny at gyffordd, a throwch yn sydyn i'r dde ar drac coetir, bydd beiciau’n ei rannu hefyd weithiau. Dilynwch y trac hwn o amgylch troeon ysgafn nes ei fod yn dechrau disgyn, lle mae postyn cyfeirbwynt byddwch chi'n mynd i'r chwith gan ddilyn trac sy'n dringo'n gyson am gryn bellter, gan fynd heibio un postyn cyfeirbwynt ger cyffordd cyn cyrraedd y brig.


4. Croeswch yn syth dros y trac coedwigaeth a pharhewch ymlaen ar lwybr troed glaswelltog i adael Coed Hopton. Lle mae'r trac yn gwyro i’r chwith yn dilyn y conwydd, ewch yn syth ymlaen, gan basio perllan hadau conwydd ar eich chwith. Efallai y bydd planhigion wedi tyfu’n gwyllt ar hyd y llwybr yn yr haf. Yn y pen draw, byddwch chi’n cyrraedd giât fach cyn Meeroak Farm, ac yn mynd i'r chwith o ysgubor. Dilynwch y llwybr trwy gatiau ac i lawr i drofa. Parhewch ymlaen nes i chi fynd trwy borth. Trowch i'r dde yma, ar hyd ymyl coedwig, ac yna wrth i'r llwybr wyro i’r chwith dros gamfa ar y dde, i mewn i gae.


5. Ewch ychydig i'r dde ar draws y cae i'r ffin gyferbyn. Trowch i'r dde yma, i gerdded i lawr ymyl y cae i groesi camfa wrth giât: ceir golygfeydd gwych i fyny Dyffryn Redlake. Parhewch i lawr dros gamfa arall wrth giât, heibio Honeyhole Farm yr ochr arall i'r gwrych. Dilynwch y gwrych i'r chwith i lawr tuag at giât mochyn uwchben tŷ a stablau. Ewch i lawr i'r giât mochyn wedi'i phaentio. Cadwch at y ffin chwith drwy'r ardd, i giât cae metel ar y chwith. Dilynwch y cyfeirbwynt drwy'r giât i'r cae, trowch i'r dde a dilynwch y gwrych i lawr at giât cae sy'n arwain at ffordd.


6. Trowch i'r chwith ar hyd y ffordd. Lle mae'n gwyro’n sydyn i'r dde, ewch drwy'r giât cae ar eich chwith. Ewch ychydig i'r dde ac ar hyd y trac i fyny'r allt, trwy giât a heibio llinell o goed cochion ar y dde. Wrth gyrraedd giât cae arall, gwyrwch i'r dde ar hyd llwybr march; mae'n cyfuchlinio o amgylch gwaelod Bucknell Hill, trwy goetir uwchben Afon Redlake. Ar ôl i chi adael y coetir, ewch drwy giât fach a giât cae ymlaen i Bridgend Lane, sy’n arwain i mewn i Bucknell.


7. Dilynwch y lôn drwodd i'r brif ffordd yn Bucknell. Trowch i'r chwith ar gyfer yr orsaf reilffordd, heibio tafarn y Baron Inn. Mae'r ffordd yn gwyro i'r dde ac ar draws pont. Trowch i'r chwith ar ôl y bont, ar hyd llwybr ag arwyneb i'r chwith o eglwys y plwyf. Mae hwn yn dod i ben ar brif ffordd arall. Trowch i'r dde i basio'r Sitwell Arms a thros y groesfan reilffordd i fynd i mewn i'r orsaf. Os byddwch chi'n parhau ar y llwybr, trowch i'r dde ar ddiwedd Bridgend Lane.

Gorsaf Reilffordd Bucknell i Drefyclo 14km

1. O orsaf Bucknell, ewch i'r chwith dros y groesfan reilffordd ac i'r dde ar hyd y palmant i basio'r Sitwell Arms. Ychydig y tu hwnt, trowch i'r chwith i gerdded ar hyd llwybr ag arwyneb ger Afon Redlake. Cadwch i'r dde o'r eglwys, a throwch i'r dde i gerdded dros y bont; mae'r ffordd yn gwyro i'r chwith ac yn mynd heibio tafarn y Baron Inn. Ger y gyffordd â Bridgend Lane, byddwch chi’n ymuno â'r prif lwybr. Parhewch i'r gorllewin ar y lôn yn Bucknell a thros bont fach. Ger y troad i’r dde, parhewch yn syth ymlaen i Daffodil Lane, heibio tiroedd hamdden. Mae'n dechrau codi; parhewch yn syth ymlaen.


2. Mae'r trac yn codi, yna’n lefelu am adran cyn cyrraedd cyffordd yng Nghoedwig Bucknell. Ewch i'r dde yma i ymuno â llwybr coedwigaeth, ac aros arno wrth iddo godi a gwyro i'r dde. Wrth yr ail fforch, cymerwch y trac ar y chwith sy’n mynd i fyny; mae’r trac yn gwyro ymhellach i'r chwith, ac yn codi eto trwy grŵp o goed brodorol, derw yn bennaf. Yn y pen draw byddwch yn cyrraedd cyffordd groesgam; ewch i'r chwith ac yna dilynwch y trac wrth iddo wyro i'r dde, gan ddringo i basio o dan linell o goed ffawydd bendigedig. Mae'r trac yn gwyro i'r chwith ac yn parhau hyd at ben ucha’r coedwig lle mae giât yn arwain allan i borfa agored.


3. Mae'r llwybr yn parhau tua'r gorllewin am rai milltiroedd, bellach ar hyd hen ffordd borthmyn, nes iddo gyrraedd Llwybr Clawdd Offa. Dilynwch y trac tractor o'ch blaen lle ceir golygfeydd gwych i fryngaer Caer Caradoc sy’n eistedd uwchben pentrefan Chapel Lawn islaw. Ceir hefyd olygfeydd pell yn ôl i'r Caer Caradoc arall ger Church Stretton. Wrth gyffordd y traciau, parhewch ymlaen trwy giât a cherddwch i fyny i'r coedwig. Ewch trwy giât cae arall ac ewch heibio i gamfa ar y dde.


4. Parhewch ymlaen i fynd trwy ddwy giât ger llain o goetir. Dilynwch y trac sydd o'ch blaen trwy nifer o borfeydd, gan fynd trwy bedwar giât cae. Mae gwrychoedd yn amgáu’r trac ac mae'n wlyb mewn mannau wrth iddo fynd i lawr trwy giât arall, a heibio i adeiladau, i gyrraedd y brif ffordd yn Five Turnings; mae hyn yn llythrennol yn disgrifio cyffordd o bum ffordd mewn cyfnod cynharach.


5. Croeswch y brif ffordd â gofal ac ewch trwy giât gul ychydig y tu ôl i'r blwch post sydd wedi'i farcio â GR, i barhau ar lwybr y porthmyn rhwng gwrychoedd, ac yna trwy giât ac ychydig i'r chwith, gan godi trwy gae mawr tuag at goed pinwydd ar y grib o'ch blaen. Dilynwch y ffens ar yr ochr chwith i giât fach ac ewch ymlaen ar hyd trac sy'n ymuno â llwybr cenedlaethol Llwybr Clawdd Offa.


6. Trowch i'r chwith i ddilyn y llwybr cenedlaethol (sydd wedi'i gyfeirbwyntio â symbolau mesen) drwodd i Drefyclo. Mae adran dda o'r heneb hynafol ychydig i'r chwith. Ewch ar hyd y llwybr, gan fynd trwy sawl giât, bob amser â ffens i'r chwith. Mae yna hefyd olygfeydd godidog i fyny Dyffryn Tefeidiad ar draws i Gastell Gnwclas, pentref a thraphont reilffordd. Wrth gyrraedd sedd ar olygfan lleol, mae’r llwybr yn gwyro i’r chwith ac yn culhau wrth iddo ddisgyn i lawr ochr y bryn i fynegbost. Ewch i'r dde yma gan ddisgyn yn serth i lawr i lôn: mae angen cerdded yn ofalus oherwydd bod y llwybr wedi'i erydu’n drwm mewn mannau. Dylai'r rheiny sydd angen cerdded yn syth i orsaf reilffordd Trefyclo droi i'r chwith yma ar hyd y lôn: mae'n cymryd tua deng munud i gerdded i'r orsaf


7. Croeswch y lôn, ewch trwy giât a dilynwch y llwybr a dreuliwyd i groesi'r trac rheilffordd â llawer o ofal, ac yna'r bont droed sy'n croesi Afon Tefeidiad. Dilynwch lan yr afon wrth iddi wyro i'r chwith, trwy gatiau mochyn i mewn i goetir, lle rydych chi'n croesi'r ffin rhwng Cymru a Lloegr. Yna mae'r llwybr yn codi wrth iddo droi i'r dde, gan fynd i fyny i Ganolfan Clawdd Offa ac i'r chwith ar gyfer canol tref Trefyclo.

1. Gadael Gorsaf Reilffordd Tref-y-clawdd i gerdded i fyny heol y Gorsaf, gan fynd heibio tafarn y ‘Horse and Jockey’ i gyffordd; saif ‘Knighton Hotel’ gyferbyn. Ewch i'r dde i Broad Street i godi i fyny at Dŵr y Cloc. Mae angen i’r rhai sy’n dod i mewn o Ganolfan Ddarganfod Clawdd Offa droi i’r chwith o fynedfa’r Ganolfan i gerdded ar hyd Stryd y Gorllewin i Dŵr y Cloc. O’r fan hon byddwch yn dilyn Llwybr Glyndŵr allan o’r dref i heol ‘Rookery’. Mae hwn yn llwybr cenedlaethol felly bydd angen i chi ddilyn cyfeirbwyntiau llwybr y Fes; ni fydd crwneli Llwybr Rheilffordd Calon Cymru ar y rhan hon.


2. O Dŵr y Cloc ewch i fyny'r Stryd Fawr sy'n arwain i mewn i ‘The Narrows’, stryd serth i gerddwyr hyd at gyffordd ychydig y tu hwnt i dafarn y Llew Aur yn Heol y Castell. Ewch i'r chwith yma ac ymhen tua 100 metr cadwch i'r dde. Ychydig y tu hwnt i'r gyffordd â Heol ‘Plough’, ewch i lawr llwybr palmantog ar y chwith i groesi Heol y Felin a disgyn eto i Heol ‘George’. Cadwch i'r dde yma i gerdded rhwng bythynnod a gerddi glan y dŵr. Parhewch ymlaen ar lwybr ag wyneb arno ger nant Wylcwm. Mae hwn yn codi i Heol y Felin. Croeswch drosodd a dringwch wrth ymyl gerddi a phasiwch ddiwedd lôn. Croeswch Heol Pen-y-bont ac ewch i fyny lôn, ond torrwch i'r dde i ddringo eto ger gerddi i fyny at Lôn Garth.


3. Ewch i'r dde yma am tua 50 metr, yna trowch i'r chwith ar drac ger bythynnod. Mae'r llwybr gwyrdd yn arwain i goetir o dan Allt y Garth. Ewch drwy giât fechan, a dilynwch y llwybr wrth iddo wyro i’r dde, goleddu ychydig ac yna codi i fyny drwy’r coed. Anwybyddwch lwybrau a gatiau i'r dde i lawr ochr y bryn; daliwch ymlaen i adael y goedwig trwy giât cae ac yna ar hyd lôn werdd gyda gwrychoedd uchel ar ei hyd. Byddwch yn cyrraedd lôn ‘Rookery’. Daliwch ymlaen i fyny at y gyffordd trionglog.


4. Trowch i’r dde yma i adael Llwybr Glyndŵr ar hyd ffordd sydd wedi’i harwyddo i Langunllo. Anwybyddwch y troad ar y dde i Graig-y-don, ond daliwch ymlaen drwy giât cae ger grid gwartheg i dir mynediad agored, a elwir yn Gae Ras y Comin neu ‘White Anthony’. Gadewch y ffordd i gerdded ar hyd trac gwyrdd am tua 700 metr. Mae'n gwyro oddi ar y lôn i'r dde ac yn rhedeg yn agos at linell y ffens hyd at y pen pellaf lle mae'n torri'r gornel ond yn dychwelyd yn fuan at linell y clawdd. Chwiliwch am fynegbost ar y dde. Ewch drwy giât cae yma a cherddwch ymlaen i basio drwy ail giât. Unwaith y byddwch drwodd, trowch i'r chwith i gerdded ar hyd clawdd a thrwy drydedd giât cae. Yn olaf, dringwch gamfa i lôn.



5. Trowch i'r dde i gerdded i lawr y lôn wrth iddi droelli ei ffordd i lawr am ryw gilometr, gan ddisgyn yn serth i Gnwclas. Ar y gyffordd cyn y draphont, ewch i’r dde ac fe welwch fwrdd dehongli o dan y bwâu ar y chwith. Ewch ymlaen i gyrraedd pont sy'n croesi Nant Ffrwdwen. Dylai'r rhai sy'n parhau gadw i'r chwith dros y bont.


Cyswllt yr Orsaf: Os ydych yn mynd am orsaf reilffordd neu safle bws Cnwclas, trowch i'r dde cyn y bont i fynd heibio i'r Tafarn y Castell. Ewch ymlaen wrth y gyffordd ger y dafarn; mae safle bws i fysiau i Drefyclo gyferbyn â’r lloches bws. Trowch nesaf i'r dde i mewn i Glyndŵr am yr orsaf reilffordd ar ben y bryn.

Gorsaf reilffordd Cnwclas i Orsaf Reilffordd Llangynllo 18km

Orsaf Reilffordd Llangynllo i Orsaf Reilffordd Heol Llanbister 14 km

1. Gadewch Orsaf Reilffordd Cnwclas i deithio i lawr ar hyd stryd o'r enw Glyndŵr. Trowch i'r chwith ar y gwaelod, ac yna cadwch i'r dde wrth y fforch cyn Gwesty'r Castle Hotel. Parhewch i ymuno â'r llwybr ar gyffordd ger pont. Unwaith y byddwch chi dros y bont, wrth i'r ffordd wyro’n sydyn i'r dde, parhewch ymlaen ar lôn ger yr hen giosg ffôn coch. Dringwch i fyny'r bryn ac wrth i'r lôn wyro i'r dde, mae giât i fyny ar y dde ar lwybr sy'n arwain i fyny at Gastell Cnwclas. Mae'r llwybr yn cyrraedd cyffordd mewn coetir ac yn mynd i'r chwith, a'r chwith eto, yn unol â’r cyfeirbwyntiau i ragfuriau'r castell.


2. Mae'r llwybr yn dilyn pyst cyfeirbwynt i ben y rhagfuriau i edmygu'r olygfa a'r cerflun. Yna mae'n disgyn i lawr i giât cae ar yr ymyl orllewinol. Unwaith y byddwch chi drwyddi, ewch ymlaen ar lwybr o'ch blaen, ond ar ôl tua 100 metr, trowch i'r chwith, trwy giât cae arall, a cherddwch i lawr trac gwyrdd i gwt bach ar y dde. Ewch i'r dde trwy giât cae ac ewch i fyny trwy borfa i giât arall. Bellach rydych chi’n mynd ar hyd crib rhwng cymoedd Tefeidiad a Heiob. Parhewch i fyny'r allt ar hyd llwybr glaswelltog, trwy giât arall ac i lawr trac i gyrraedd adeiladau fferm. Trowch i'r dde yma i ddilyn y lôn tarmac am gilometr wrth iddo ymdroelli i lawr tuag at bentref Llwyni, gan basio ysgubor ar gornel llym a ffordd yn dod i mewn o'r chwith ymhellach i lawr.


3. Wrth i'r lôn ddechrau wyro i'r dde, trowch i'r chwith yn llym i geuffordd wrth fynegbost. Mae hon yn arwain at ymyl coetir, gan ddringo'n gyson i giât cae. Parhewch ymlaen, gan ddringo eto, trwy ail giât ac yna dechreuwch ddringo mewn gwirionedd, gan ddilyn llinell y ffens ar y chwith. Ewch heibio ardal fach o goed ac eithin. Mae'r llwybr yn dringo'n serth eto, gan fynd trwy byst gatiau mewn gwrych sy'n weddill, ac yna'n lleddfu i fyny y grib. Ewch ymlaen ar hyd borfa ar Goytre Hill.


4. Ewch trwy giât cae i Wernygeufron; cerddwch ar hyd y comin am bron i 4.8 km (3 milltir) gan ddilyn trac gwyrdd a chadw'r ffens ar eich chwith. Byddwch chi'n dringo'n araf i bwynt uchel ac yna'n dod i lawr i groesffordd ger planhigfa goedwigaeth i ymuno â Llwybr Glyndŵr.


Cyswllt Gorsaf: Y ffordd fwyaf deniadol o gerdded i orsaf Llangynllo yw ar Lwybr Glyndŵr, tua 5km (3 milltir). Dilynwch yn ail droad i'r chwith (peidiwch â mynd i’r chwith yn syth) wrth y gyffordd, trwy giât cae i ddilyn Llwybr Glyndŵr ar draciau a llwybrau i lôn, ychydig cyn iddo wyro o dan reilffordd Calon Cymru. Mae angen dilyn cyfeirbwyntiau Llwybr Glyndŵr hyd yma. Unwaith y byddwch chi ar y lôn, fodd bynnag, trowch i'r chwith a cherdded am tua 600 metr at grŵp bach o dai. Mae mynediad i’r platfform rhwng y tai, trwy giât ddwbl; nid yw'n amlwg ar unwaith. I'r rheiny sy'n dymuno aros dros nos yn Llangynllo, ewch ymlaen ar Lwybr Glyndŵr am tua 2 km (ychydig dros filltir). 


5. Mae'r prif lwybr yn dilyn Llwybr Glyndŵr ymlaen i'r comin â phlanhigfa goedwigaeth gonifferaidd ar eich chwith. Ar ôl ychydig, mae'r trac yn gwyro ychydig i’r dde i ffwrdd o'r ffens, ac ardal y coetir i'ch chwith, gan ddringo'n raddol am gyfnod. Yna mae'n disgyn i ddau bostyn cyfeirbwynt; chwiliwch am lwybr march sy’n canghennu i'r chwith.


6. Ewch i'r chwith ar hyd y llwybr march, a ddisgrifir orau fel llwybr aneglur ar draws rhostir grug. Ewch ymlaen am tua 2 km (ychydig dros filltir), gan ddilyn y pyst cyfeirbwynt ar draws y rhostir, grug a llus yn bennaf neu creiglus, wrth i chi fynd i'r de ac yna i'r de-ddwyrain i ymyl un o lednentydd afon Llugwy, wedi'i amgylchynu gan dir gwlyb mawnog. Ewch i lawr llethrau rhedyn i groesi afon Llugwy yn agos at ei tharddle. Bydd angen i chi fod yn fwy gofalus ar ôl glaw trwm yn ystod misoedd y gaeaf, pan fydd yr afon yn llifo'n llawn.


7. Dringwch i fyny hen drac sy'n gwyro ychydig i'r chwith trwy'r rhedyn, gan blethu mewn mannau, i giât fach mewn ffens o dan goeden ynn. Unwaith y byddwch chi drwodd, parhewch ymlaen ar hyd llinell o goed i ddechrau, yna gwrych wedi’i balu, i giât gae. Ewch drwodd i mewn i gae mawr. Cerddwch ymlaen ochr yn ochr â'r gwrych ar y dde, nes eich bod yn gyfochrog â maes cae, yna anelwch am y gornel chwith ar y gwaelod, i fynd trwy giât cae arall. Mae'r llwybr yn parhau ymlaen i lawr trac ceuffordd, yn llawn brwyn, a chyn cyrraedd y gwrych dringwch allan i fynd i'r dde ar ei hyd at giât arall. Ewch drwy giât a dilynwch y trac trwy giât arall, gan fynd heibio i adfail fferm Fronfelen ar y dde, yna gwyrwch i'r chwith i lawr i'r B4356. Gallwn ddiolch i Ymddiriedolaeth Natur Sir Faesyfed am yr adran ganiataol olaf hon, fel rhan o’r gwaith i ddatblygu gwarchodfa natur ar fferm Pentwyn (gweler www.rwtwales.org i gael mwy o wybodaeth am y prosiect cyffrous hwn).


8. Croeswch y ffordd ac ewch i'r chwith i gerdded i lawr i gapel Gravel, a welir ar y chwith. Ychydig cyn y capel, ewch i'r dde trwy giât cae i mewn i borfa a pharhewch ymlaen. Yn y gornel chwith uchaf, ewch ar draws pont droed goncrit i ddôl wlyb. Yn awr, ewch ychydig i'r chwith ar y dechrau i osgoi'r darn gwirioneddol gorslyd. Yna, parhewch ymlaen â gwrych i'r chwith, i giât fach. Ewch drwyddi, trowch i'r dde ac ewch trwy giât cae. Unwaith y byddwch chi drwyddi, cadwch i'r chwith i gerdded i fyny i giât cae a thrwyddi. Ewch heibio ffermdy Troedrhiwfedwen, i giât cae arall o'ch blaen.


9. Yn awr, ewch ymlaen i fyny'r bryn; mae'r llwybr yn anelu tuag at y coed i ddechrau, yna’n gwyro i'r dde i ddringo i fyny'r bryn a thrwy borth ac i fyny'r allt. Parhewch ychydig i'r dde, ar draws dôl at giât cae arall, a pharhewch ymlaen eto, y tro hwn trwy ddôl blodau gwyllt traddodiadol, i'r giât nesaf. Parhewch i gyfeiriad tebyg yn y cae nesaf at giât sy'n mynd allan i lôn.


10. Ewch i'r chwith, a chyn bo hir mae'r lôn yn gwyro i'r dde lle byddwch chi'n mynd i'r chwith drwy'r ail giât cae. Ewch yn groeslinol ar draws y cae; mae tŵr cyfathrebu islau sy’n farciwr da. Ewch trwy’r giât cae rhwng dwy goetir ac ewch i lawr y clawdd i giât yn y gwrych ar y dde. Unwaith y byddwch chi drwodd, anelwch ychydig i'r chwith i gerdded dros bont goncrid ac yna ychydig i'r dde i giât mochyn sy'n arwain at Orsaf Heol Llanbister.

Gorsaf Reilffordd Heol Llanbister i bentref Penybont 14 km

gyda chysylltiad â gorsaf reilffordd Penybont 3km

1. O blatfform Gorsaf Reilffordd Heol Llanbister, cerddwch i fyny grisiau i'r ffordd. Ewch i'r chwith dros y bont reilffordd, ac yna i'r dde ar y gyffordd sydd ag arwyddion i Ddolau. Cerddwch ar hyd y ffordd ac edrychwch am y giât cae gyntaf ar y chwith. Ewch drwodd yma a dringwch i fyny'r bryn ger y gwrych ar y dde. Ewch ymlaen trwy ail giât a pharhewch â gwrych ar y chwith bellach. Ychydig y tu hwnt i'r gornel chwith uchaf, ewch drwy giât arall a cherddwch ymlaen i fynd i lawr i giât cae arall ar y ffin nesaf, ar waelod y cae. Unwaith y byddwch chi drwodd, dringwch yn serth i fyny clawdd gan gadw ychydig i’r dde. Parhewch i gyfeiriad tebyg, gan anelu at yr adeiladau ar fferm Rhos. Ewch i lawr trwy ddwy giât fach mewn ffensys ac i lôn tarmac.


2. Gan aros ar y lôn, ewch i'r chwith i basio Rhos Farm a dilynwch y lôn i fyny'r bryn i gyrraedd cyffordd. Parhewch ymlaen ar drac sy'n mynd trwy giât cae ac yn disgyn i'r dyffryn. Pan fyddwch chi’n cyrraedd nant, ewch trwy giât cae, trowch i'r chwith ac yna i'r dde i fynd i fyny i'r borfa nesaf, i giât cae arall o dan linell o goed ynn hynafol. Yn awr byddwch chi’n dringo darn mwy serth i'r copa. Edrychwch yn ôl ar yr olygfa panoramig, cyn i chi gyrraedd y grib. Oddi yma, gallwch weld màs synfyfyriol Fforest Clud o'ch blaen, a fu’n goedwig hela helaeth yn yr oesoedd canol. Byddwch chi hefyd yn gweld Neuadd Sant Mihangel a'r pwll i'r chwith.


3. Er y gallai fod yn ddeniadol, peidiwch â dilyn y trac i lawr y bryn. Mae eich llwybr tua hanner i'r dde o'r postyn cyfeirbwynt, islaw ael y bryn ac yn anelu tuag at fryn conigol yn y pellter. Mae yna bostyn cyfeirbwynt i helpu i arwain yng nghanol y cae, i helpu eich tywys i lawr at giât y cae. Ewch drwyddi ac ewch i lawr i'r pwll islaw; weithiau mae'n sychu yng nghanol yr haf. Parhewch ymlaen, y tu hwnt i'r hen byllau pysgod hyn, i ddringo i fyny’r bryn, ochr yn ochr â ffens i'ch chwith, gan basio corlannau defaid ar y brig. Bellach byddwch chi’n ymuno â thrac cliriach sy'n disgyn i giât sy'n arwain i lôn.


4. Ewch i'r chwith a cherddwch ar hyd y lôn gefn dawel hon, wrth iddi ymdroelli i lawr i brif ffordd. Croeswch yn ofalus a dilynwch y ffordd gefn ar y dde, sy'n dringo'n raddol tuag at goetir. Byddwch chi'n pasio heibio dwy hen fan ffrwythau rheilffordd. Cyn bo hir, byddwch chi’n cyrraedd giât cae ar y trac. Tua 150 metr y tu hwnt, edrychwch am fforch yn y trac; cadwch i'r chwith yma ar y trac llai sy’n gwyro ychydig i'r chwith i gyffordd. Parhewch ymlaen, gan anwybyddu trac sy’n uno o'r dde i godi trwy giât; cyn bo hir, bydd y trac yn gwyro i'r chwith i gyffordd arall. Cymerwch y fforch ar y dde i ostwng i lawr a dilynwch y trac wrth iddo wyro i'r dde i giât. Parhewch ymlaen i giât arall, yna ar hyd darn gwlyb (yn y gaeaf) o dan goedwig gonifferaidd. Ewch i lawr at giât arall lle gwelwch Hen Neuadd i'r dde. 


5. Parhewch ymlaen wrth y gyffordd ger ysgubor ar y dde a phwll ar y chwith. Ewch ymlaen trwy borth a giât cae. Yn awr, dringwch i fyny trac ceuffordd, â choed yn cydredeg, ac ewch drwy giât arall ar y brig wrth iddo wyro i'r dde. Cerddwch ymlaen i gyffordd, lle byddwch chi'n cadw i'r chwith, gan anwybyddu grid gwartheg a giât o'ch blaen. Parhewch i ddringo ar y trac, trwy giât ac ymlaen i grid gwartheg. Cerddwch drwy ddwy giât arall ger ysgubor ac yna ewch i lawr i grid gwartheg ar ôl cyffordd ar gyfer fferm Pen Rochell. Parhewch ymlaen dros y grid ac ar y trac o'ch blaen nes i chi gyrraedd lôn, lle mae cyswllt gorsaf i Orsaf Dolau neu oddi yno.


Cyswllt Gorsaf: I'r rheiny sy'n dymuno gorffen eu taith gerdded yng ngorsaf Dolau, mae cyswllt ychydig dros 2 gilomedr, (1.2 milltir). Trowch i'r dde i lawr y lôn, i brif ffordd yr A488. Croeswch y ffordd ac ewch i'r chwith am ychydig o gamau i arwydd ar gyfer y pentref a mynegbost. Trowch i'r dde trwy giât cae, ymlaen trwy borfa fach a thrwy ddwy giât arall, ar draws drofa, a thros gamfa. Cadwch ychydig i’r dde ar draws cae mawr i groesi camfa yn y ffin nesaf, ac ewch ymlaen i gyfeiriad tebyg i gamfa sy'n arwain i mewn i ffordd bengaead. Cerddwch drwodd i'r lôn, yna trowch i'r dde a'i dilyn i orsaf reilffordd Dolau.


6. Croeswch drosodd a pharhewch ar drac rhwng gwrychoedd uchel nes i chi gwrdd â thrac arall sy'n dod i mewn o'r chwith. Cadwch i'r dde ac ewch i lawr i lôn lle mae golygfa banoramig o'n blaen. Ewch i'r chwith ar hyd y ffordd dawel iawn hon, sy'n mynd i lawr trwy ddyffryn ac yna’n gwyro i'r dde trwy fferm Cilmaennowydd. Parhewch i ddringo i fyny i gyffordd T lle byddwch chi'n mynd i'r dde. Ychydig ar ôl mynd heibio fferm Rhonllwyn, cadwch i'r dde wrth y gyffordd ac ewch i fyny i basio tŷ cwrdd hanesyddol Crynwyr y Pales. Mae'r ffordd yn rhedeg heibio i hen chwarel, trwy ddwy giât cae a grid gwartheg, i gyrraedd comin Penybont ac wrth iddi wyro i’r chwith, parhewch ymlaen wrth hen bostyn porth i'r comin; nid oes llwybr wedi'i ddiffinio'n glir ar ei draws.


7. Parhewch ymlaen ychydig i’r dde dros nant ac ewch i gyfeiriad tebyg ar draws y comin, sydd wedi'i orchuddio'n rhannol â brwyn ac eithin. Ewch am bostyn cyfeirbwynt ar y comin i ddechrau, ac yna ail un ar ochr yr A488 sydd ar y dde i hen goeden poplysen. Wrth gyrraedd prif ffordd yr A488, ewch i'r chwith i gerdded ar yr ysgwydd werdd i Benybont, gan fynd trwy giât ger grid gwartheg, ychydig cyn Gwesty'r Hafren Arms yng nghanol y pentref. Byddwch yn ofalus o'r traffig!


Cyswllt Gorsaf: Gall prif ffordd yr A44 i orsaf reilffordd Penybont fod yn beryglus. Mae yna ddau ddewis amgen. Mae’r cyswllt gorsaf ychydig dros 3.5 km (2 filltir). Gyda'ch cefn i'r fynedfa i Westy'r Hafren Arms, ewch i'r chwith i gerdded ar hyd y palmant ger Siop Thomas. Croeswch drosodd a pharhewch ymlaen dros y bont, ac allan o'r pentref, nes i chi gyrraedd cyffordd ffordd. Croeswch yn ôl drosodd i gerdded i fyny'r lôn sy'n codi i grib yn raddol. Yna cerddwch i lawr y lôn, heibio cyffordd ar y chwith, ac o fewn ychydig fetrau i un arall ar y dde. Dilynwch yr ail gyffordd i lawr y bryn i brif ffordd yr A44. Ewch i'r dde ar lwybr cul sy'n dod i ben yn fuan, felly bydd yn rhaid i chi groesi eto i'w ddilyn ger hen fythynnod rheilffordd i'r troad ar y chwith ar gyfer gorsaf Penybont.


Y dewis arall yw defnyddio'r bws i gyrraedd gorsaf reilffordd Llandrindod (neu Benybont) a daliwch y trên oddi yno. Mae bws 461-462 Sargeants yn mynd heibio mynedfa'r orsaf reilffordd ac yn gorffen yng Ngorsaf Reilffordd Llandrindod (dydd Llun – dydd Sadwrn yn unig).

1. Ar gyfer y rheiny sy'n cyrraedd ar drên ym Mhenybont, darllenwch y nodyn cyswllt gorsaf yn yr adran flaenorol. Ger cyffordd ffordd Penybont, croeswch y ffordd ger Gwesty’r Severn Arms a throwch i'r chwith i gerdded o flaen y dafarn, ond yna ewch i'r dde cyn y garej. Mae trac yn arwain i lawr at Bencadlys y clwb pêl-droed lleol, yn gwyro i'r dde, ac yna i'r chwith, i groesi pont droed dros ddyfroedd afon Ithon sy’n llifo. Trowch i'r dde i gerdded ar hyd ymyl y cae hamdden, a'r cae ras, ac yna ewch ychydig i'r chwith i fynd trwy giât fach gerllaw gatiau dwbl. Cerddwch i fyny'r ffordd fynediad mewn tai i lôn. Trowch i'r dde i gerdded i'r gornel.


2. Ewch i'r chwith trwy giât cae i fynd i mewn i barcdir, a cherddwch ymlaen i ymuno â llinell o goed, gan ffinio â phwll i'r dde wedi'i orchuddio â brwyn a glaswellt. Ar y pen uchaf, ewch trwy giât fach, ac ar hyd llwybr â choed yn cydredeg, i ail giât fach. Ewch ychydig i'r chwith ar draws porfa, gan anelu at ail giât cae; mae hyn yn arwain at y borfa nesaf, lle byddwch chi'n anelu ychydig i’r dde, gan ddringo'n raddol i drydedd giât gae. Bu dargyfeiriad yma ym Mrynmawr, felly mae'n ddigon posibl na fydd mapiau hŷn yn dangos y llwybr newydd. Ewch i'r chwith i basio rhwng llwyni, i lawr i giât fach arall, a gaeafnant. Unwaith y byddwch chi drosti, anelwch yn groeslinol ar draws y cae, at giât sy'n arwain allan at drac a ffordd.


3. Trowch i'r dde ar hyd y ffordd, ewch o gwmpas troad a, tu hwnt i bolyn trydan, edrychwch am fynegbost ar y dde. Ewch trwy ddwy borfa a gatiau bach, ac yna parhewch ymlaen nes i chi gyrraedd trydydd giât fach yn y gwrych. Ewch drwyddi ac ewch ychydig i'r dde i adael trwy giât cae i lôn. Ewch i'r dde a dilynwch y lôn drwodd i'r gyffordd nesaf. Parhewch ymlaen ar ffordd ag arwydd Dim Ffordd Drwodd. Mae hon yn codi i fyny i Neuadd Isaf ac yna'n dringo eto cyn dod i lawr tuag at Neuadd. Ewch i lawr ger ysgubor fetel, a chroesfan traciau fferm, lle mae giât fach a mynegbost ar y dde sy’n arwain i gae. Dilynwch y trac sy'n gwyro ychydig i’r chwith i basio o dan fferm Neuadd a thrwy borth. Trowch i'r dde ar drac trwy giât cae neu dros gamfa. Cewch olygfeydd gwych wrth i chi fynd i lawr i Ddyffryn Ithon.


4. Parhewch ar drac gwyrdd i lawr at giât cae, ac unwaith y byddwch chi drwyddi, parhewch ymlaen at eglwys Sant Mihangel. Ewch drwy'r giât mochyn i'r fynwent ac, ar ôl i chi edrych ar y man addoli annwyl hwn, ewch i'r chwith trwy ail giât mochyn. Ewch ychydig i'r chwith i lawr i’r ‘Shaky Bridge’; croeswch drosti.


5. Ar y pen pellaf, ewch drwy giât cae addurnedig, yna giât mochyn ar y dde ac yna’n syth i'r chwith, trwy giât fach i mewn i borfa. Mae'r llwybr yn dringo mewn siâp cilgant hyd at giât mochyn yn y gwrych ar y chwith uchaf. Pan fyddwch chi drwyddi, ewch i'r dde i ddringo ychydig mwy i’r ffordd. Wrth y gyffordd, cadwch i'r chwith a dilynwch y ffordd nes i chi weld llwybr i ffwrdd i'r chwith trwy giât cae; mae hyn gyferbyn â Fferm Bailey Einon.


6. Cerddwch i fyny'r cae i fynd trwy giât fach ger giât cae i'r borfa nesaf. Parhewch ymlaen ar hyd linell y gwrych i giât fach arall ar y copa. Cadwch i'r dde i gerdded trwy borth (wrth hen gamfa wedi torri) ac yna i'r chwith trwy giât fach. Dilynwch y trac gwyrdd sy'n gwyro i'r dde ar hyd ysgwydd Bryncyn Bongam. Peidiwch â dilyn y trac yr holl ffordd i fyny'r bryncyn; yn hytrach, ewch ychydig i’r chwith, trwy eithin wasgaredig ac ar draws porfa ddefaid i anelu at bwynt canolog y gwrych. Croeswch y trac a pharhewch ymlaen i gyfeiriad tebyg tuag at llain o goed, lle byddwch chi’n croesi llwybr ychydig cyn mynd i mewn i dwnnel tywyll o dan goed conifferaidd uchel. Mae'r llwybr yn ymuno ag un arall ac yn dod i ben ar y dde ar gamfa i mewn i borfa.


7. Ewch ychydig bach i’r chwith, drosodd i ben agosaf bryncyn eithin, lle byddwch chi’n gweld llwybr cul yn mynd i lawr y bryncyn rhwng llwyni eithin i giât fach. Ewch ymlaen trwy goetir, gan gadw uwchben nant wrth i'r llwybr arwain i lawr a gwyro ychydig i’r chwith i giât mewn ffens ger tan dai yn Ystâd Fferm Gorse. Mae hon yn mynd allan i ffordd.


8. Croeswch drosodd a dilynwch y llwybr cul rhwng gerddi hyd at yr un ffordd. Ewch i'r dde a chwiliwch am lwybr â chorlannau ar y chwith ger gwrych gardd. Mae hwn yn gwyro i'r dde ac yna i'r chwith i giât mochyn ger cyffordd llwybrau. Ewch ychydig bach i’r dde i fyny cae i groesi camfa i dir garw, lle byddwch chi'n dilyn arwyneb cywasgedig o'ch blaen. Ar gyffordd y llwybrau, ewch i'r chwith ac i'r dde yn syth, er mwyn parhau syth ymlaen i bob pwrpas, gan godi i fyny'r bryn o dan ganopi cysurus coetir, rhan o Barc y Llyn yn Llandrindod. Ewch i'r dde ar y groesffordd, i ddilyn y llwybr i lawr i ffordd ger y Llyn.


9. Croeswch y ffordd a throwch i'r chwith i gerdded ar hyd ymyl y dŵr at gyffordd. Ewch i'r dde yma, i ddilyn y llwybr i fynd heibio’r hen dŷ cychod, sydd bellach yn gartref i gaffi a bwyty. Ar ôl cyrraedd y ffordd, ewch i'r chwith ar hyd Princes Avenue, i'r chwith i Ffordd Sba ac ar draws Stryd y Deml (A483), gan fynd ymlaen i fyny Ffordd Sba i fynd heibio Gerddi'r Deml ac ar draws y ffordd i Stryd Middleton. Parhewch ymlaen ar hyd prif stryd siopa Llandrindod i Gilgant yr Orsaf. Ewch i'r chwith yma i'r orsaf reilffordd a chyfnewidfa fysiau.

Gorsaf reilffordd Llandrindod i Lanfair ym Muallt 19km

Man cychwyn llwybr arall ym Mhontnewydd ar Wy 7km

1. Gadewch orsaf reilffordd Llandrindod o blatfform 2, ar yr ochr arall i'r swyddfa docynnau. Ewch i'r dde i'r Stryd Fawr ac yna trowch i'r chwith i gerdded ar ei hyd. Wrth iddi godi tuag at gyffordd, cadwch i'r dde wrth y fforch i gerdded trwodd i gylchfan ger adeilad o'r enw Gwalia (swyddfeydd tai a llyfrgell Llandrindod). Croeswch Ffordd Ithon, ewch heibio'r fynedfa i'r Gwalia, a dewch ar draws Teras Norton i'r fynedfa i Barc y Creigiau.


2. Cerddwch i lawr y llwybr i ffordd ger Adeilad y Sba ym Mharc y Creigiau, hen ystafell bwmpio sydd bellach yn gartref i gaffi sy'n cael ei redeg gan Ymddiriedolaeth y Dref Sba. Ar y ffordd ger Adeilad y Sba ym Mharc y Creigiau, trowch i'r chwith ymhen rhyw fetr, i ddringo i fyny grisiau ar y chwith i gyffordd ger postyn lamp.


3. Ewch ymlaen i adael Parc y Creigiau ar hyd llwybr rhwng ffens a gwrych i adael i ffordd; trowch i'r chwith i gerdded i fyny Lôn y Parc. Mae hon yn mynd allan i Ffordd Wellington (A483). Trowch i'r dde a cherdded ar hyd y palmant wrth ymyl y briffordd (ar y dde) nes ei bod yn dod i ben cyn cyffordd. Trowch i'r dde yma i gerdded dros bont ffordd uwchben y rheilffordd. Bron yn syth ar ôl i'r bont, trowch i'r chwith trwy giât cae.


4. Dilynwch y trac ymlaen trwy ddwy giât cae, gan fynd heibio, ychydig i'r chwith, o gorlannau defaid. Parhewch ymlaen, yna ewch ychydig i'r chwith i fynd trwy giât fach. Unwaith y byddwch chi drwyddi, anelwch ychydig i'r dde tuag at y planhigfa conifferaidd. Ewch ymlaen trwy giât fach; mae'r llwybr yn mynd yn ei flaen trwy'r goedwig i ffens yn Holly Barn. Ewch trwy giât fach, ychydig i'r dde, i drofa, trowch i'r chwith yn syth i gerdded ar hyd y ffens derfyn ac i'r chwith eto trwy giât arall yn ôl i'r coed. Trowch i'r dde i mewn i gae ger giât fach.


5. Parhewch ymlaen ochr yn ochr â'r gwrych. Croeswch gamfa ger giât cae a pharhewch ymlaen â gwrych i'r chwith. Ewch trwy giât fach ac, o fewn 30 metr, trowch i'r chwith trwy giât arall ac yna i'r dde; bellach byddwch chi’n cerdded ochr yn ochr â gwrych i'ch dde ac mae fferm y tu hwnt. Ewch dros gamfa a throwch i'r dde i'r ffordd, yna i'r chwith dros gamfa cyn cyffordd. Ewch ychydig i'r dde yn y borfa hon. Ewch allan trwy giât fach i drac, ac ewch i'r chwith. Mae'n gwyro i'r dde ac yn disgyn i gornel lle byddwch chi'n mynd dros gamfa i mewn i gae. Parhewch ymlaen a byddwch yn gweld fferm Red House i'r dde ar draws y borfa. Dringwch gamfa ger giât cae ac ewch i'r chwith i lawr i gamfa i mewn i goedwig, a phont droed ar draws nant.


6. Unwaith y byddwch chi ar draws y bont droed, anelwch ychydig i'r dde trwy dwmpathau o laswellt a thros ceunant ger postyn cyfeirbwynt; mae’n debygol o fod yn wlyb yn y gaeaf. Arafwch ychydig yn awr, gan fynd tuag at giât yn y gwrych. Trowch i'r dde ar draws porfa i fynd trwy giât fach ger giât cae. Cerddwch i fyny i groesi trydedd giât o dan lwyni collen a pharewch ymlaen â gwrych i'r dde. Ceir golygfeydd gwych ar draws i Fynyddoedd Cambria oddi yma ac, yn fuan, mae eglwys Dyserth yn ymddangos islaw yn Nyffryn Irfon. Ewch i lawr i giât cae, ewch drwyddi a pharhewch i gerdded ar hyd ymyl y goedwig i lawr at giât fach sy'n arwain ar ffordd; mae hyn gyferbyn â Pharc Carafanau a Gwersylla Disserth.


7. Ewch i'r dde dros y bont ffordd sy'n rhychwantu afon Ithon ac, o fewn 20 metr, ewch i'r chwith trwy giât fach ac ymlaen ar draws dolydd ar lan yr afon. Croeswch bont droed i mewn i goedwig Berth-lwyd ac ewch tua’r chwith i ddechrau, ond yna ewch tua’r dde i ddringo i fyny grisiau serth, ac ymlaen ar hyd ymyl y coed, cyn dringo dros gamfa i gae. Ewch ymlaen â gwrych i'r chwith i groesi camfa, dros drac a thrwy giât fach i lain o goetir.


8. Ewch i'r dde i fynd heibio’r coetir, gan gerdded yn ofalus ar flaenau bysedd eich traed trwy dir gwlyb i ddilyn gwrych ar eich dde wrth iddo wyro o gwmpas i giât fach. Parhewch ymlaen ac yn fuan byddwch yn mynd trwy giât fach arall yn ffin y cae nesaf. O fewn ychydig fetrau, trowch i'r dde trwy giât fach arall ac ar draws y cae at linell o goed. Ewch trwy giât fach a pharhewch ymlaen i lawr bryncyn, dros nant ac ar draws cae i godi i fyny a thrwy giât. Yn awr, parhewch ymlaen i fyny'r cae nesaf i ddringo dros gamfa o dan goeden uchel. O fewn ychydig fetrau (lle mae'r llwybr yn fforchio) ewch i'r chwith ar draws y borfa hon. Ewch ymlaen trwy giât fach o dan goeden dderw fawr yn y ffin nesaf. Parhewch ymlaen, gan anelu at giât cae ar y chwith o fyngalos. Ewch drwyddi a cherddwch ymlaen ar hyd trac gwyrdd, ar draws ffordd Meadowlands ac ymlaen rhwng ysgol ar y chwith a melin lifio ar y dde. Byddwch yn cyrraedd y brif ffordd yn fuan; saif eglwys o’r 19eg ganrif gyferbyn. Trowch i'r dde ar hyd y palmant.


9. Parhewch ymlaen ar hyd y brif ffordd i fynd heibio’r New Inn ar y dde ac ymlaen ger siop y pentref a'r swyddfa bost. Cerddwch i fyny i siop awyr agored ar ôl tafarn y Golden Lion. Ewch i'r chwith yma ar ffordd gul, ag arwyddion Llwybr 4 y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol. Mae hon yn arwain at y B4358; trowch i'r chwith i ddilyn hon dros Afon Gwy ac allan o'r pentref i ymuno â Llwybr Dyffryn Gwy, llwybr a amlygir â marciau cylchol cyfeirbwynt nodweddiadol sy'n cynnwys eog yn llamu.


10. Mae'r llwybr yn dilyn y ffordd B o’ch blaen, sy'n llydan, ond byddwch yn wyliadwrus o draffig sy'n dod atoch chi. Mae'r ffordd yn codi'n serth trwy goedwigaeth yn Estyn Pitch. Wrth iddi wastatau, edrychwch am bostyn ar y chwith.


11. Croeswch â gofal i fynd trwy giât fach i mewn i goedwig Estyn. Mae'r llwybr yn disgyn i lawr trwy goetir cymysg lle byddwch chi'n clywed, ond ni fyddwch yn gweld dyfroedd crychdonnog Afon Gwy. Mae sawl rhodfa i hwyluso mynediad ar draws darnau gwlyb, nes i chi adael trwy giât fach i gae. Dyma ddechrau darn arbennig o hyfryd o Lwybr Dyffryn Gwy, trwy borfeydd a pharcdir cyfoethog i ddechrau ac yna ar hyd glannau Afon Gwy, â choed derw aeddfed, ynn a gwern yn ei chysgodi.


12. Parhewch ymlaen wrth i chi ddringo'r bryncyn; ni fyddwch yn gweld y giât nesaf nes i chi gyrraedd yr ymyl. Ewch ymlaen ar draws y borfa i giât fach ger giât cae a cherddwch ochr yn ochr â rhes o lwyni collen iach i giât cae arall, yna ewch i lawr i borth y tu hwnt i ardal gorsiog. Ewch ychydig i'r chwith ar draws y cae i fynegbost cyn ymyl coedwig. Ewch i'r dde i fynd i lawr y bryncyn i'r Hirnant, nant sy’n sisial o dan goed. Mae yna ganllaw i helpu yma.


13. Ewch dros y bont droed; parhewch ymlaen trwy dir mwy meddal i giât fach, ac ymlaen i gamfa ger mynegbost. Ewch ymlaen trwy borfa i fynd trwy giât fach arall ac ewch ychydig i'r chwith trwy gae tuag at ben dde coedwig a thrwodd i gamfa. Croeswch y gamfa a pharhewch ymlaen i ymuno â gwrych ar y dde. Dilynwch hwn at giât cae yn y gornel dde uchaf. Ewch drwyddi a dilynwch y gwrych i'r chwith i gyrraedd mynegbost. Symunwch i ffwrdd o'r gwrych i gerdded i lawr i giât fach yn y gornel waelod ger coedwig. Ewch drwyddi a cherddwch ar hyd y ffens i giât mochyn sy'n arwain at ffordd.


 14. Ewch i'r chwith ac ewch heibio porthdy ac yna i'r dde ger y gornel i gerdded trwy giât fach a choedwig i adael trwy giât fach arall. Anelwch ychydig i'r chwith ar draws y cae, tuag at fferm Porthllwyd. Ewch i mewn i'r iard allanol ger giât fach nesaf at giât cae ac ewch yn syth i'r dde ac yna i'r chwith, ochr yn ochr ag ysgubor i ail giât fach. Ewch drwyddi yma a cherddwch bron yn syth ar draws y cae i ymuno â ffens. Dilynwch y ffens i giât fach ar ymyl y coetir. Unwaith y byddwch chi drwyddi, dilynwch ymyl y coetir i bont droed ar draws nant a giât fach arall.


15. Mae'r llwybr yn dringo i'r dde o annedd ac ar draws llwybr, i ben y bryncyn coediog. Dilynwch ef ymlaen dros wreiddiau coed sydd wedi treulio, ac yn y pen draw byddwch chi'n croesi pont droed i adael y coedwig. Ewch ymlaen trwy bedair porfa a giât (a thros un bont droed) i gyrraedd Coedwig Goetre. Ewch trwy giât cae a dilynwch brif lwybr y coetir am tua 100 metr, lle mae Llwybr Dyffryn Gwy yn gwahanu ar y chwith ger mynegbost ac yn rhedeg trwy goetir hyfryd. Croeswch gamfa ger y llain o gonwydd a pharhewch ymlaen dros gamfa arall wrth giât cae o dan Rhosferig Lodge.


16. Mae'r llwybr yn ymuno â lôn ychydig y tu hwnt. Dringwch i fyny’r bryncyn i grid gwartheg ar y gornel, lle rydych chi'n gwahanu i’r chwith trwy ddwy giât i gae mawr. Mae fferm Dolyrerw ar draws y cae i'r dde. Ar ddiwedd y cae, ewch drwy giât a pharhewch i gerdded ar hyd y ffens ar lan yr afon mewn porfa eang arall sy'n arwain at giât fach. Parhewch trwy ddwy borfa a giât arall, ynghyd â phont droed, i fynd i mewn i Goedwig Dolyrerw a llain arall o goetir cymysg ar lwybr sy'n ferwi o wreiddiau, felly mae angen troedio yn ofalus. Ewch trwy giât mochyn ac arhoswch yn agos at yr afon (nid y lôn tarmac).


17. Ewch o dan y bont reilffordd ac yna dringwch i fyny, ochr yn ochr â ffensys diogelwch hyll, i gyffordd yng Nghoedwig Wern. Parhewch ymlaen yn agos at yr afon, lle byddwch chi’n gweld cipolwg o’r rhaeadrau ar greigiau Penddol. Cerddwch trwy giât mochyn ac ewch ymlaen trwy bedair porfa a gatiau bach, a thros un bont drawstiau. Mae'r llwybr yn troi i'r dde ac yn ymlwybro tuag at giât fach ar ffordd. Ewch i'r chwith, ac i'r chwith eto, dros bont. Trowch i'r chwith am ganol tref Llanfair-ym-Muallt gan ddilyn y promenâd â choed yn cydredeg, a alwyd yn Abrams Folly, i ddechrau pan gafodd ei blannu gan Mr Abrams, ond edrychwch pa mor fawreddog ydyw nawr. Mae'n arwain at yr arosfannau bysiau ger Pont Gwy, ger y cerflun o darw Du Cymreig yn y Gro. Mae yna doiledau yma ar y dde yn y maes parcio, a dyma'r brif arhosfan bysiau ar gyfer pob bws i Lanfair-ym-Muallt ac oddi yno. 


Cyswllt Gorsaf: Gorsaf reilffordd Llanfair-ym-Muallt i Gwm–bach Llechryd 3.5km (2 filltir). O'r cerflun o darw Du Cymreig a ger y prif arhosfan bws yn y Gro, parhewch ymlaen i'r bont dros Afon Gwy. Trowch i'r chwith i ddilyn ffordd yr A483 i gylchfan. Trowch i'r chwith i gerdded ar hyd y palmant sy'n mynd heibio Maes Sioe Frenhinol Cymru. Croeswch y brif ffordd gyferbyn â Maes Sioe Frenhinol Cymru â gofal, ac ewch ymlaen ar ei hyd. Ar ddiwedd maes y sioe, trowch i'r dde i mewn i ffordd ag arwydd RWAS/CAFC. Cyn bo hir, bydd hon hyn yn troi i'r dde i faes y sioe, ond byddwch chi'n parhau ymlaen i fyny trac llai ac, wrth iddo wyro i’r chwith, trowch i'r dde ar lôn ceuffordd i godi trwy giât ac i gyffordd. Ewch i'r dde yma i gerdded tuag at Goedwig Llanelwedd Isaf. Dewiswch y giât ar y chwith i fynd i mewn i'r coedwig a dringwch i fyny, gan barhau’n syth ymlaen trwy ddwy gyffordd olynol. Anwybyddwch y gyffordd nesaf i'r chwith ac ewch drwy giât ag annedd ar y chwith.


Wrth gyffordd T â Lôn y Clwb, ewch i'r chwith i grwydro i lawr y dramwyfa hynafol hon, sy’n wlyb mewn mannau, ond yn cynnig golygfeydd gwych ar draws Canolbarth Cymru. Yn y pen draw, mae hon yn ymuno â lôn yng Nghwmbach. Trowch i'r chwith i'r hen brif ffordd. Mae darn newydd o briffordd wedi osgoi pentref Cwmbach ac mae'r hen ffordd bellach yn dawel iawn - dringwch i fyny i droead. Croeswch drosodd a cherddwch o dan bont y ffordd osgoi newydd. Mae'r llwybr yn gwyro o gwmpas i'r chwith, ac yna i'r dde i giât ac ar y ffordd i lawr i Orsaf Cwm-bach Llechryd. Nid yw'n amlwg ar unwaith, ond bydd angen i chi gael mynediad at blatfform yr orsaf trwy borth i'r dde o'r rhes o dai gorsaf.

1. O'r brif arhosfan bysiau (Y Gro) ger y cerflun tarw Du Cymreig, trowch i'r chwith i gerdded ar hyd y promenâd â choed yn cydredeg ger Afon Gwy, rhan o Lwybr Dyffryn Gwy. Mae'r llwybr yn mynd i'r chwith i ddilyn Afon Irfon i bont droed. Peidiwch â mynd dros y bont, ond parhewch ochr yn ochr â'r afon am bellter byr, lle byddwch chi’n gadael y llwybr ag arwyneb i gerdded ychydig i'r dde ar hyd llwybr gwyrdd i fyny at ffordd yr A483. Croeswch drosodd ac ewch ymlaen i Ffordd Pont Irfon.


2. Mae'r ffordd yn codi i gornel a chilfan lle byddwch chi'n troi hanner i'r dde dros gamfa a phont droed, i ddilyn llwybr hyfryd rhwng gerddi a'r afon. Mae'r llwybr yn croesi llednant ac yn gwyro i'r chwith i fyny'r afon am ran gul fer, cyn troi i'r dde i redeg rhwng ffensys i Nant-yr-Arian, lle byddwch chi’n mynd heibio llinell o fythynnod. Cerddwch i fyny i gyffordd ac ewch i'r dde i adael y dref.


3. O fewn ychydig fetrau, ewch i'r chwith i groesi camfa wrth giât gae. Dringwch y cae ar hyd ymyl y goedwig â’r nant islaw ar eich chwith, i groesi camfa ger giât cae i drac gwyrdd. Parhewch ymlaen i groesi trydedd gamfa, ac ymlaen ar hyd y trac; mae hyn yn dod i ben ger giât i mewn i gae. Dilynwch y gwrych ar y chwith i fyny at giât cae arall. Ewch i'r chwith drwyddi a dringwch i fyny â gwrych bellach ar eich dde. Anwybyddwch y giât gyntaf, ond trowch i'r dde trwy'r ail un i ddilyn trac sy'n gwyro i'r chwith, trwy giât, gan basio rhwng stablau a byngalo yn Lower Hall Stables.


4. Ewch i'r chwith ar y ffordd i gerdded i fyny ger neuadd gymunedol ac eglwys. Ychydig heibio'r eglwys, mae'r ffordd wedyn yn gwyro i'r chwith ac, ar y gornel hon, byddwch chi'n troi i'r dde i gerdded ar hyd trac; mae byngalo ar y chwith. Parhewch ymlaen trwy gair giât cae ac â sgubor i'r dde. Parhewch ar hyd trac â chorlannau, ac yna dilynwch y ffens ar y chwith i lawr i'r coetir, trwy borfa lle cedwir ceffylau yn aml. Mae'r trac yn gwyro ychydig i'r chwith trwy’r goedwig, ac yn arwain i lawr at giât cae arall. Ewch drwyddi a dilynwch y gwrych i'ch chwith, i lawr at giât cae arall. Bellach mae'n disgyn yn fwy serth, dros nant Cneiddion, a thrwy giât cae derfynol.


5. Ewch i'r chwith yn y gyffordd i ddringo i fyny at giât cae sy'n arwain i fuarth Fferm Brynbanedd. Parhewch ymlaen ar y trac, trwy ddwy giât cae arall i adael y fferm y tu ôl i chi. Mae'r trac clir yn disgyn i'r chwith i geunant lle mae'n croesi nant ac yn codi i'r dde trwy giât cae. Mae'r trac yn parhau i wyro i'r dde, i ffwrdd o'r nant ac yna'n gwyro i'r chwith ochr yn ochr â gwrych. Ewch trwy giât cae arall ac mae'r trac yn dechrau lefelu.


6. Ewch trwy giât olaf i ochr bryn Moelfre â mynediad agored. Gwnewch yn siŵr eich bod yn nodi eich llwybr ar y pwynt hwn! Unwaith y byddwch chi drwy'r giât, gadewch drac y fferm tua 45 gradd (chwith) ar hyd llwybr march nad yw wedi'i ddiffinio'n dda. Peidiwch â dilyn y prif drac sy'n parhau ymlaen, ac anwybyddwch y trac gwyrdd sy'n mynd yn syth i fyny'r bryn yn gyfochrog â'r giât sydd ar gau a'r ffens i'ch chwith! Mae eich llwybr yn codi'n raddol ar draws ysgwydd Moelfre. Mae'n dod yn fwy diffiniedig wrth i chi symud ymlaen. Anwybyddwch lwybr gwyrdd arall i fyny'r bryn ar y chwith; parhewch ymlaen trwy giât cae i mewn i borfa. Parhewch ymlaen ar hyd llethr i giât arall ger brigiad bach, a gloddiwyd yn ddiweddar.


7. Unwaith y byddwch chi drwy’r giât, parhewch ymlaen dros drac a heibio coeden dderw unigol, ychydig o fewn i gylched hirgrwn ag arwyneb caled. Wrth i chi nesáu at y ffens ffin gyferbyn, trowch i'r dde i gerdded yn gyfochrog â hi a thrwy giât cae i'r dde o'r gornel. Parhewch ymlaen ar hyd y ffens i ddechrau, ond ewch i'r chwith ar hyd trac gwyrdd sy'n gwyro i'r dde i fyny'r bryncyn ac yna'n sythu ac yn codi trwy goedwig dderw i giât cae arall. Ewch drwyddi a cherddwch ymlaen ochr yn ochr â gwrych o ddrain. Ewch trwy giât cae ac yna disgynnwch i un arall. Ewch i lawr y cae i bwynt i'r chwith o'r gornel dde isaf. Ewch drwy giât fach ac ymlaen i un arall sy'n arwain ar drac.


8. Ewch i'r chwith tuag at Ben-y-waun; mae’r llwybr march yn mynd heibio stabl a drofa sy'n arwain i'r dde. Fodd bynnag, byddwch chi’n parhau ymlaen trwy giât cae, gan droi i'r dde ar dir mynediad agored. Parhewch ymlaen yn agos at y ffens ar y dde, lle mae golygfeydd da eto ar draws Mynyddoedd Cambria. Wrth i'r ffens a llwybr march arall fynd i'r dde, byddwch chi'n cyrraedd cyffordd. Parhewch ymlaen i godi i fyny at drac ceuffordd sy'n gwyro ychydig i'r chwith trwy rhedyn ac eithin i gyrraedd cyffordd, lle byddwch chi'n mynd i’r dde i fynd i lawr i nant a thrwy giât ar dir y Weinyddiaeth Amddiffyn lle mae baner goch. Gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen y wybodaeth a ddarperir, ond gallwch fod yn sicr ei bod yn bosibl cerdded Llwybr Epynt hyd yn oed pan fydd hyfforddiant ar y gweill.


9. Ewch ychydig i'r dde i fyny adran ceuffordd fer o dan y mynegbost i drac o'r enw Ffordd Warren. Parhewch ymlaen yn ei hyd. Mae maes tanio ychydig filltiroedd i ffwrdd, ac efallai y bydd ymarferion y fyddin yn agosach, ond peidiwch â dychryn. Mae Llwybr Epynt wedi'i gyfeirbwyntio’n dda iawn; mae caead melyn ar ben pob postyn.


10. Y tu hwnt i gyffordd o draciau, byddwch chi’n cyrraedd Postyn 131 ac yma byddwch chi’n gadael y trac ac yn mynd ychydig i'r dde i lawr y bryn. Yna mae'r llwybr yn gwyro i’r chwith ac yn dringo i fyny, ychydig i'r dde o'r planhigfa conifferaidd, ac i'r chwith o'r ceunant, Cwm Graig Ddu. Rydych chi'n mynd tuag at yr olygfan ar y ffordd o'ch blaen - â baner goch fel arfer yn hedfan ychydig ymhellach i lawr y ffordd. Parhewch ymlaen trwy dir gwlyb ac i Postyn cyfeirbwynt 138. Yn awr, parhewch ymlaen ychydig i’r dde, gan ddringo'n fwy serth i fyny at yr olygfan. Ewch i'r dde ger byrddau picnic ac i’r chwith i fyny grisiau i'r ffordd.


11. Rydych chi'n gadael Llwybr Epynt yma, ac yn mynd i'r dde, wrth ochr ffordd y B4519 nes iddi gyrraedd grid gwartheg, lle mae arwyddion ffyrdd eraill yn rhybuddio traffig am yr hyfforddi milwrol yn yr ardal. Ar y gornel dde, gadewch y ffordd a cherddwch ymlaen i lawr llwybr gwyrdd, sy'n mynd heibio cwt gwarchod unig ac yna'n troelli ychydig i'r dde a'r chwith ar draws rhostir gwlyb. Dilynwch y llwybr i lawr y grib, trwy giât cae. Ceir golygfeydd eithriadol i lawr i Langammarch a thu hwnt. Disgynnwch yn fwy serth i lawr i basio trwy ddwy giât cae ychydig o flaen annedd, Troed-Rhiw Isaf, ger troed y bryn. Parhewch yn eich blaen ar y trac i basio i'r chwith o’r tŷ ac yna cerddwch i lawr lôn â choed yn cydredeg.


12. Parhewch i lawr y lôn hon sy’n troelli am 2 km neu 1.2 milltir i mewn i Langammarch; byddwch chi angen cymryd troad i’r dde ar gyffordd ychydig cyn y pentref a’r llwybr yn ymuno â’r brif ffordd ger swyddfa bost y pentref. Parhewch ymlaen tuag at y bont dros Afon Irfon. Ewch o dan y bont reilffordd a throwch i'r dde i gyrraedd yr orsaf reilffordd neu, i'r rheiny sy'n cerdded ymlaen, ewch i'r chwith i barhau i Lanwrtyd.


13. Mae'r llwybr yn mynd heibio’r Cammarch Hotel ac yn dilyn y ffordd allan o'r pentref, dros bont, ac yna'n codi a thros ochr bryn Cefn Derwyn. Yn y gyffordd gyntaf trowch i'r chwith, dilynwch gornel o’i hamgylch ac ymlaen i'r groesffordd nesaf. Dilynwch y lôn gul o'ch blaen, sydd yn ffordd ‘dim ffordd drwodd’ sy’n arwain at nifer fach o ffermydd. Mae hon yn codi i basio'r fynedfa i Brysiau-fawr ac yna'n mynd i lawr lle rydych chi'n mynd trwy’r giât o’ch blaen (gan adael y lôn) ar drac heb arwyneb i Dyn y Rhos. Dilynwch y trac hwn trwy giât ac ymlaen at giât arall sy'n arwain i dir mynediad agored.


14. Nid yw llinell y llwybr march mor glir ar y ddaear yma (mae hwn yn dir mynediad agored, fodd bynnag). Ewch ychydig i'r chwith ar draws y tir garw, tuag at geunant amlwg, yna cerddwch ar yr ochr agos iddo i'w groesi cyn iddo droi i mewn i ardal gorsiog. Dilynwch nant i'r dde ar hyd un o sawl llwybr cul trwy'r brwyn i ddod o hyd i bont droed dros afon Camddwr yn agos at ei tharddle. Ar ôl ei chroesi, cerddwch ychydig i'r dde i gyrraedd y giât (a gadewch y tir mynediad agored).


15. Trwy'r giât, nid oes llwybr clir ar draws y borfa ond cerddwch tuag at goed o'ch blaen, ar dir ychydig yn uwch. Parhewch y tu hwnt i'r rhain, ac yna anelwch ychydig i'r chwith i fynd i lawr at giât ger nant fach. Ewch drwyddi a pharhewch ymlaen, ychydig i'r dde, ochr yn ochr â llinell o ddrain ac eithin, ac yna ymlaen dros ael raddol i giât y tu hwnt sy'n drac o fewn ffens. Byddwch chi'n dilyn y llwybr march gwyrdd deniadol hwn trwy gyfres o gatiau'r holl ffordd i'r ffordd. Ceir gwlyptir i'r dde, tarddle afon Camddwr, sy'n llifo i Afon Irfon. Trowch i'r dde i'r ffordd, a dilynwch hi tuag at Lanwrtyd. Yn y gyffordd cadwch i'r chwith ar gyfer gorsaf reilffordd Llanwrtyd.

Gorsaf Reilffordd Llanwrtyd i Orsaf Reilffordd Cynghordy 18km

1. Trowch i'r chwith allan o'r orsaf reilffordd, ag arwyddion i ganol y dref a cherddwch i'r prif sgwâr lle mae caffis/bwytai, siop a gwesty. Trowch i'r chwith eto ar hyd Ffordd Llanymddyfri (prif ffordd yr A483) gan fynd heibio i gerflun y Barcud Coch. Unwaith y byddwch chi dros Afon Irfon, croeswch y ffordd a cherddwch ymlaen ger eglwys Sant Iago, cyn troi i'r dde i mewn i Ffordd Fictoria. Dilynwch hon allan o'r dref. Mae'r ffordd yn codi ac yn gwyro i'r chwith ac i'r dde cyn lefelu ger tair annedd ar y dde.


 2. Ewch i'r chwith cyn tŷ ar y chwith, gan ddilyn yr arwydd rhwng ffens a'r eiddo, at giât fach. Unwaith y byddwch chi drwyddi, ewch ychydig i'r dde i fyny'r bryn i giât cae ar y brig. Ewch drwyddi a pharhewch ymlaen yn yr un cyfeiriad i ymuno â thrac ac yna dringwch i fyny i gyffordd, ychydig cyn ael y bryn. Trowch i'r dde yma i gerdded i'r chwith o gronfa ddŵr wedi'i orchuddio.


3. Ewch ymlaen trwy giât cae a throwch i’r chwith. Dilynwch y lôn i lawr, gan fynd i'r chwith ger cyffordd, i gyrraedd yr A483 yn Berthddu. Mae'n bellter o lai na 2 km. Byddwch yn ofalus ar y brif ffordd oherwydd y bydd angen i chi groesi drosti a throi i'r chwith am ychydig o gamau i'r gyffordd i'r dde. Ewch i'r dde ar hyd y lôn, ar draws y trac rheilffordd ac yna i lawr i nant Cledan, un arall o lednentydd afon Irfon.


4. Dilynwch y lôn, dros grid gwartheg, wrth iddi ddringo i fyny i fferm Bryn-hynog; ewch drwy giât cae ac ewch ychydig i’r dde i fynd rhwng adeiladau'r fferm. Ymhell cyn i chi gyrraedd y ffermdy, cadwch i'r dde ar hyd trac i ddisgyn ychydig at giât cae. Yn aml, mae carafanau yn y cae i'r chwith. Parhewch ymlaen i fynd trwy giât cae arall, a dilynwch y trac ychydig i'r chwith ar drac gwyrdd, i ddringo i fyny'r bryn o ddifrif yn awr. Fodd bynnag, byddwch yn wyliadwrus; edrychwch am giât cae hanner ffordd ar y dde. Ewch drwyddi, ac yna ewch i'r chwith i ddringo rhan fwy serth, gan arwain at borth a phorfa uchaf. Ewch drwyddi ac anelwch ychydig i'r dde tuag at giât cae a mynegbost ger y coetir, lle mae llwybr march arall yn ymuno cyn mynd i mewn i'r coed.


5. Ewch drwy'r giât i Goedwig Crychan, y mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn ei rheoli. Mae trac yn arwain i mewn i'r coetir ac, os byddwch chi’n lwcus, fe welwch pïod y coed yma ymhlith y coed wedi’u gorchuddio gan fwsogl. Mae'r llwybr yn croesi trac coedwigaeth lletach, ac yna'n dringo i ddechrau cyn disgyn a gwyro i'r dde. Mae hwn yn ymuno â thrac arall, gan gadw i’r dde ar hen ffordd y porthmyn hon trwy'r goedwig. Anwybyddwch gyffyrdd i'r chwith a'r dde a pharhewch ymlaen ar lwybr rhychog sydd wedi’i dreulio i lawr i graig moel mewn mannau. Gall hyn fod yn heriol mewn mannau wrth i gerbydau â gyriant pedair olwyn gorddi’r trac. O'r diwedd, mae'n disgyn yn raddol am ychydig gilometrau i ffordd.


6. Cadwch i'r dde ar y ffordd, gan fynd heibio i'r fynedfa i faes parcio Esgair Fwyog. Parhewch ymlaen ar hyd y ffordd nes i chi gyrraedd mynegbost. Ewch i'r dde yma i mewn i'r coed, trwy dir gwlyb i ddechrau, yna dilynwch y llwybr march sy'n dirwyn ei ffordd i lawr ochr y bryn, i gyrraedd cyffordd ger y gwaelod. Ewch ar draws y trac coedwigaeth a cherddwch i lawr i bwynt ger ffens, lle byddwch chi’n mynd i'r chwith ar hyd rhan gulach o lwybr march lle mae planhigion yn dyfu’n wyllt, gan groesi nentydd a thir gwlyb, cyn i chi gyrraedd ochr yn ochr â ffens i giât fach. Ewch drwyddi a cherddwch ochr yn ochr â lôn ceuffordd i lawr i Nant Hirgwm. Croeswch dros bont a dilynwch y trac gwyrdd i fyny at giât cae; ewch drwyddi ac i’r chwith ar hyd y lôn o dan fferm Clynsaer, ac anheddau eraill, i'r brif ffordd.


7. Croeswch y ffordd â gofal, trowch i'r chwith am 20 metr ac yna i'r dde trwy giât fach i mewn i gae. Ewch i'r chwith ar hyd ymyl y cae i fynd trwy giât cae i ymuno â thrac. Ceir dargyfeiriad diweddar yma, felly os oes gennych chi hen fap, ni fydd yn dangos y pwynt hwn. Unwaith y byddwch chi dros y nant, trowch i'r dde ar hyd y trac i'w ddilyn i fyny i fferm Gilfach. Ewch ymlaen trwy giât cae, cadwch i'r chwith o'r ffermdy a'r buarth i fynd trwy ail giât.


8. Mae'r trac yn codi i fyny at lein y rheilffordd, ond ychydig cyn rowch i'r chwith i ddilyn gwrych y cae ar y dde, ochr yn ochr â’r rheilffordd. Cerddwch drwy'r cae cyntaf, trwy giât cae ac ewch ymlaen trwy ail gae gan gadw i'r un cyfeiriad. Ceir golygfeydd gwych o'ch blaen i lethrau Dyffryn Tywi. Parhewch ymlaen i giât cae, y byddwch yn mynd drwyddi i groesi'r rheilffordd yn ofalus, ac yn awr byddwch chi ar borfa arw a gwlyb iawn. Dilynwch y llinell o goed derw ymlaen at giât arall, croeswch nant ac yna dilynwch linell y gwrych trwy ail borfa wlyb, i’r giât cae nesaf, i ymuno â thrac fferm gliriach a llawer sychach.


9. Dilynwch hwn wrth iddo wyro i'r dde ac yna i fyny at gyffordd, lle byddwch chi'n cadw i'r chwith trwy giât cae. Mae'r trac yn gwyro i'r dde ac yna i'r chwith dros ael fach lle byddwch chi'n cadw ychydig i'r dde (ddim ychydig i'r chwith ar hyd y trac), trwy orchudd o frwyn â ffens i'r dde. Ewch trwy giât cae ac ewch ymlaen i godi o dan goeden dderw . Mae golygfeydd da yn ôl draw i Fannau Sir Gâr oddi yma. Mae'r llwybr bellach yn rhedeg ochr yn ochr â'r llinell goed a'r ffens i'ch chwith. Ewch drwy giât arall a thir gwlyb iawn, wrth i’r llwybr march ddisgyn i giât. Ewch drwyddi a cherddwch i lawr trac sychach â choed yn cydredeg, sy'n disgyn i lawr at giât sy'n arwain ar lôn islaw Llanerchindda.


10. Wrth gyrraedd y ffordd, trowch i'r chwith i'w dilyn i lawr at droed y draphont, gan gamu o dan fwâu godidog y gamp beirianneg wych hon. Cymerwch y troad nesaf i'r dde dros bont droed dros Afon Brân, trwy giât gul, ac ymlaen ar hen lwybr hyfryd â choed yn cydredeg, i groesi'r rheilffordd; cymerwch ofal yma. Mae'n ddigon posibl mai hen ffordd borthmyn oedd hon oherwydd roedd Cynghordy yn fan gorffwys i borthmyn.


11. Mae'r trac yn dringo o dan goed ac yna'n gwyro ychydig i'r dde, ochr yn ochr â ffens a thrwy giât cae arall. Parhewch ymlaen i bostyn cyfeirbwynt a bydd y trac yn gwyro i'r dde i nant a giât gul. Mae angen i chi fod yn ofalus yma. Ewch drwy'r giât ac mae'r hawl tramwy ychydig ar y chwith i fyny’r cae mawr i'r gornel chwith uchaf bellaf. Ond cyn cyrraedd giât fach, bydd angen i chi fynd i'r chwith (yn ôl ar eich hun) i gerdded ochr yn ochr â gwrych sydd bellach ar eich dde. Fodd bynnag, bydd rhai cerddwyr lleol yn syml yn mynd ychydig i’r chwith wrth fynd i mewn i'r cae mawr hwn, gan anelu at giât fach i'r chwith o drac a phorth. Y naill ffordd neu'r llall, byddwch chi'n mynd trwy'r giât fach ac yn troi i'r chwith i ddilyn gwrych a llinell ffens i lawr i bont fach.


12. Ewch dros y bont ac ewch i'r chwith trwy giât cae, a throwch i'r dde yn syth i fyny at ail giât cae. Unwaith y byddwch chi drwyddi, parhewch ymlaen. Bydd angen i chi fynd ychydig i'r chwith ar hyd y bryn, trwy hen ffin caeau. Yn awr, anelwch i'r dde o ysgubor lle byddwch chi'n mynd trwy giât cae. Parhewch ymlaen i drofa a thrwy giât fach ger y grid gwartheg. Mae'r drofa yn gwyro i lawr i gamfa lle byddwch chi'n croesi'r rheilffordd, eto â gofal. Yn y gyffordd, ewch i'r chwith tuag at orsaf reilffordd Cynghordy.

1. Gadewch fynedfa'r orsaf a cherddwch ymlaen i lawr lôn, â helyg a drain yn cydredeg, i gyffordd yng Nghwmcuttan. Ewch i'r dde yma, ac i'r dde eto yn yr ail gyffordd, i fynd trwy dwnnel o dan y rheilffordd. Dilynwch y lôn i fyny'r bryn, ag amrywiaeth hyfryd o flodau ar ochr y ffordd. Dilynwch y lôn nes ei bod yn gwyro i'r dde yn sydyn. Byddwch chi'n mynd i'r chwith yma, trwy giât cae ar drac i ail giât, a phont droed dros Nant Bargoed.

 

2. Mae'r trac yn codi ger hen fferm, a chyn bo hir mae’n troi i mewn i lôn ag arwyneb sy'n pasio annedd cyn cyrraedd cyffordd. Parhewch ymlaen i gopa lle mae golygfeydd gwych drosodd i Fannau Sir Gâr, a dilynwch y lôn droellog i lawr i bwynt lle mae yna drofa ar y chwith i Gefnllan. Ar y dde mae giât fach a phont droed. Dyma eich ffordd i mewn i gae mawr lle byddwch chi'n mynd ychydig i'r chwith i fynd heibio cornel cae sy’n ymwthio, a thrwy dir gwlyb, i groesi pont droed dros nant.

 

3. Croeswch gamfa i'r cae nesaf ac ewch ychydig i'r chwith eto i fynd trwy giât cae. Parhewch ymlaen i gyfeiriad tebyg ar draws porfa wlyb arall â brwyn i groesi camfa, ychydig y tu hwnt i nant fach, tua 20 metr i'r dde o gornel. Unwaith y byddwch chi drosti, ewch yn syth ymlaen i waelod y llethr (yn glir o'r tir gwlyb iawn) ac yna ewch i'r chwith yn gyfochrog â'r nant. Croeswch gamfa ychydig i'r dde o'r nant, yn aml wedi'i amgylchynu gan fwd, a pharhewch ymlaen â gwrych i'r dde, ond unwaith eto mae canghennau crog. Mae'r hen drac yn gwyro i’r dde tuag at Fferm Rhandirberthog.

 

4. Ewch i'r chwith ar drac, cyn y ffermdy, a thrwy giât ar hyd lôn sy'n mynd i’r dde yn fuan, trwy fferm Pantglas ac yn parhau i ddringo, â golygfeydd godidog ar draws i Fannau Brycheiniog, nes i chi gyrraedd cyffordd. Trowch i'r chwith yma, a cherddwch i lawr y lôn am ychydig dros gilometr i gyrraedd fferm Maes-y-gwandde ar y dde. Ewch i'r dde ar ôl yr adeiladau a'r ffermdy, i lawr ffordd goncrid, gan fynd trwy ddau giât cae; yna mae'n newid i drac sy'n gwyro i'r chwith yn fuan i fynd i lawr i'r dyffryn. Yna mae'r trac yn mynd i'r dde, yn mynd trwy giât cae ac yn dringo i fyny at fachdro sy'n mynd i'r chwith i godi tuag at fferm Cefnrickett. Ewch trwy giât cae arall wrth i'r trac wyro i'r dde tuag at fuarth y fferm a'r tŷ.

 

5. Peidiwch â mynd i fyny i'r tŷ. Ewch i'r chwith wrth y gornel, dros gamfa wrth giât cae ac yna trowch i'r dde i gerdded ar hyd trac gwyrdd â gwrych ar eich dde. Ewch trwy borth ac ewch ychydig i'r chwith i lawr y bryn. Mae golygfeydd gwych ar draws i Fannau Brycheiniog oddi yma. Croeswch gamfa ger giât cae ar ffin y cae nesaf a pharhewch ymlaen i'r gwrych nesaf â choetir i'r dde. Dringwch gamfa a pharhewch ymlaen eto i fynd i mewn i'r goedwig ar hyd hen drac sy'n gwyro ychydig i'r dde i giât gae. Ewch drwyddi ac yna edrychwch am gamfa ar y chwith. Croeswch hon ac ewch i lawr i’r cae i fynd trwy ddwy giât fechan, un bob ochr i drac.

 

6. Wrth gyrraedd y ffordd, croeswch yn ofalus a throwch i'r chwith i'r gyffordd yna i'r dde tuag at bont hanesyddol Dolauhirion, y cynlluniodd y Parchedig William Edwards o Bontypridd a chafodd ei adeiladu gan ei fab Thomas ym 1773. Datganodd y Field Magazine ym 1961 mai hon oedd y bont harddaf ym Mhrydain. Cyn y bont, ewch i'r chwith dros gamfa. Ewch trwy ddwy giât mochyn, yna ar hyd rhan â chorlannau rhwng llwyni eithin, cyn dilyn ymyl y cae wrth iddo wyro o gwmpas i'r chwith i giât mochyn arall. Trowch i'r chwith i gerdded ochr yn ochr â nant. Ewch ymlaen trwy giât mochyn arall, dros ffordd, ac i'r dde dros bont droed a giât bren i mewn i gae.

 

7. Dilynwch y gwrych ar y dde o amgylch adeiladau yn y Tonn i groesi ffordd y mae dwy giât mochyn yn ei gwarchod. Dilynwch y gwrych i'r dde ac ewch drwy giât mochyn arall i'r borfa nesaf. Yn awr, ewch ychydig i'r dde i fynd trwy giât mochyn cyn sied â tho haearn rhychog. Ewch i'r chwith ar hyd trac gwyrdd, dros gamfa ger giât ac ewch ychydig i'r chwith ochr yn ochr â gwrych, a thrwy giât mochyn. Parhewch ar hyd llwybr gwyrdd i fynd allan trwy giât mochyn arall i brif ffordd i'r chwith o bont ffordd. Ar un adeg, roedd hwn yn bwynt rhydu roedd y porthmyn yn gwybod ei fod yn hynod beryglus ar adegau o lifogydd. Trowch i'r chwith ar gyfer y darn byr ar ochr y ffordd i orsaf reilffordd Llanymddyfri.

Gorsaf Reilffordd Llanymddyfri i Orsaf Reilffordd Llangadog 19km

1. Gadewch fynedfa'r orsaf a throwch i'r dde i gerdded ar hyd y brif ffordd i ganol tref Llanymddyfri. Edrychwch am y troead cyntaf ar y dde, ger y Castle Hotel, i mewn i faes parcio/arhosfan bws i bwynt o dan domenni glaswelltog Castell Llanymddyfri. Ychydig cyn adfeilion y castell, ewch i'r chwith ar drac o dan gerflun, trwy borth i ymuno â llwybr ar hyd glan yr afon. Dringwch y grisiau a throwch i'r dde i gerdded dros Bont Waterloo.

 

2. Mae'r ffordd yn gwyro i'r chwith, ac mewn tua 100 metr trowch i'r dde ar ffordd goncrit, trwy giât cae a buarth fferm Bronallt. Ewch drwy giât fach ger giât cae a dringwch i ffwrdd o'r fferm, gan godi at giât mochyn ger ail giât cae sy'n arwain i mewn i goedwig. Dilynwch y llwybr i drac lletach, lle byddwch chi'n mynd i'r chwith ac yna i'r dde wrth i'r trac wyro i'r dde a pharhau i ddringo. Wrth y fforch, trowch i'r chwith ac allan i borfa trwy giât mochyn. Peidiwch â chael eich temtio i ddilyn llinell y gwrych y tu hwnt i'r gornel gyntaf; ewch ychydig i'r chwith i fyny'r bryn ar draws cae eithaf mawr. Mae golygfeydd gwych ar draws dyffryn Tywi wrth i chi godi tuag at y gornel bellaf (nid y giât cae a welir ar y gorwel). Ewch trwy giât mochyn a pharhewch i gerdded i'r un cyfeiriad ar draws y cae, ymhell i'r dde o'r annedd, Cefn-yr-allt-uchaf, sydd ar y chwith. Ewch ymlaen trwy giât mochyn ger giât cae, gan fynd heibio pyllau a pharhewch ychydig i'r chwith i giât mochyn mewn ffens. Parhewch i fyny drofa trwy giât mochyn ger giât cae.

 

3. Ymhen tua 25 metr, mae'r trac yn gwyro i'r chwith, ond byddwch chi'n mynd i'r dde i ddisgyn i'r dyffryn, gan fynd ychydig i'r chwith tuag at lwyni eithin tal a llinell o goed. Ewch dros giât mochyn ger giât cae a cherddwch ymlaen ar hyd trac â choed yn cydredeg. Cyn bo hir, byddwch yn cyrraedd cyffordd lle byddwch chi'n mynd i'r chwith, i godi trac arall â choed yn cydredeg, dros gamfa ger giât ac yn dringo i fyny'r bryn coediog a elwir yn Allt Llwynywermod yn cyfeirio at wermod (wormwood), perlysiau pwysig a ddefnyddir mewn meddygaeth, ond efallai yn fwy adnabyddus am ei briodweddau aromatig wrth wneud yr absinthe sy’n fwy marwol. Ewch trwy giât cae a pharhewch i fyny i fynd trwy giât arall ac, ar ôl tua 30 metr, byddwch chi’n cyrraedd croesfan traciau.

 

4. Ewch i'r dde trwy giât cae a chrwydrwch ar hyd trac lle mae coed ifanc wedi cael eu plannu ar y ddwy ochr. Ewch heibio annedd ar y dde wrth i'r trac wyro i'r chwith, ac yna i'r dde, a disgyn trwy goetir cymysg â golygfeydd draw i Barc Llwynywermod, sydd bellach ym mherchnogaeth y Ddugiaeth Frenhinol. Anwybyddwch drac i'r chwith, dros bont sy'n croesi Nant Mydan, ac ewch ar hyd y trac o'ch blaen sydd yna'n gwyro i'r dde i giât cae. 


5. Parhewch ymlaen ar hyd ochr y dyffryn. Mae'r trac yn gwyro i'r dde ac, ar y pwynt hwn, edrychwch am gamfa ar y chwith. Croeswch hi a disgynwch ychydig i'r chwith i groesi pont droed dros Nant Mydan. Dringwch i fyny'r bryn tuag at y dde o fyngalo a welwyd uchod. Ewch drwy giât fach ar drac, trowch i'r dde a dilynwch hwn am tua 20 metr cyn i'r trac wyro i’r dde.

 

6. Fodd bynnag, bydd angen i chi barhau ymlaen i ddringo i fyny ochr y dyffryn ar lwybr cul rhwng coed tal sy'n amlwg yn hoffi cynefin cyfoethog y ceunant hwn. Ewch drwy giât fach i mewn i borfa a pharhewch ymlaen yn agos at y gwrych ar eich chwith. Ewch drwy giât fach arall ac yn awr, anelwch ychydig i’r dde. Ewch i ochr chwith y to y gwelwch o’ch blaen yn Myrtle Hill, ac ewch drwy ddwy giât mochyn ger bwthyn i drofa ac ymlaen at y ffordd (peidiwch â throi i'r chwith yn llym).

 

7. Mae'r lôn ymlaen yn dirwyn i lawr rhwng dwy goedwig, un ohonynt yw Goed Leter, sy'n cael ei reoli gan Coed Cadw; gallwch gerdded o'i chwmpas os dymunwch. Cyn bo hir, byddwch chi’n cyrraedd pentref Myddfai, lle byddwch chi’n troi i'r dde ger yr eglwys i basio Neuadd Gymunedol a Chanolfan Ymwelwyr Myddfai. Mae caffi a siop, ac mae'r elw o'r fenter hon yn mynd i Tŷ Talcen Myddfai, elusen sy'n helpu i gynnal y gymuned wledig ynysig hon. Parhewch ar hyd lôn gul i fynd heibio mynedfa'r hen ficerdy ac, yn y gornel nesaf, ewch ymlaen trwy gatiau tuag at Fferm Llwynmeredydd, cartref un o feddygon Myddfai yn y canrifoedd blaenorol.

 

8. Cyn cyrraedd y tŷ, trowch i'r dde trwy gatiau pren dwbl ac ewch i fyny trac trwy goed ar wasgar, hyd at giât cae a thrwyddi. Ewch i'r chwith yn syth trwy giât cae arall. Byddwch yn barod a dringwch i fyny'r bryncyn, ychydig i'r dde ac yna i'r chwith, gan gadw i'r dde o brysglwyn o goed ac ewch tuag at gornel chwith uchaf y cae. Rhan o’r ffordd i fyny, byddwch chi’n gweld brigiad; dyna le rydych chi'n mynd. Ewch drwy giât a symudwch ymlaen â gwrych i'r chwith. Ceir golygfeydd gwych o'r man gwylio hwn ar draws i Fannau Sir Gâr, yn enwedig Mynydd Myddfai a Mynydd Bach Trecastell. Ewch trwy giât ac ymlaen i ymuno â chroesffordd o lwybrau lle mae grid gwartheg. 


9. Croeswch y trac a dilynwch y gwrych ar y dde i fyny'r clawdd am tua 100 metr. Ar y pwynt hwn, ewch hanner i’r chwith ar draws y borfa â golygfeydd gwych ar draws Sir Gaerfyrddin. Disgynwch i'r gornel chwith isaf i groesi camfa, yna parhewch ymlaen â gwrych i'ch chwith yn ceisio osgoi sgwd dŵr gwlyb. Ewch drwy giât cae o’ch blaen, a disgynwch eto â’r gwrych ar y chwith, trwy ail giât ac yna ymlaen i basio trwy trydedd giât cae i ymuno â thrac ger coedwig. Ewch drwy ddwy giât ger ysgubor, uwchben fferm Goleugoed.

 

10. Yn y gyffordd, cadwch i'r chwith ac wrth i'r trac ysgubo i'r dde, parhewch ymlaen ar draws y borfa, gan anelu at y gornel chwith isaf. Ewch drwy giât cae sy'n arwain at y ffordd. Trowch i'r dde ac, wrth y gyffordd, ewch i'r chwith. Ewch heibio Cilgwyn Lodge, â gerddi hyfryd, ac ewch i fyny'r bryn, gan basio'r troad am Bistyll Gwyn (bydd rhai mapiau hŷn yn dangos hyn fel y ffordd, ond bu dargyfeiriad) i gyrraedd tro lle byddwch chi’n mynd i'r chwith trwy giât fach ger giât addurnol i mewn i gae.

 

11. Dilynwch y trac wrth iddo wyro o amgylch ymyl y cae i fynd dros bont droed fechan a chamfa gyda Llety-ifan-ddu, plasty hardd o’r oes Sioraidd hwyr, i'ch chwith. Gadewch y trac i barhau ymlaen ochr yn ochr â'r wal derfyn a’r ffens i gyrraedd camfa ger hen giât farrog. Ewch drosti a chadw ychydig i’r dde o'r hen weithfeydd chwarel i fyny trac i gae. 

 

12. Dringwch yn serth i fyny'r bryn, gan anelu ychydig bach i'r dde at giât mochyn ger giât cae. Parhewch mewn cyfeiriad tebyg yn y borfa nesaf i giât mochyn arall, a dilynwch y ffens ar y dde hyd at drydedd giât mochyn; parhewch ymlaen eto. Os oes gennych fap hŷn, sylwch y bu dargyfeiriad yma yn ystod y blynyddoedd diwethaf, er mwyn osgoi Glasallt Fawr. Ewch drwy'r ail giât cae ar y dde (tua 50 metr ar ôl pasio hen gaban pren yn y cae cyfagos i'r dde). Unwaith y byddwch chi drwy'r giât, trowch i'r chwith i ddilyn y ffens o gwmpas i'r dde, cyn disgyn ychydig i mewn i bant a chodi i giât mochyn yng nghornel chwith pellaf y cae.

 

13. Ewch drwy'r giât mochyn hon a disgynnwch i lawr ochr y bryn, ochr yn ochr â ffens ar y dde. Hanner ffordd i lawr, wrth i’r ffens fynd i'r dde, cadwch i'r dde trwy hen linell goed, ac ewch yn groeslinol i lawr yr allt tuag at giât mochyn yng nghornel dde isaf y borfa. Ewch drwy'r giatiau mochyn a'r llwybr wrth iddo fynd igam-ogam i lawr at y trac mynediad i Lasallt Fawr, sydd ar eich chwith.

 

14. Ewch yn syth ar draws y trac mynediad hwn, a thrwy giât gusanu, gan fynd i lawr at giât fach arall a thrac. Ewch ymlaen trwy giât mochyn i gae mawr, a pharhewch ymlaen ar hyd y gwrych trwy giât mochyn arall. Ymhen tua 100 metr, ewch trwy giât ar y chwith ac yna anelwch ychydig i'r dde ar draws cae o frwyn gwlyb i adael yn araf iawn ger giât mochyn ar ffordd yr A4069. Croeswch â gofal, gan edrych yn arbennig am geir sy’n agosáu yn gyflym o'r dde. Ewch i'r chwith, ac yna i'r dde, i fyny lôn gul sy'n dringo i ddechrau, yn gwyro i'r chwith ac yna’n lefelu â golygfeydd gwych dros Ddyffryn Tywi. Mae Llangadog tua 3 cilomedr i ffwrdd. Yn y pen draw, mae'r lôn yn disgyn, yn serth mewn mannau, i Langadog. Ar brif ffordd yr A4069, trowch i'r dde ar gyfer yr orsaf reilffordd, llai na hanner cilomedr i ffwrdd. Fel arall, trowch i'r chwith ar gyfer y pentref a llwybr trwodd i Landeilo.


Gorsaf Reilffordd Llangadog i Orsaf Reilffordd Llandeilo 16km

1. Mae gorsaf reilffordd Llangadog tua hanner cilometr o ganol y pentref, ar hyd yr A4069. Gadewch fynedfa'r orsaf, croeswch y brif ffordd yn ofalus a throwch i'r dde i gerdded dros y groesfan reilffordd, ac ar hyd y palmant cyn belled â'r troad cyn Pont Brận lle mae'r palmant yn dod i ben, felly cymerwch ofal yma. Ewch heibio’r eglwys ar eich chwith, ac yna i fyny tuag at y sgwâr.


2. Byddwch yn wyliadwrus yma, oherwydd mae'n hawdd methu’ch troad! Edrychwch am droad i'r dde (Dim arwyddion yn y pentref) ar hyd dramwyfa gul, ychydig ar ôl Swyddfa Bost Llangadog. Mae hwn yn arwain at gyffordd â Ffordd Walters. Ewch i'r dde am tua 100 metr ar ei hyd, cyn troi i'r chwith rhwng tai ar lwybr ymlaen, sy'n rhedeg rhwng gerddi. Ewch trwy giât mochyn i mewn i borfa. Parhewch ymlaen trwy borfeydd a dwy giât mochyn arall ar Dir Comin Carreg Sawdde sy'n warchodfa natur. Ewch ymlaen am ychydig gamau dros bont droed, lle byddwch chi'n cyrraedd cyffordd o lwybrau; cadwch i'r chwith yma i fynd trwy brysgwydd. Parhewch ymlaen a byddwch chi’n gweld ysgubor ar y chwith mewn cae cyfagos. Anelwch ychydig i’r dde at Bont Sawdde ar y Tr mynediad agored hwn.


3. Ewch dros y bont a pharhewch ymlaen ar Ffordd Bethlehem i bentref Felindre. Cymerwch yr ail droad i'r dde a cherddwch i fyny at gyffordd arall. Cadwch i'r chwith yma, ar hyd llwybr rhwng anheddau, a thrwy giât cae i mewn i borfa. Dilynwch y gwrych ar y chwith, trwy giât cae arall, yna trwy'r giât mochyn ar y chwith. Trowch i'r dde i gerdded ochr yn ochr â gwrych sydd bellach ar eich dde, gan fynd trwy dair giât cae a giât mochyn arall cyn Fferm Bryngwyn. Wrth i chi agosáu at yr ysgubor, parhewch ymlaen trwy ddwy giât cae sydd ar unwaith i'r dde ohoni. Parhewch ymlaen ar hyd y drofa fferm, trwy giât mochyn i lôn a pharhewch ymlaen eto, heibio fferm arall ar y chwith ac yna, yn y pen draw, byddwch chi’n cyrraedd grŵp o dai affermarydde.



4. Mae'r lôn yn gwyro i'r dde ond bydd angen i chi barhau ymlaen ar hyn o bryd. Fodd bynnag, peidiwch ag aros ar y trac. Ewch drwy'r giât cae ar y chwith sy'n arwain i mewn i borfa ar ochr y bryn. Yn awr, dilynwch lwybr march ar hyd llinell y ffens ar eich dde i ddechrau, sydd yna’n codi wrth ymyl coedwig i fynd trwy borth ac ardal gorslyd. Parhewch i ddringo i fyny'r bryn i gyrraedd camfa ger giât gae. Ewch drosT ac i fyny eto trwy ddwy giât fach cyn cyrraedd ffordd. Trowch i'r dde i deithio ar ei hyd i Fethlehem, lle mae bwrdd dehongli a sedd lle gallwch orffwys am ychydig.



5. Parhewch ymlaen yn y gyffordd gan ddisgyn i lawr i ail gyffordd gyferbyn â byngalo. Ewch i'r chwith trwy giât mochyn nesaf at giât cae ac ewch ymlaen ar hyd trac i gyrraedd siediau o’ch blaen, ac anheddau ar y chwith. Parhewch i'r wal yng nghefn y tai hyn, yna ewch i'r chwith ar ei hyd am 20 metr ac i'r dde trwy giât fach i ddôl. Ewch ychydig i'r dde i fynd trwy giât cae ac yna dilynwch y gwrych i'r dde, i fyny at giât mochyn ger capel Bethlehem.



6. Mae hwn yn dod i ben ger giât mochyn i lôn; ewch i'r dde ac ymgyfnerthwch ar gyfer dringo i fyny i'r maes parcio ar gyfer Carn Goch sydd ychydig oddi ar y ffordd. Mae'r llwybr yn mynd trwy'r heneb, ond nid yw'n cael ei arwain gan byst cyfeirbwynt, er bod yna ardal werdd glir o laswellt i'w ddilyn. Mae'n mynd i'r chwith o'r maes parcio ac yn gwyro i'r dde i ddringo i fyny i basio trwy olion aneglur gwersyll bach hynafol o'r Oes Haearn. Ar ddiwrnod da, mae golygfeydd panoramig gwych ar hyd yr adran hon. Yna mae'r llwybr yn mynd i lawr ac yn dringo i fyny eto, ychydig i'r dde o'r cerrig; dilynwch y llwybr ar eu hyd ac yna ewch i'r chwith i godi i fyny i wersyll mewnol y brif fryngaer. Parhewch ymlaen ac yna ychydig bach i'r dde, i ddiwedd y gwersyll, lle mae'r llwybr yn lleddfu'n ddigon raddol ar draws rhos â cherrig wedi’u gwasgaru arni. Mae'n gwyro ychydig yn iawn i redeg i lawr i lôn; mae'r polion trydan fel pyst tywys.



7. Ewch i'r dde ar hyd y llwybr. Ewch ymlaen trwy giât cae yng Ngarnwen a cherddwch i fyny'r ffordd am 50 metr, lle byddwch chi’n mynd ychydig i'r chwith, trwy giât fach ac ar hyd llwybr march. Mae'r trac yn dringo hyd at giât cae arall, a thrwyddi, gan wyro i'r chwith a'r dde ac yna byddwch chi'n croesi camfa i gerdded ymlaen eto. Byddwch chi'n codi at gyffordd o lwybrau ym Mwlch y Gors. Ewch drwy giât, a throwch i'r dde, i ddilyn llwybr i fyny at giât, a throwch i'r dde i gerdded dros rodfa i gamfa, ac yna ychydig i'r dde trwy borth. Yna mae'r llwybr yn mynd i'r chwith i ddilyn ffens tuag at Goed Carreglwyd. Mae golygfeydd hyfryd ar hyd yr adran hon ar draws dyffryn Tywi.



8. Ewch trwy fwlch mewn wal, trowch i'r dde a chroeswch gamfa mewn tua 60 metr. Yn awr, croeswch gamfa a dilynwch lwybr ceuffordd ag eithin a llus yn rhoi ymyl iddo, i fynegbost. Mae'r llwybr bellach yn disgyn yn eithaf serth i drac tractor. Trowch i'r chwith i ddringo eto trwy goed conifferaidd. Parhewch yn syth ar draws y groesffordd ac yna dringwch gamfa i rosTr lle byddwch chi’n parhau ymlaen â brigiad creigiog Carn Powell, i'r chwith a rhai nentydd i'w croesi cyn i chi fynd i'r afael â'r gamfa ysgol yn y wal derfyn nesaf, y cyntaf ar y llwybr! Parhewch ymlaen ar hyd ffens ac yna anelwch ar draws y cae at giât cae sy'n arwain at gyffordd ffordd. Mewn tywydd braf, byddwch chi’n cael cipolwg cyntaf ar adfeilion trawiadol Castell Carreg Cennen.



9. Mae eich ffordd ymlaen ar ffordd sydd ag arwyddion i Trap, parhewch ar ei hyd tuag at goedwigoedd Blaencib a Helgwm mewn tua 1 cilomedr. Mae'n lôn dawel sy'n cynnig golygfeydd godidog ar draws i gastell Carreg Cennen a byddwch chi’n pasio'r troad ar y dde i Fferm Blaen Cib. Yn fuan wedyn, mae Llwybr y Bannau yn mynd i'r chwith ar draws rhosTr. Fodd bynnag, bydd eich ffordd i Landeilo trwy Fferm Hafod, felly parhewch ar hyd y lôn i gyrraedd y troad nesaf ar y dde y mae mynegbost i Hafod yn ei nodi.



10. Dilynwch lwybr y fferm i lawr, gan fynd trwy giât cae a throwch i'r dde tuag at ffermdy ar y dde, ac ysguboriau i'r chwith. Dilynwch y drofa i lawr i'r chwith tuag at ddwy giât, ond cyn hynny ewch i'r chwith trwy giât cae arall, ac ar hyd trac sy'n rhedeg o dan yr ysguboriau; bydd hwn yn troi i'r dde cyn bo hir. Fodd bynnag, byddwch chi'n parhau ymlaen trwy giât cae ac yna'n dilyn y gwrych i'r dde hyd camfa ger giât.



11. Unwaith y byddwch chi drosT, dylech chi anelu ychydig i'r chwith drwy gae, i gerdded yn agos at y ffens i'r chwith ac ar draws ffens a ffos. Fodd bynnag, mae llinell y llwybr wedi'i rhwystro, ac felly nid oes dewis arall gennych chi ond mynd ychydig ar draws y cae cyntaf hwn a thrwy borth. Yn yr ail gae, parhewch ymlaen trwy giât arall. Yn y cae nesaf, anelwch ychydig i’r dde, croeswch i ffrwd fain o dan grŵp o goed. Unwaith y byddwch chi drwodd, anelwch ychydig i'r dde ar draws y cae, i gornel ger ysguboriau ar fferm Llwyn bedw. Croeswch gamfa ychydig i'r dde o giât cae i lôn.



12. Ewch i'r dde i lawr y lôn i bont dros Afon Cib, ac yna codwch i fyny i basio grŵp o fythynnod. Mae'r lôn yn gwyro i'r chwith ger melin lifio yng Nghib, ac yna'n pasio troad ar y chwith i Gwm Canol. Chwiliwch am y fynedfa i Goed Tregib ar y dde. Mae'r llwybr trwy Goed Tregib yn ganiataol ac rydym yn ddiolchgar i Coed Cadw am ganiatáu mynediad yn yr adran ysblennydd hon o goeTr.



13. Ewch heibio bwlch ger giât a disgynnwch drwy'r coed. Mae'r prif lwybr yn disgyn i gyffordd ger postyn cyfeirbwynt. Parhewch ymlaen yma; mae'r llwybr yn dirwyn ei ffordd rhwng coed gan wyro ychydig i'r chwith, ac yna i'r dde, i lawr i groesi nant. Croeswch y nant ac ewch ychydig i'r dde, trwy dir gwlyb, nes i chi gyrraedd rhodfa. Dilynwch hon i adael ger cerflun pren. Parhewch ymlaen i goeTr iau, ac yna ar hyd llwybr cywasgedig, i gyrraedd maes parcio. Ewch i'r dde yma cyn y ffordd, ar lwybr sy'n arwain at giât fach i Lôn Bethlehem.



14. Ewch i'r dde a pharhewch dros Bont Breinant gan gerdded ar hyd y ffordd; byddwch yn wyliadwrus o draffig ar hyd y lôn hon. Chwiliwch am arwyddbost llwybr troed, ar y chwith mewn tua hanner cilometr/traean o fillTr. Mae'r llwybr ag arwyneb yn arwain i'r chwith, i lawr at giât, ac yna ar draws y borfa. Dyma'ch ffordd chi i bont grog wych, a elwir yn lleol yn ‘Swingbridge’ yn lleol, dros Afon Tywi. Mae'r llwybr yn parhau ymlaen ac yna i’r chwith ar hyd darn â chorlannau, cyn ymuno â thrac sy'n rhedeg o dan y lein rheilffordd ac yna i fyny i Stryd yr Eglwys. Trowch i'r chwith yma i barhau ar y llwybr i Ffairfach, fel arall i'r dde ac i'r chwith yn syth ar gyfer canol y dref. Os ydych chi’n teithio i orsaf Llandeilo, yna ewch i'r dde ar hyd Heol Cilgant, ac i'r dde i Ffordd Latmer, ac i'r dde eto i lawr Heol Alan, lle mae grisiau i lawr i'r orsaf.

1. O bla(form i fyny gorsaf Llandeilo (ar gyfer trenau i gyfeiriad Amwythig a Crewe) ewch i fyny grisiau ac yna ar hyd llwybr i Heol Alan. Trowch i'r chwith i gerdded i fyny Heol Alan nes cyrraedd prif ffordd yr A483. Ewch i'r chwith i gerdded trwy ganol y dref ar Stryd Rhosmaen. Mae'r ffordd yn disgyn i fynd heibio eglwys Teilo Sant ac ymlaen dros Afon Tywi i fynd i Ffairfach. Parhewch ymlaen yn y brif groesffordd. Trowch i'r chwith i Ffordd Bethlehem i ddechrau adran Ffairfach i Rydaman y llwybr.


2. O orsaf reilffordd Ffairfach, ewch i'r dde ar ddiwedd y pla(form dros y groesfan, yna cerddwch ar hyd ochr arall y brif ffordd i'r groesffordd. Croeswch yn ôl i droi i'r dde, i mewn i Ffordd Bethlehem.


3. Parhewch ymlaen ar hyd y palmant ac o dan y bont reilffordd. Ewch i'r dde nesaf i Heol Trap. Mae hon yn dringo i ffwrdd o'r anheddiad am ychydig o dan 1 cilomedr i Gwm Isaf, lle byddwch chi’n mynd heibio lôn ar eich chwith. Tuag 20 metr i fyny o'r gyffordd, ewch i'r chwith dros gamfa ac yna anelwch yn groeslinol i'r dde i fyny borfa i groesi camfa ger coeden. Cerddwch ymlaen, â wal a gwrych ar y dde. Camwch dros nant fechan ar y dde, i fyny grisiau a thros gamfa (cynigir cael giât yma yn lle camfa). Ar ôl mynd drosU, ewch i fyny'r clawdd trwy redyn a glaswellt llaith. Mae brwyn cyffredin hefyd yn gordyfu yma. Croeswch gamfa o dan goeden dderw ar ochr dde uchaf y cae. Parhewch ymlaen, ochr yn ochr â ffin â choed yn cydredeg, gan fynd heibio ardal fach o goeUr. Parhewch ymlaen i gornel dde uchaf y borfa garw hon, i groesi nant a all fod yn gorsiog.


4. Croeswch dros y gamfa sy'n arwain i'r goedwig. Parhewch dros nant arall i ddringo camfa arall. Mae ffens newydd yma, felly ewch dros gamfa a phlethwch i'r dde trwy fwlch, ac yna i’r chwith i fyny tuag at y ffin nesaf, ond peidiwch â mynd trwy'r giât cae; yn hytrach, ewch am fwlch rhwng coed i'r chwith o'r giât. Camwch dros nant fechan yma, a throwch i'r dde i gerdded ymlaen i gamfa ar ben dde y cae. Unwaith y byddwch drosU, parhewch ymlaen, gan groesi dwy gamfa a phont droed. Parhewch ymlaen i fyny cae mawr, sy’n llawn o frwyn cyffredin, yna croeswch ddwy gamfa’n olynol ar y ffin i mewn i'r cae nesaf. Parhewch ymlaen ar lwybr sy'n rhedeg rhwng tuswau iach o laswellt; parhewch ymlaen drwy fwlch, dros nant ac i fyny clawdd tuag at fferm Gelli-Groes. Ewch trwy giât cae a throwch i'r dde i fynd heibio trwy ddwy giât arall; mae'r trac yn arwain i fyny at drofa. Ewch i'r dde ar ei hyd, â bythynnod ar y dde, gan fynd ymlaen i ffordd.


5. Ewch i'r chwith, ac yn syth i'r dde, ar y ffordd i groesi camfa i mewn i borfa. Dilynwch y gwrych ar y chwith i lawr y cae. Croeswch gamfa ar y chwith i ardal o dir garw. Yn awr, ewch ymlaen i gamfa arall a chroeswch dros lôn werdd i ddringo trydedd gamfa. Ewch ychydig bach i’r dde ar draws y borfa, ewch ymlaen trwy fwlch mewn wal ac yna ymlaen i groesi'r gamfa nesaf. Mae cyffordd o lwybrau yn y cae hwn; fe welwch fferm Penywaun draw i'r chwith.


6. Ewch ychydig i'r dde ar draws porfa arall â brwyn, dringwch gamfa ar y ffin nesaf ac anelwch ychydig bach i’r dde, eto dros borfa arall, i groesi ail gamfa a nant. Parhewch ymlaen â'r gwrych i'r chwith. Croeswch gamfa arall eto a dilynwch y llwybr wrth iddo ddisgyn, i ddringo dros gamfa a nant. Ewch drwy'r Ur gwlyb i gerrig sarn dros nant. Dringwch i fyny i gamfa, ar hyd lôn werdd, gan fynd trwy giât fach ac, wrth Gapel Isaac, i gyffordd ger fferm Castle View. Ewch i'r dde ar y ffordd, trowch i'r chwith ond cadwch i'r dde fel yr arwyddbost tuag at Gastell Carreg Cennen.


7. Ar y gyffordd nesaf, ewch i'r dde. Mae'r ffordd hon yn troelli i lawr o dan y castell ac yn gwyro i'r chwith yn sydyn i annedd ym Mhantyffynont. Ewch i'r dde i lawr grisiau, trwy giât i mewn i borfa ar ochr bryn. Mae'r llwybr yn gwyro i’r dde i ffwrdd o'r annedd i groesi camfa, yna'n disgyn i lawr yn fwy serth, lle mae grisiau i lawr i gamfa a phont droed dros Afon Cennen. Ewch ychydig i'r chwith i fyny clawdd, croeswch gamfa mewn gwrych ac yna dringwch i fyny'r bryn, ger y gwrych ar y dde, gan wyro i'r dde i basio o dan Llwyn-bedw. Ymunwch â thrac i'r dde o'r annedd, a pharhewch ymlaen i Nant Llygad Llwchr, lle byddwch chi’n croesi pont droed. Parhewch ymlaen ar hyd y prif lwybr, gan anwybyddu llwybrau i'r chwith. Mae'r trac yn gwyro i'r dde i Gwrtbrynbeirdd, lle mae'n gwyro i'r chwith cyn y ffermdy. Yn y pen draw, mae'r trac yn dod i ben ar ffordd.


8. Trowch i'r chwith i gerdded wrth y fynedfa i hen chwarel ar y dde, oherwydd mae hon yn ardal lle mae sawl crib calchfaen wedi'u gweithio. Mae'r fynedfa i gynhyrchydd dŵr potel ar y chwith. Wrth i'r ffordd ddechrau gwyro i'r chwith, cadwch i'r dde dros grid gwartheg ac i fyny trac, gan fynd heibio i nifer o anheddau. Yn y gyffordd, trowch i'r dde i ddringo i fyny ar drac i Garreg Dwfn. Mae hwn yn gwyro i'r chwith ac yn cynnig golygfeydd gwych yn ôl draw i Garreg Cennen. Cyn bo hir, byddwch chi’n mynd heibio i rai hen adeiladau mewn cae cyfagos, a bydd y trac yn disgyn i lawr y Ur mynediad agored i fwy o adeiladau ar y dde.


9. Ar y pwynt hwn, ewch drwy giât bren ar y dde a phasiwch rhwng adeiladau. Trowch i'r chwith, a cherddwch ymlaen trwy'r borfa nesaf i gyrraedd camfa. Croeswch hon a dilynwch y llwybr, sydd weithiau â phlanhigion wedi tyfu’n gwyllt, trwy borfa garw i adeiladau ym Mhant Glas. Parhewch ymlaen i lawr y lôn, i gyrraedd Llandyfân lle mae eglwys Dyfan Sant ar y dde.


10. Croeswch dros y ffordd ac ewch ychydig i'r dde i fynd trwy giât fach i gae. Ewch ymlaen ger polyn trydan, ac yna ewch i lawr y cae i giât fach islaw. Parhewch ymlaen ar rodfa dros dir creigiog a mwdlyd, ac yna ewch ar draws Ur gwlyb, gan anelu ychydig i'r chwith i giât mochyn i fynd i mewn i goedwig. Ewch i'r dde, a dilynwch y llwybr sy'n gwyro i'r chwith ac i'r dde, yn agos at hen wal derfyn. Mae hwn yn arwain at giât fach.


11. Ewch allan ar y ffordd, a throwch i'r dde i gerdded i lawr y clawdd, ond gwnewch yn siŵr eich bod yn croesi drosodd cyn y troad. Ewch i'r chwith ar y trac trwy giât mochyn ger giât cae. Ewch heibio i hen waith calchfaen. Parhewch ymlaen yn y gyffordd ac ymlaen trwy giât mochyn ger giât cae. Mae'r llwybr yn dringo i'r chwith rhwng mieri. Bu dargyfeiriad yma, felly trowch i'r chwith, ac yna i'r dde, ar hyd ymyl y goedwig, gan arwain at giât mochyn yn y ffin nesaf. Unwaith y byddwch chi drwyddi, cerddwch ymlaen nes i chi gyrraedd giât mochyn ar y chwith, sy'n arwain i mewn i'r goedwig. Mae'r llwybr yn mynd i'r dde i lawr trwy'r goedwig, trwy hen weithfeydd, i ffens. Ewch trwy giât, a pharhewch ymlaen wrth i'r llwybr droelli i giât fach y byddwch chi’n mynd drwyddi, cyn gwyro i'r chwith ac i'r dde at giât fach arall. Ewch drwyddi ac ewch ychydig i'r chwith i lawr at giât fach.


12. Ewch drwyddi, ond sylwch fod dargyferiaid wedi bod yn Pistyll-bâch. Mae'r llwybr newydd yn mynd i'r chwith ac yna i'r dde. Dilynwch y llwybr tonnog a throellog nes ei fod yn disgyn i'r chwith o hen adeilad gardd. Ewch i'r chwith i basio trwy ddwy giât sy’n gwarchod sianel ddraenio. Mae’r llwybr wedi newid yma hefyd o hen linell y llwybr. Ewch ymlaen i bostyn cyfeirbwynt ac yna i'r chwith i ddringo i fyny trwy goeUr i ffens. Ewch i'r chwith a thrwy borth i'r ael, ac yna i'r chwith i giât mochyn sy'n arwain at y ffordd.


13. Ewch i'r dde i gerdded i lawr y ffordd i orsaf reilffordd Llandybïe a chanol y pentref. Os byddwch chi'n parhau i Rydaman, ewch i'r chwith ar hyd ffordd heb ei nodi, rhwng tai hŷn ar y chwith, cyn yr orsaf. Os welwch chi Erw'r Brenhindedd ar y chwith, rydych chi newydd golli'r troad; nid oes mynegbost yma felly mae'n hawdd gwneud hynny!


14. Os byddwch chi’n dechrau yng ngorsaf reilffordd Llandybïe, trowch i'r dde dros y groesfan ac ewch heibio troad am dai yn Erw'r Brenhindedd. Cymerwch y troad nesaf i'r dde ar hyd trac rhwng tai hŷn. Parhewch ymlaen trwy giât fach ger giât cae sy'n arwain i mewn i badog. Ewch i'r dde. Cyn cyrraedd y gwrych a giât cae, ewch i'r chwith trwy giât fach i ddringo i fyny'r cae, ochr wrth ochr â’r gwrych ar eich dde. Ewch drwy giât ar y brig, a anelwch ychydig i'r dde ar draws porfa i fynd trwy giât fach arall. Ewch i gyfeiriad tebyg i fynd heibio coedwig ac yna disgynnwch i lawr ar hyd gwrych i giât mochyn a thros bont droed. Anelwch ychydig i’r chwith ar draws cae mawr i giât fach ger giât cae. Parhewch ymlaen yn agos at wrych ar y chwith i fynd trwy giât mochyn, â fferm Llangwyddfan i'r dde.


15. Parhewch ymlaen am sawl metr ac yna ewch i'r chwith dros bont droed. Trowch i'r dde i fynd ar hyd y trac i gwrdd â lôn. Ewch i'r chwith ar ei hyd, am tua 60-70 metr. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cadw i’r dde wrth y fforch, trwy giât fach ger grid gwartheg, ac i fyny'r ffordd tuag at dŷ. Ger y tŷ, byddwch yn gweld giât mochyn ar y dde yn arwain i mewn i gae cyfagos. Dyma’r ffordd i chi. Unwaith y byddwch chi drwy'r giât, dringwch i fyny ochr wrth ochr â'r gwrych i'r chwith, gan basio ardal o goed ar y brig. Mae'r llwybr yn gwyro i'r dde i ddau giât ar y chwith, mewn gwrych trwchus. Ewch drwyddynt ac yna trowch i'r dde ar hyd trac gwyrdd am tua 10 metr, i'r chwith trwy giât mochyn ac ymlaen i gyrraedd giât fach. Parhewch ymlaen yn awr, â gwrych i'r dde i ffin gae, ac ewch ymlaen eto yn y cae nesaf at giât mochyn sy'n arwain i Ffordd Glynhir.


16. Trowch i'r dde a dilynwch Ffordd Glynhir heibio troad ar y chwith. Parhewch ymlaen, a chyn i'r ffordd droi i'r dde, ewch i'r chwith, trwy giât mochyn ger giât cae i lawr trac tuag at Barc Henry. Mae'r trac yn disgyn i gae, trwy ddwy giât mochyn ac yn disgyn i lawr i'r ffin nesaf lle mae'n gwyro i'r dde, trwy giât ger giât cae, ac yna i'r chwith a'r dde, i barhau i lawr yr allt trwy Ffordd Parc Henry arall.


17. Cadwch i'r dde yma ac, wrth i'r lôn wyro i'r dde trwy'r datblygiad tai, ewch i'r chwith wrth y mynegbost, i lawr grisiau a rhwng gerddi. Croeswch ffordd, a pharhewch ymlaen ar lwybr tebyg, i gyrraedd y brif ffordd ym Monllwyn. Ewch i'r chwith i gerdded ar hyd y grîn, ac yna ymlaen tuag at y dref, taith gerdded deg munud dda oddi yma. Os byddwch chi’n mynd i orsaf reilffordd Rhydaman, ewch i'r dde ar hyd Ffordd yr Orsaf a chymerwch y trydydd troad ar y dde. Fel arall, parhewch ar Ffordd Llandybïe i ganol y dref; mae'r orsaf fysiau ar y chwith.

Gorsaf reilffordd Rhydaman i Orsaf Reilffordd Pontarddulais 14km

1. Gadewch orsaf reilffordd Rhydaman, trowch i'r dde i mewn i Ffordd yr Orsaf ac i'r chwith yn y brif gyffordd. Trowch i'r dde i Stryd y Coleg (A483) i gerdded trwy'r dref, gan fynd heibio'r orsaf fysiau ar y chwith, i'r gyffordd â rheiliau yn ei chorlannu. Croeswch y ffordd i fynd ymlaen ar hyd Stryd y Cei, ardal i gerddwyr, sy'n arwain at gerflun sy'n darlunio treftadaeth lofaol y dref. Ewch ymlaen eto ar y gylchfan gyntaf, gan fynd heibio'r Railway Hotel, a thrwy gatiau dros reilffordd Dyffryn Aman. Ewch ymlaen i gylchfan arall ac anelwch tuag at y bont yn Stryd y Parc dros Afon Aman. Fodd bynnag, ewch i'r dde yn syth cyn y bont ar lwybr agwyneb wrth ochr yr afon. Dilynwch hwn i lawr i gefn archfarchnad Tesco lle byddwch chi’n mynd i'r dde ar draws ffordd (ffordd bengaead ar hyn o bryd) i ymuno â'r llwybr cerdded a beicio i Bantyffynnon, sydd hefyd yn digwydd bod yn Ffordd Masnach Deg ar y pwynt hwn. Mae’n rhedeg ar hyd cefn yr archfarchnad, ac yna i’r chwith ochr yn ochr â ffensys diogelwch a'r trac rheilffordd.


2. Byddwch chi'n cyrraedd cyffordd. I'r rheiny sy'n gorffen taith gerdded yng ngorsaf reilffordd Pantyffynnon, ewch dros y cledrau eto a throwch i'r chwith ar gyfer yr orsaf, tua 5 munud i ffwrdd ar y mwyaf. Fel arall, ewch i'r chwith yn y gyffordd i barhau. Os byddwch chi'n cychwyn ar eich taith gerdded yng ngorsaf reilffordd Pantffynnon, gadewch y platfform nesaf at y groesfan reilffordd ac ewch i'r dde ar hyd Heol Pantffynnon. Edrychwch am ffordd i'r dde ar draws y lein rheilffordd, a pharhewch ymlaen i ymuno â'r prif lwybr.


3. Mae'r llwybr yn rhedeg ochr yn ochr â maes clwb rygbi Pantyfynnon, i groesi pont grog dros Afon Aman, a phont droed fechan dros lednant. Dilynwch y lôn tarmac i fyny i bentref Garnswllt, lle byddwch chi'n dod i gylch troi a thai. Ewch i'r chwith i gerdded i fyny'r ffordd, Lon y Felin, trwy stad o dai i gyffordd â Heol y Garn. Ewch i'r dde yma a phasiwch heibio rhes o dai i'r dde. Wrth i'r ffordd wyro i'r dde, ewch i'r chwith ar hyd trac heibio dau dŷ arall, trwy giât fetel i lethr coediog, lle roedd gwaith chwarel ar un adeg.


4. Yn awr, chwiliwch am lwybr i fyny grisiau trwy’r goedwig (sydd hefyd wedi'i cyfeirbwyntio fel Taith Gerdded Penlle'r Castell). Dringwch fwy o risiau drwy'r hen weithfeydd, a hyd yn oed mwy i gyrraedd camfa i mewn i gae. Parhewch i'r chwith ar hyd yr hen wal derfyn, sydd bellach wedi'i orchuddio â glaswellt a mwsogl, i fyny llethrau Garnswllt i ymuno â wal â choed yn cydredeg. Ewch i'r dde ar hyd y wal am tua 10-15 metr ac yna ewch i'r chwith dros gamfa. Parhewch i fyny'r allt, gan gadw wal adfeiliedig a drain ar y dde, nes ar ôl tua 100 metr, byddwch chi’n dod ar draws wal arall o'r chwith. Yna mae'r ddwy wal yn eich sianelu i'r dde yn gyntaf, yna i'r chwith, lle mae postyn cyfeirbwynt sy'n dangos cyfeiriad i fyny'r allt. Parhewch i ddringo, gan fynd yn groeslinol i fyny'r bryn i giât gul sy’n swatio ger giât gae. Unwaith y byddwch chi drwyddi, parhewch ymlaen â ffens i'r dde i fynd trwy giât mochyn.


5. Croeswch drac y fferm, a thrwy giât mochyn arall, i ddringo eto â ffens bellach ar y chwith, yn codi i fyny i ychydig o risiau a giât fach. Unwaith y byddwch chi drwyddi, parhewch ymlaen eto ar draws porfa, trwy giât arall ger giât cae, ac ymlaen i gyrraedd camfa mewn ffens bren. Croeswch gamfa a chadwch ychydig i’r dde i fynd trwy giât cae bren i gyrraedd adfeilion gwladaidd fferm Bryncyffon. Cerddwch heibio'r adfeilion a thrwy giât fach mewn giât cae. Parhewch ymlaen trwy giât fach arall a pharhewch ochr yn ochr â choetir a ffens i godi i fyny'r dyffryn ar hyd trac gwyrdd, yn yr un cyfeiriad i’r de-ddwyrain. Parhewch i godi wrth iddo ymwthio i fyny’r dyffryn tuag at linell o beilonau ar y gorwel; byddwch chi’n anelu i’r dde o’r peilon ar y dde. Byddwch chi’n pasio trwy dir gwlyb wrth i'r trac ddod yn fwy garw, gan wyro ychydig i'r chwith nes i chi gwrdd â thrac sy'n dod i fyny o'r chwith, Taith Gerdded Santes Illtud, y byddwch yn ymuno ag ef ar gyfer y daith gerdded trwodd i Bontarddulais.


6. Ewch i'r dde ar y trac fferm hwn sy'n gwyro ychydig i’r chwith ac i fyny i ymuno â thrac lletach. Ewch i'r dde yma, i gerdded ochr wrth ochr â’r trac, i briffordd gyhoeddus lle byddwch chi’n troi i'r dde eto ac yn codi'n raddol i fyny'r allt. Pan fydd y ffordd hon yn dechrau disgyn, chwiliwch am ddau drac sy'n arwain i’r chwith (mae hyn bellach yn wahanol i Daith Gerdded Santes Illtud a ddangosir ar fapiau hŷn yr AO).


7. Parhewch ymlaen ar y trac gwyrdd ar y chwith, sy'n gwyro i'r chwith ac i'r dde yna darfod wrth i chi fynd ar draws y rhos. Parhewch ymlaen, gan anelu at bostyn cyfeirbwynt i gynorthwyo llywio, ar draws rhostir eang a elwir yn Graig Fawr (y cyfeiriant cwmpawd mewn gwelededd gwael yw 240 gradd). Parhewch ymlaen, gan godi'n araf yn awr tuag at bostyn cyfeirbwynt arall ar y gorwel. Ceir traciau ar hyd yr adran hon, sy'n wlyb yn y gaeaf ond yn aml yn sych fel asgwrn yn yr haf: yn aml maent yn cael eu defnyddio gan farchogion ceffylau a cherbydau fferm. Mae'r llwybr yn dipio ychydig ar y dechrau ac yna'n codi eto, gan wyro ychydig i'r dde ac yna i'r chwith i basio i'r dde o bwynt triongli. Wrth gyrraedd y tir uchaf, cyn bo hir byddwch chi’n gweld golygfeydd gwych o Aber Casllwchwr, Penrhyn Gŵyr, Abertawe, Port Talbot i'r de-ddwyrain a Mynyddoedd y Preseli i’r gorllewin.


8. O'r pwynt triongli, parhewch ymlaen ar hyd y llwyfandir i ddilyn trac, (y cyfeiriant cwmpawd mewn gwelededd gwael yw 220 gradd). Mae'r trac hwn, yn aneglur i ddechrau, ac yn dod yn fwyfwy diffiniedig. Cyn bo hir, byddwch chi’n gallu gweld tapestri o gaeau ac ardaloedd o goetir i'r dde yn Nyffryn Casllwchwr. Dilynwch y pyst cyfeirbwynt wrth i'r trac ddisgyn yn raddol i ddechrau, yna'n fwy serth, wrth iddo fynd i’r dde ac yna i’r chwith i lawr llethr; mae brigiadau i'r chwith. Dilynwch y prif drac wrth iddo fynd ar draws y rhostir wedi’i orchuddio â rhedyn, â thraciau eraill yn ymuno o bryd i'w gilydd. Yn y pen draw, byddwch chi’n disgyn i giât fetel a byngalo y tu hwnt, i adael y rhostir ym Mhentrebach.


9. Dilynwch y lôn o'i flaen wrth iddi fynd heibio nifer o anheddau i lawr i gyffordd. Trowch i'r dde yma, i gerdded ar hyd lôn serth hynafol â llinell o hen goed derw hardd yn ei ffinio. Mae'n mynd trwy ardal drefol, ar hyd Heol Danlyn, i gyffordd ger grîn. Ewch i'r chwith ar hyd Heol Glynhir ac yna mae’n parhau i Heol Caecerrig, heibio ysgol, ac ymlaen i Heol Dulais, lle mae arhosfan bws i Abertawe ar y chwith. Dilynwch Heol Dulais i gyffordd â Stryd Teilo Sant. Trowch i'r dde yma, i fynd trwy ganol y dref i gyffordd. Ewch i'r dde ar gyfer y prif arosfannau bysiau (a thoiledau cyhoeddus), neu parhewch ymlaen ar gyfer gorsaf reilffordd Pontarddulais, fel yr arwyddion i'r dde cyn y bont dros Afon Llwchwr. Mae'r gyffordd â goleuadau traffig yn nodi'r safle lle roedd rhan gaeëdig lein Canolbarth Cymru, o Bontarddulais i orsaf Victoria Abertawe, yn croesi'r ffordd ar y lefel.

RHYBUDD: Sylwch fod aber Casllwchwr yn llanwol, ac efallai na fydd modd cwblhau'r adran hon, ar nifer gyfyngedig o ddiwrnodau, pan fydd llanw uchel. Cynghorir cerddwyr i wirio tablau llanw sydd ar gael yma. Rydym wedi cyhoeddi dewis amgen i'r llwybr hwn, ar ochr orllewinol yr aber, i'w ddefnyddio pan fydd llanwau'n rhedeg yn uchel.


1. O orsaf reilffordd Pontarddulais, trowch i'r chwith i'r brif ffordd (A48), ewch ymlaen yn y groesffordd. Croeswch drosodd i ddilyn y fforch dde trwy'r dref ar hyd Heol Sant Teilo. Ger y Farmers Arms, cymerwch y troad nesaf i'r dde, i mewn i Trinity Place ac yna, o fewn 50 metr, i'r chwith wrth y fforch i Goed Bach. Mae hyn yn arwain at Barc Coed Bach.


2. Parhewch ymlaen ar y prif lwybr a dilynwch hwn wrth iddo wyro i'r dde, i lawr heibio'r cae pêl-droed, i'r chwith ar hyd yr ymyl waelod, ac i'r chwith eto, i ddod i bwynt lle mae cyffordd wedi'i nodi â mynegbost. Ewch i'r dde yma, trwy ardal fach o goetir i giât mochyn, dros bont droed a hen lein rheilffordd (sydd bellach bron â’i gorchuddio gan chwyn), sef rhan segur lein Calon Cymru (a elwir bellach yn Lein Calon Cymru) a oedd yn rhedeg o Bontarddulais i Abertawe. Mae'r llwybr yn arwain at giât mochyn arall. Yma mae cyffordd o lwybrau. Peidiwch â dilyn y llwybr sydd ag arwyddion i'r chwith, sy'n codi ychydig ar draws y cae, na dilyn trac sy'n gostwng ychydig i'r dde ac i lawr allt i giât cae ddwbl. Yn hytrach, ewch yn syth ymlaen tuag at wrych lle mae giât mochyn wedi'i guddio'n rhannol. Mae'r giât mochyn hon yn arwain ar lwybr troed ag arwyneb caled tuag at Afon Llwchwr.


3. Dilynwch y llwybr hwn ag arwyneb caled, ac wrth gyrraedd glan yr afon, ewch i'r chwith trwy giât mochyn, ar draws pont droedm ac ail giât mochyn, er mwyn parhau ochr wrth ochr â glan yr afon, sydd â chyrs cyffredin yn cydredeg. Croeswch bont droed arall a giât mochyn, ac yna â’r ffens i'r dde, ewch trwy dair giât mochyn arall (anwybyddwch y gamfa) gan anelu tuag at adeiladau'r fferm o'ch blaen. Yma mae cyffordd o lwybrau: ymlaen yn yr halwyndiroedd, mae mynwent hen eglwys Llandeilo Talybont (sy’n enwog am ei murluniau canoloesol), a ddatgymalwyd carreg wrth garreg a'i hailgodi yn Amgueddfa Werin Cymru yn Sain Ffagan. Mae'r dargyfeiriad byr hwn o 200 metr werth yr ymdrech. Fel arall, trowch i'r chwith trwy giât mochyn arall a phasiwch o gwmpas y tu allan i adeiladau'r fferm, i ymuno â thrac mynediad y fferm. Trowch i'r chwith ar hyd y llwybr hwn, tuag at y draffordd.


4. Ewch o dan y draffordd, trwy giât fach o fewn giât cae, ac yna dilynwch y trac wrth iddo wyro i’r chwith yn gyntaf ac yna i'r dde. Cerddwch o dan y rheilffordd a pharhewch ymlaen i basio wrth fynedfa fferm Castell Ddu. Croeswch y bont dros nant, yna trowch i'r dde i fynd dros gamfa ger giât cae. Dilynwch y trac wrth iddo wyro i'r chwith wrth gyffordd, a mynd yn llwybr llai â’r aber i'r dde; gallwch chi arogli awel y môr!


5. Dyma le mae'n rhaid i chi fod yn ofalus, oherwydd os oes llanw uchel iawn, bydd y cae dan ddŵr a bydd yn rhaid i chi droi yn ôl. Rydym yn argymell eich bod yn dilyn y llwybr Llanw Uchel, ar ochr arall yr aber, os bydd y broblem hon yn digwydd. Mae cyfeirbwyntiau ar ei hyd hefyd.


6. Parhewch ymlaen, heibio gorsaf bwmpio carthffosiaeth, i groesi camfa sy'n arwain at ddarn corsiog byr, a ewch ychydig i'r chwith i giât mochyn mewn ffens, trwy groesi dros nant ger pont droed trawstiau rheilffordd a thrac . Unwaith y byddwch chi drwy'r giât mochyn, cerddwch â’r ffens i'r dde trwy ddarn gwlyb i giât fach. Parhewch ymlaen yn y cae nesaf. Dringwch gamfa garreg a cherddwch ymlaen eto i groesi ail gamfa garreg ar ffin y cae nesaf. Unwaith y byddwch chi drosti, parhewch i gerdded ychydig i'r dde i drydedd gamfa garreg ger polyn trydan. Yn olaf, disgynnwch i lawr i gamfa bren a phont fach, i ffordd ger Grove Farm.


7. Ewch i'r chwith ar y ffordd am tua 10-15 metr, cyn troi i'r dde trwy giât fach, yna codwch i giât arall ger giât cae. Ewch drwyddi, a dilynwch y gwrych cae i'ch dde i gerdded i fyny'r cae, cyn bo hir byddwch chi’n gwyro i'r dde i dir corsiog, felly mae angen bod yn ofalus wrth lywio ffordd drwodd. Rhybudd - gall yr adran hon fod yn fwdlyd mewn tywydd gwlyb iawn. Anelwch at y gornel chwith uchaf un, wrth i'r cae gulhau, lle mae camfa o dan lwyni. Croeswch hi, a'r bont fach, i fynd i mewn i'r cae nesaf. Trowch i'r chwith i gerdded ochr yn ochr â'r gwrych ar eich chwith, nes i chi gyrraedd giât mochyn ar y chwith. Ewch drwyddi ac yna ewch ychydig i’r dde. Dringwch y gamfa ger y giât, a cherddwch ar hyd y gwrych i'r dde. Byddwch chi'n cyrraedd giât mochyn ychydig y tu hwnt i drac, ac unwaith y byddwch chi drwyddi, parhewch ymlaen i gamfa arall ger giât cae. Ewch ymlaen â ffens i'r dde, i groesi camfa yn y gornel, ychydig fetrau i'r dde o giât cae. Trowch i'r chwith, ac yna i'r dde, i gerdded ar hyd trac yn arwain at gamfa ger giât â thŷ i'r dde. Byddwch chi'n dod allan ar lôn o'r enw Heol Llannant.


8. Croeswch drosodd ac ewch trwy giât fach gyferbyn, sy’n arwain i mewn i gae. Ewch ychydig i'r chwith i giât mochyn yn y ffin nesaf, a pharhewch ymlaen yn y borfa â gwrych a thai i'r chwith. Croeswch gamfa ger giât a pharhewch ar hyd trac â choed yn cydredeg. Dringwch gamfa arall ger ail giât, a pharhewch ymlaen i groesi trydedd gamfa i borfa arall, lle mae ceffylau weithiau'n pori. Dilynwch linell y gwrych ar eich chwith, i lawr at giât. Mae'r trac yn gwyro ychydig i'r dde, wedyn i'r chwith i gamfa ger giât cae. Mae’n arwain at gyffordd lle mae fferm Gwyn-faen i'r dde. Ewch i'r chwith yn y gyffordd am ryw 30 metr.


9. Ewch trwy giât mochyn a throwch i'r dde ar hyd Heol Gwynfe, trac i ddechrau sy'n fuan yn dod yn ffordd ag arwyneb, yn gwyro i'r dde ac yna i'r chwith. Parhewch ar ei hyd i gyrraedd mwy o anheddau, ond cyn cyrraedd y prif faes parcio, fe welwch mynegbost ar y dde. Gadewch y ffordd i ddilyn y llwybr march sy'n gwyro i'r chwith, fel y mae pyst cyfeirbwynt yn nodi, ond wrth iddo wyro i’r dde i fynd allan i'r man aberol ym Mharc Glanymor, ac ychydig cyn i chi gyrraedd y maes parcio, parhewch ymlaen i ymuno â llwybr ar hyd blaendraeth afon Llwchwr, gan gadw i’r dde ar gyffordd, ac yna ymlaen tuag at waith peirianyddol yn y pellter. Gadewch y parc trwy giât, ac ewch ymlaen ar ffordd ger y gwaith a Chlwb Cychod Casllwchwr, yna ar hyd y palmant i Bont Casllwchwr.


10. Ewch i'r dde i groesi'r bont ar balmant. Ym mhen pellaf y bont, trowch i'r dde i fynd i lawr grisiau, ac ymlaen tuag at ffatri Schaeffler. Yn y gyffordd, ewch i'r chwith i gerdded ar hyd Heol Yspitty. Dylai'r rheiny sy'n dymuno gorffen yng ngorsaf reilffordd Bynea barhau ymlaen i gerdded am 10 munud i'r orsaf, sydd ar y dde. Fel arall, ewch i'r chwith i groesi'r B4297 i ymuno â Llwybr Arfordir Cymru, trwy faes parcio ac i gyffordd heb fod ymhell y tu hwnt. Trowch i'r chwith yma.


11. I'r rheiny sy'n ymuno â'r llwybr yn Bynea, dilynwch y cyfarwyddiadau hyn. O orsaf reilffordd Bynea, cerddwch i fyny o'r naill blatfform neu’r llall i Heol-y-Bwlch. Trowch i'r chwith, croeswch y ffordd a pharhewch tuag at Gasllwchwr, heibio gwaith cemegol Huntsman ar y chwith. Y llwybr byrraf yw troi i'r dde, yn syth ar ôl ystafell Arddangos Ceir Harry Phillips, ar hyd llwybr troed sy'n ymuno â Llwybr Arfordir Cymru, wrth iddo adael maes parcio Porth Bynea.


12. Cymerwch y troad cyntaf i'r dde i gerdded dros y bont grog. Parhewch ar y trac llydan sy'n disgyn i redeg ochr yn ochr ag aber Llwchwr (llwybr a rennir â beicwyr, felly byddwch yn wyliadwrus). Datblygwyd dros ddeng milltir o arfordir fel Parc Arfordir y Mileniwm, ac mae hwn yn llwybr di-draffig eithriadol, trwodd i Ben-bre, felly gallwch ddisgwyl gweld llawer mwy o bobl ar y rhan hon o'r llwybr nag ar Lwybr Lein Calon Cymru ei hun. Mae golygfeydd arbennig o dda ar draws yr aber i Benclawdd a Phenrhyn Gŵyr. Weithiau mae’r arwyneb wedi’i chywasgu, ac mewn mannau eraill mae’r arwyneb wedi'i selio. Mae yna hefyd bredwaith ar hyd waliau'r môr sy'n cynnig golygfeydd agosach o lan y môr.


13. Yn y pen draw, byddwch chi’n cyrraedd y fynedfa i Ganolfan Gwlyptir Llanelli (sy'n cael ei rhedeg gan Ymddiriedolaeth Adar y Gwlyptir) ar eich chwith. Os nad ydych chi’n ymweld, croeswch y ffordd a parhewch ymlaen. Cyn cyrraedd ffordd arall, ewch i'r chwith a dilynwch y trac wrth iddo wyro i'r chwith, yna i'r dde i fynd heibio cwrs golff. Mae llwybr cyfochrog yn mynd i ffwrdd o’r prif drac, sy'n caniatáu golygfa wych o’r adar yn y morfeydd heli. Yn y pen draw, mae'r trac yn cyrraedd datblygiad trefol ym Machynys, yn troi i'r dde ger Goleudwr y Mileniwm, ac yn ymuno â ffordd ochr yn ochr â thai. Mae'r ardal wedi cael ei hail-adeiladu â thai’n edrych dros y môr, lle'r oedd diwydiant yn dominyddu ar un adeg. Yna mae’r llwybr yn mynd i’r dde eto, pan mae'n cyrraedd hen sianel fynedfa hen Ddoc y Gwaith Copr. Dilynwch hwn i'r ffordd, ac yna ewch i'r chwith gan ddilyn y llwybr ar hyd y bont ffordd a'r gylchfan. Mae'r trac yn parhau tuag at Ddoc y Gogledd.


14. Croeswch y ffordd ar y dde cyn y gylchfan, ac yna parhewch ymlaen i gerdded i mewn i Stryd y Môr. Dilynwch hon nes i chi gyrraedd Heol Glanmor, sy'n hawdd ei hadnabod oherwydd bod dau gapel hanesyddol gerllaw. Mae capel Bedyddwyr Bethel a chapel Annibynwyr Siloah ill dau’n dyddio o 1840, ond ehangwyd Bethel ym 1850. Mae gan Lanelli, fel llawer o ardaloedd diwydiannol de Cymru, nifer fawr o gapeli anghydffurfiol o'r cyfnod hwn, sydd wedi gwasanaethu'r boblogaeth leol ers hynny, ond sydd hefyd yn rhoi cymeriad i lawer o gymdogaethau lleol. Ewch i'r chwith i gatiau’r groesfan reilffordd. Unwaith y byddwch chi ar draws y cledrau, trowch i'r dde i mewn i Gilgant Great Western, ac mae'r fynedfa i orsaf reilffordd Llanelli ar y dde.

Gorsaf Reilffordd Pontarddulais i Orsaf Reilffordd Llanelli

Llwybr Llanw Uchel 20km

1. Mae'r llwybr yn rhannu Taith Gerdded Santes Illtud allan o Bontarddulais, trwodd i Fferm Penlan, er ei fod yn llwyddo i osgoi rhywfaint o'r cerdded ar brif ffordd trwy ddefnyddio Parc Hendy. Parhewch ymlaen o orsaf reilffordd Pontarddulais i'r brif ffordd, a throwch i'r dde i gerdded i fyny i'r gylchfan fach. Croeswch drosodd i fynd heibio tafarn y Black Horse, ac ymlaen ar hyd Heol Iscoed tuag at yr Hendy. Ar ôl tua 500 metr ar y brif ffordd, trowch i'r dde i mewn i Heol Sawel, heibio Capel Libanus, yna i'r chwith i mewn i Deras Afon, sy'n arwain at bont dros Afon Gwili ac i Barc Hendy. Parhewch ymlaen drwy'r parc i Heol-y-parc, B4306. Croeswch y ffordd ac ewch i fyny lôn i Heol Llwynbedw. Parhewch ymlaen i Dy-gwyn, ac ar y pwynt hwn, bydd llwybr Taith Gerdded Santes Illtud (â chyfeirbwynt) yn ymuno o'r chwith.


2. Mae Clos Ty gwyn yn gwyro i'r dde ac yna i'r chwith. Edrychwch am garej ar y dde, ac mae'r llwybr yn mynd heibio cefn hwn i giât mochyn. Unwaith y byddwch chi drwyddi, dilynwch y llwybr â chorlannau ar hyd ochr traffordd a thros y bont droed. Yna, mae'n mynd ymlaen i giât mochyn sy'n arwain i gae, lle gallwch anadlu ochenaid o ryddhad, wrth i chi ddianc o'r godreon trefol.


3. Cerddwch i fyny'r cae â gwrych i'r dde. Wrth i chi ddringo i fyny, fe welwch draphont reilffordd lein Ardal Abertawe, sy'n croesi aber Afon Llwchwr o'r man gwylio hwn. Ar ben y cae, ewch trwy giât mochyn a throwch i'r dde i fynd trwy'r giât nesaf i mewn i'r fynwent. Dilynwch y llwybr i fyny i'r lôn ger Capel Annibynwyr yr Hen Gapel, sy'n dyddio o ddechrau'r 18fed ganrif, ond bu rhai newidiadau ers hynny.


4. Ewch i'r chwith ar hyd y lôn, nes i chi gyrraedd fforch yn y ffordd. Dyma le byddwch chi'n gwahanol o Daith Gerdded Santes Illtud. Cadwch i'r chwith yn y gyffordd ar hyd lôn sy’n troelli, ag aur bach y gwanwyn, briallu a rhedyn yn addurno ei gloddiau. Mae’n disgyn yn raddol i basio troad i fferm Tyreglwys ar y dde, ac annedd ar y chwith. Ar y gornel nesaf, gadewch y ffordd dros gamfa â grisiau ger giât i gae.


5. Parhewch ymlaen ar hyd trac i fynd trwy giât mochyn ger giât cae yn y ffin nesaf, a pharhewch ymlaen i fynd trwy giât mochyn arall yn y cae nesaf. Ewch i'r dde i gornel uchaf y cae ac yna i’r chwith i lawr i ardal o goed aeddfed, lle byddwch chi'n mynd ychydig i’r chwith ôl i ddringo camfa garreg. Yn y cae nesaf, cerddwch ymlaen tuag at y tai a chroeswch bont droed dros Afon Morlais. Mae gan y llwybr gorlannau trwodd i ffordd.


6. Croeswch y ffordd a throwch i'r chwith i ddilyn y palmant i lawr i danlwybr sy'n twneli o dan yr A4183. Parhewch ar hyd Heol Troserch i basio Capel Bethesda, yna trowch i'r dde i Heol Mwrwg. Dilynwch Heol Mwrwg i nant, Nant Mwrwg, ac ewch i'r chwith ar hyd y llwybr fel yr arwyddbost, i Heol y Bont, y brif stryd ym mhentref Llangennech. Dylai'r rheiny sy'n dymuno ymuno â thrên yn Llangennech barhau i groesi Stryd y Bont i Heol yr Orsaf. I barhau ar y llwybr, trowch i'r dde i ddilyn y B4297 i fyny'r allt ar Heol Hendre nes cyrraedd Heol Brynhyfryd ar y chwith, ychydig ar ôl cysgodfan bysiau.


7. Ewch ar hyd Heol Brynhyfryd am tua 50 metr, yna ewch i'r dde ar hyd llwybr march y tu ôl i erddi. Mae hyn yn arwain at Heol Pencoed lle byddwch chi'n troi i'r dde. Yna mae'r ffordd yn gwyro i'r chwith ac wrth iddi wyro i’r chwith, parhewch ymlaen ar hyd llwybr â chorlan i drac. Ewch i'r dde i ddringo'r cae i drac arall. Ewch i'r chwith yma i gerdded o dan yr adeiladau ym Mhlas Penlan. Mae'r trac yn rhedeg ar hyd ymyl y cae, gan arwain i lawr at giât mochyn. Unwaith y byddwch chi drwyddi, parhewch ymlaen yn y borfa nesaf i ail giât mochyn, ac ymlaen eto i drydedd giât ar lwybr cul ag arwyneb. Dilynwch y gwrych i lawr at giât mochyn ger giât cae. Ewch i'r dde am ychydig o gamau, ac yna trowch i'r chwith i ddilyn gwrych i lawr i giât mochyn, a thrwyddi, sydd mewn ardal fwdlyd iawn. Anelwch ychydig i'r dde ar draws y cae, tuag at giât mochyn yn y gornel chwith bellaf. Ewch drwyddi a pharhewch ymlaen i fynd trwy giât mochyn olaf, sy'n arwain ar lôn.


8. Ewch i'r chwith ar hyd Heol Pencoed-isaf ac wrth iddi ddisgyn i gornel, edrychwch am giât mochyn ar y dde sy’n arwain i gae. Dilynwch y gwrych sy'n gwyro o gwmpas i drac wedi'i ddiffinio'n gliriach ger hen waith. Dilynwch hwn i lawr i Ffos fach, lle bydd angen i chi groesi dros y cledrau rheilffordd â gofal. Parhewch i ddilyn y trac trwy byllau wedi'u trwytho â brwyn, ar y ffordd i'r brif ffordd ym Mynea, ardal sy'n adnabyddus am gynhyrchu dur a thunplat. Ar y brif ffordd, trowch i'r dde am orsaf reilffordd Bynea ac i'r chwith i ymuno â Llwybr Arfordir Cymru i mewn i Lanelli. Trwy droi i’r chwith, a cherdded ar hyn y B4297, heibio gwaith cemegol Huntsman, y llwybr byrraf yw troi i'r dde, yn syth ar ôl ystafell Arddangos Ceir Harry Phillips, ar hyd llwybr troed sy'n ymuno â Llwybr Arfordir Cymru, wrth iddo adael maes parcio Porth Bynea.


9. Cymerwch y troad cyntaf i'r dde i gerdded dros y bont grog. Parhewch ar y trac llydan sy'n disgyn i redeg ochr yn ochr ag aber Llwchwr (llwybr a rennir â beicwyr ar y Llwybr Celtaidd). Datblygwyd dros ddeng milltir o arfordir fel Parc Arfordir y Mileniwm, ac mae hwn yn llwybr di-draffig eithriadol, trwodd i Ben-bre; gallwch ddisgwyl gweld llawer mwy o bobl ar y rhan hon o'r llwybr nag ar Lwybr Lein Calon Cymru ei hun. Mae golygfeydd arbennig o dda ar draws yr aber i Ben-clawdd a Phenrhyn Gŵyr. Weithiau mae’r arwyneb wedi’i chywasgu, ac mewn mannau eraill mae’r arwyneb wedi'i selio; mae yna hefyd bredwaith ar hyd waliau'r môr sy'n cynnig golygfeydd agosach o lan y môr.


10. Yn y pen draw, byddwch chi’n cyrraedd y fynedfa i Ganolfan Gwlyptir Llanelli (sy'n cael ei rhedeg gan Ymddiriedolaeth Adar y Gwlyptir) ar eich chwith, gwarchodfa natur ardderchog sy’n esbonio pwysigrwydd gwlyptir a’r bywyd gwyllt sy’n byw ynddo. Os nad ydych chi’n ymweld, croeswch y ffordd a pharhewch ymlaen. Cyn cyrraedd ffordd arall, ewch i'r chwith (ag arwydd Llwybr 4) eto a dilynwch y trac wrth iddo wyro i'r chwith, yna i'r dde i fynd heibio cwrs golff. Mae llwybrau cyfochrog yn mynd i ffwrdd o’r prif drac, os oes yn well gennych gael golwg agosach ar yr adar yn y morfeydd heli.


11. Yn y pen draw, mae'r trac yn cyrraedd datblygiad trefol ym Machynys, yn troi i'r dde ger Goleudwr y Mileniwm, ac yn ymuno â ffordd ochr yn ochr â thai. Mae'r ardal wedi cael ei hail-adeiladu yn ystod degawdau diweddar, â thai’n edrych dros y môr, lle'r oedd diwydiant yn dominyddu ar un adeg; roedd gwaith brics a thunplat yn arbennig o bwysig. Yna mae’r llwybr yn mynd i’r dde eto, pan mae'n cyrraedd hen sianel fynedfa hen Ddoc y Gwaith Copr. Dilynwch hwn i'r ffordd, ac yna ewch i'r chwith gan ddilyn y llwybr ar hyd y bont ffordd a'r gylchfan. Mae'r trac yn parhau ochr yn ochr â lle o'r enw Seaside a'r Flats, lle bu cryn ddatblygiad o waith haearn a chopr. Yr aber gorsiog i'r chwith oedd y brif sianel i Ddociau Sir Gaerfyrddin a'r Gogledd.


12. Croeswch y ffordd ar y dde cyn y gylchfan, ac yna parhewch ymlaen i gerdded i mewn i Stryd y Môr. Dilynwch hon nes i chi gyrraedd Heol Glanmor, sy'n hawdd ei hadnabod oherwydd bod dau gapel hanesyddol gerllaw. Mae capel Bedyddwyr Bethel a chapel Annibynwyr Siloah ill dau’n dyddio o 1840; ehangwyd Bethel ym 1850. Mae gan Lanelli, fel llawer o ardaloedd diwydiannol de Cymru, nifer fawr o gapeli anghydffurfiol o'r cyfnod hwn, sydd wedi gwasanaethu'r boblogaeth leol ers hynny, ond sydd hefyd yn rhoi cymeriad i lawer o gymdogaethau lleol. Ewch i'r chwith ar hyd Heol Glanmor i gatiau’r groesfan. Unwaith y byddwch chi ar draws y cledrau, trowch i'r dde i mewn i Gilgant Great Western, ac mae'r fynedfa i orsaf reilffordd Llanelli ar y dde.

Share by: