Taith Gerdded Gylchol Fer
Gorsaf Llandybïe
TAITH CERDDED | |
---|---|
Pellter | 5.3km | 3.3 milltir |
Tir | Palmentydd, ffyrdd cefn, caeau a choetir |
Anhawster | Mae’r uchder yn cynyddu gan 190m felly eithaf bryniog ond dim camfeydd. Un set serth o risiau i lawr |
Rhybuddion | Croesi ffordd A, rhan fer o ffordd B heb balmant, posibilrwydd y bydd da byw mewn caeau, yn agos i chwarel |
Trosolwg
Mae'r ardal mae’r daith gerdded hon yn ei chwmpasu’n cynnwys hen chwareli calchfaen a'r dirwedd a greodd y diwydiant cysylltiedig ***. Rydych chi'n gadael Llandybïe ar ffordd gefn werdd hir, i fyny allt, ac yn teithio tuag at Warchodfa Natur Carmel trwy ffyrdd a choetir tawel. Gallwch oedi ger Pant y Llyn, yr unig 'hafn' (llyn sy'n diflannu) ym Mhrydain, sy'n cael ei lenwi gan ddŵr tanddaearol yn y misoedd gwlypach ac yn denu llawer o adar gwyllt. Os oes gennych chi amser, gallwch ddilyn llwybrau ychwanegol y warchodfa natur, fel arall mae'r llwybr yn ôl i'r dref trwy goetiroedd a chaeau hyfryd.
Disgrifiad o'r daith gerdded ** blychau gwybodaeth ychwanegol
O Orsaf Llandybïe trowch i'r chwith i lawr yr allt, i ffwrdd o'r groesfan reilffordd. Cerddwch ar draws pont dros afon ac ar hyd stryd fer o dai a siopau. Mae'r ffordd yn gwyro ychydig i'r chwith o flaen yr eglwys. Trowch i'r dde wrth y gyffordd, gan ddilyn wal yr eglwys (bydd yr archfarchnad ar eich chwith) a pharhewch ar hyd y ffordd sy'n arwain at brif ffordd (A483) Ffordd Llandeilo. Trowch i'r dde ar hyd y brif ffordd, a chroeswch drosodd i'r palmant gyferbyn. Parhewch ymlaen am gyfnod byr iawn nes y troad cyntaf i’r chwith sef lôn gul/ffordd gefn werdd â thŷ ar y gornel. Dilynwch y ffordd gefn i fyny'r allt nes i chi gyrraedd ffordd fach ar y pen arall. Trowch i'r chwith yma ac yna cymerwch y troad cyntaf i'r dde, i lawr lôn. Mae'r lôn hon yn mynd heibio bwthyn ac yn gwyro i'r chwith ac yna'n mynd i ardal o goetir.
Parhewch yn syth ymlaen ar y lôn, sy'n mynd dros nant sy'n byrlymu i lawr y bryn. Mae'n dechrau dringo i fyny'r allt a byddwch yn pasio set fawr o risiau pren ar y dde (byddwch chi'n dod i lawr y rhain yn nes ymlaen yn y daith). Parhewch i droelli i fyny'r bryn, gan sylwi ar yr odyn galch ar eich chwith wrth i chi fynd i fyny, gyferbyn â thŷ. Mae'r lôn yn gwyro i'r dde, yna i'r chwith ac yn y pen draw yn ymuno â ffordd B dawel. Trowch i'r dde wrth y gyffordd a pharhewch yn syth ymlaen. Ar y chwith, fe welwch fwrdd gwybodaeth am Garmel wrth ymyl yr unig 'hafn' (llyn sy'n diflannu) ym Mhrydain a fydd yn llawn dŵr a ddaw o dan y ddaear yn ystod y misoedd gwlypach. Efallai y byddwch chi’n clywed adar dŵr sy’n ymweld. Ychydig ar hyd y llwybr, byddwch chi hefyd yn dod o hyd i'r fynedfa i Warchodfa Natur Carmel ** a bwrdd gwybodaeth arall sy'n manylu ar lwybr 2km hyfryd y gallwch ei ychwanegu at y daith gerdded, os oes gennych amser.
Parhewch ar hyd y ffordd B am gyfnod byr a phan gyrhaeddwch fforch, ewch i’r dde, yna dilynwch y llwybr troed sydd ag arwydd bron yn syth ar y dde. Mae'r llwybr troed hwn yn troelli trwy warchodfa natur arall. Wrth iddo wastatau, byddwch chi’n cyrraedd dwy giât cae. Ewch drwy'r giât mochyn nesaf at yr un ar y dde. Parhewch ar hyd y llwybr, gan anwybyddu’r giât cae ar y dde, ac ewch drwy giât llwybr troed arall. Parhewch yn syth ymlaen nes bod y llwybr troed yn fforchio. Mae dwy giât weladwy, un i lawr i'r chwith ar ymyl cae â golygfeydd agored, a'r llall i fyny bryn bach ar eich dde. Ewch drwy’r un ar y dde ac ewch i mewn i'r coetir. Ewch ymlaen trwy'r coetir a'r giât nesaf, gan gadw at y llwybr wrth iddo wyro o amgylch ymyl Chwarel Cilyrchen ** (nid yw'n weladwy). Sylwch fod y Chwarel yn segur ac yn beryglus – fe welwch ddigon o arwyddion rhybudd i'r perwyl hwn.
Yn y pen draw fe gyrhaeddwch chi’r set o risiau pren y gwnaethoch chi basio’n gynharach – ewch i lawr y rhain yn ôl i'r lôn ac ail-olrhain eich llwybr cynharach dros y bont. Fodd bynnag, y tro hwn, cymerwch y troad cyntaf i'r chwith i lawr llwybr troed, sydd ag arwydd. Byddwch yn pasio tŷ o'r enw Ysgoldy ac yn pasio trwy giât mochyn i gae. Arhoswch yn yr un cae (anwybyddwch y giât cae ar y dde) a cherddwch yn agos at y gwrych ar y dde. Mae'r cae culhau a byddwch yn dod o hyd i giât mochyn arall ar y pen pellaf, sy'n mynd i mewn i goedwig. Parhewch drwy'r coed a chroeswch y bont dros y nant, a phan welwch lôn, ewch drwy giât metel y llwybr ar y dde, sy'n arwain allan o'r coed ac i gae.
Dilynwch y cae cyntaf ar hyd y ffin chwith ac yna ewch drwy'r giât. Yn y cae nesaf, cerddwch yn syth o'ch blaen tuag at y wal frics goch ac adeilad yn y coed. Ewch drwy'r giât ac i'r cae olaf. Os edrychwch yn ôl yma, byddwch yn gweld y chwarel. Dilynwch ochr yr adeiladau ac ewch allan ar ffordd fach. Trowch i'r chwith a cherdded i lawr i brif ffordd yr A483.
Trowch i'r dde a dilynwch y ffordd yn ôl tuag at Landybïe. Fe welwch dafarn y Llew Coch ar y chwith cyn hir - croeswch drosodd a throwch i'r chwith o'i blaen. Mae'r ffordd hon yn dod â chi'n ôl i Eglwys Llandybïe ac, os byddwch chi'n parhau’n syth ymlaen, byddwch chi'n cyrraedd yr orsaf.
** Cafodd Odynnau Calch Cilyrychen eu dylunio gan y syrfëwr a'r pensaer, R K Penson (tua 1815 - 1885) a brydlesodd y chwareli gan yr Arglwydd Dynevor ym mis Ebrill 1856. Anogodd agor Rheilffordd Llanelli ym 1857 gynnydd mewn chwarela a llosgi calch yn yr ardal. Adeiladwyd y rhes wreiddiol o chwe odyn rhwng Awst 1856 a Mehefin 1858. Erbyn 1900, roedd naw odyn, 50 troedfedd o uchder a oedd yn gallu cynhyrchu 20 tunnell o galch y dydd. Maent yn nodwedd ganolog Gwaith Calch Cil-yr-ychen.
Mae Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru a Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn rheoli Gwarchodfa Natur Genedlaethol Carmel
Mae ei daeareg ryfeddol yn galchfaen carbonifferaidd yn bennaf, a dyma leoliad hafn neu lyn sy'n diflannu. Maent yn fwy cyffredin yn Iwerddon. Mae'r llyn yn llenwi yn yr hydref a'r gaeaf, oherwydd y caiff ei fwydo gan ddŵr daear yn unig. Mae'r llyn yn diflannu erbyn yr haf, a dyma'r unig enghraifft hysbys ym Mhrydain. Mae hafn Pant-y-Llyn mewn pant bach ar derfyn allanol gogleddol Maes Glo De Cymru yng Nghernydd Carmel. Mae'r pant hwn yn cynrychioli sianel rewlifol a ffurfiwyd ar hyd Ffawt Betws, lle mae dadleoli wedi dod â chalchfaen carbonifferaidd i gysylltiad â chraig Defonaidd anhydraidd hŷn. Mae cyfundrefn hydrolegol y corff dŵr yn gysylltiedig ag ymddygiad dŵr daear lleol yn y calchfaen. Mae'r pant yn llenwi i ddyfnder o tua 3 m yn ystod diwedd yr hydref ac mae'n parhau i fod yn llawn tan yr haf canlynol, pan fydd yn gwagio'n llwyr, gan adlewyrchu ymddygiad nodweddiadol hafnau. Nid oes sianeli draenio wyneb ac mae twll llyncu ym mhen gogleddol y pant. (Wikipedia).