Taith Gerdded Gylchol Fer Gorsaf Llanymddyfri

TAITH CERDDED
Pellter 5.7km I 3.5 milltir
Tir Palmentydd, caeau a choetir
Anhawster Gwastad yn bennaf, dau fryn, camfeydd
Rhybuddion Un groesfan rheilffordd, croesi ffyrdd A, posibilrwydd y bydd gwartheg, defaid, ceffylau mewn caeau

Trosolwg


Mae'r daith gerdded dirion hon yn eich tywys ar hyd Afon Tywi i Bont Dolauhirion cyn mynd trwy gaeau a choetir, ar draws y lein rheilffordd ac i fyny at Eglwys Llanfair cyn mynd yn ôl i'r dref. 


Disgrifiad o'r daith gerdded ** blychau gwybodaeth ychwanegol


Description


Wrth adael Gorsaf Llanymddyfri trowch i'r chwith, croeswch y groesfan reilffordd a throwch ar hyd palmant yr A40 ar ochr dde'r ffordd. Ychydig cyn y 'bont grog' fel y'i gelwir, fe welwch arwydd llwybr troed yn pwyntio i'r dde. Byddwch hefyd yn gweld arwyddion 'traphont' ar gyfer Llwybr Lein Calon Cymru yma, ac mewn mannau eraill ar hyd y daith gerdded. Ewch drwy'r giât a dilynwch y llwybr i'r giât nesaf. Ewch drwyddo a pharhewch yn syth ymlaen, trwy'r caeau, gan gadw'r ffin ar eich dde, nes bod y caeau'n culhau ac rydych chi'n cyrraedd wal frics. Dilynwch y wal hon wrth iddi wyro i'r dde ac ewch drwy'r giât ar y diwedd, o dan y coed..


Cadwch ffin y cae ar eich chwith ac ewch tuag at y giât nesaf sydd o'ch blaen. Byddwch yn dechrau gweld adeilad Ystâd Tonn ar y chwith. Ewch drwy'r giât a'r cae nes i chi gyrraedd giât sy’n arwain at lôn tarmac. Croeswch dros y lôn a thrwy'r giât gyferbyn i mewn i gae. Dilynwch y ffin i'r chwith nes i chi gyrraedd giât mochyn. Mae hyn yn eich tywys ar draws bont droed pren. Trowch i'r chwith ar y pen ac ewch ar hyd llwybr i'r dde o'r bont garreg. Dilynwch y llwybr hwn trwy’r coed nes i chi gyrraedd giât. Ewch drwyddi i mewn i’r cae. Trowch i'r chwith a dilynwch ffin y cae ar eich chwith, a cherddwch ar hyd glannau Afon Tywi, sydd bellach ar eich chwith, nes i chi gyrraedd giât arall. Ewch drwyddi ac yna dilynwch y llwybr ar hyd glan yr afon trwy 2 giât arall a chaeau mawr, nes i chi, yn y pen draw, gyrraedd Pont Dolauhirion, sydd wedi’i rhestru’n Radd 1.


Ewch dros y gamfa ac ymlaen i'r bont i edrych ar yr afon. Ewch i'r dde wrth adael y bont, i'r brif ffordd, y B4344. Trowch i'r chwith a stopiwch o dan yr arwydd ffordd frown i 'Ogof Twm Siôn Cati'. Os edrychwch chi ar draws y ffordd fe welwch fwlch a giât yn y gwrych. Ewch trwyddi, croeswch y trac ac ewch dros y gamfa i'r cae. Ewch yn syth i fyny'r allt i gornel y cae, lle byddwch yn dod o hyd i'r gamfa nesaf i'r coed. Unwaith y byddwch drosti, trowch i'r dde ac ewch drwy'r giât/camfa nesaf i'r coetir derw hyfryd hwn sy'n arwain at fwy o gaeau o'ch blaen. Yn y cae cyntaf, trowch i'r dde a dilynwch y ffin i gamfa a giât.


Ewch drosodd i'r cae nesaf a dilynwch y ffin chwith nes i chi gyrraedd pont bren ar y chwith, i mewn i'r coed. Croeswch drosti, trowch i'r dde a chroeswch y bont droed bren nesaf y tu hwnt iddi. Cerddwch ar hyd llwybr y coetir, gan gynnwys nifer fach o rodfeydd, â’r ffin ar eich dde. Yn y pen draw, fe gyrhaeddwch chi gamfa lle rydych chi'n croesi drosodd i lannerch. Ewch drosodd i'r chwith ar y trac, ac yna’n syth dros gamfa ar eich chwith, i mewn i gae.


Os edrychwch i fyny, fe welwch dwr eglwys Santes Fair Llanfair. Ewch tuag at gornel dde'r cae hwn - mae'r gamfa islaw tŵr yr eglwys. Ewch dros y gamfa, ar draws y cae a thros y gamfa nesaf o'ch blaen. Oddi yma, byddwch chi’n dringo'r grisiau i'r rheilffordd. Sefwch ymhell yn ôl os bydd trên yn dod, nes ei fod wedi mynd heibio. Croeswch yn ddiogel ac yn gyflym os na allwch weld neu glywed trên - maen nhw'n teithio o'r ddau gyfeiriad. PEIDIWCH Â SEFYLLIAN NA THYNNU LLUNIAU WRTH I CHI GROESI. (CLICIWCH YMA I DDYSGU SUT I GADW'N DDIOGEL AR Y RHEILFFORDD).


Ewch i lawr y grisiau yna dros ddwy gamfa arall yn y goedwig. Pan fyddwch chi yn y cae, edrychwch i fyny tuag at yr eglwys a chwiliwch am y giât/camfa i'r dde ohoni. Ewch i fyny'r cae a chroeswch drosodd i'r ffordd ger yr eglwys. Os oes gennych amser i edrych o gwmpas, mae'n werth chweil. Fel arall, trowch i'r dde ac ewch i lawr y lôn breswyl i brif ffordd yr A483. Croeswch drosodd pan gyrhaeddwch y ffordd, lle byddwch yn gweld llwybr troed i'r dde o'r giât, ar hyd ochr y tŷ. Ewch ar hyd y llwybr hwn, sy'n eich arwain at barc braf â maes chwarae. Arhoswch ar y llwybr sy'n eich tywys i ystâd dai Maesglas. Cerddwch bellter byr i'r ffordd a throwch i'r chwith.


Dilynwch y ffordd wrth iddi wyro i'r dde, ac yn fuan fe welwch arwydd llwybr troed i lawr stryd gefn gul ar y chwith, ar ôl tŷ rhif 38. Ewch ar hyd y stryd gefn a dilynwch y llwybr ar y diwedd wrth iddi droi i'r dde. Cadwch ar y llwybr hwn ag afon Bran ar eich chwith wrth iddi fynd ar hyd cefnau'r tai. Daliwch ati i fynd drwy'r giât o'ch blaen wrth i'r llwybr culhau. Pan ddaw'r llwybr i ben, fe fyddwch chi bont ffordd yr A40 sy'n rhedeg trwy'r dref. Ewch i'r dde ar hyd y palmant tuag at y dref.


Cymerwch y troad cyntaf i'r chwith i Stryd Waterloo ger Neuadd Goffa Rhys Pritchard sy’n goch. Ewch i Bont Waterloo, sy’n rhestredig Gradd 2, i weld afonydd Bran a Gwydderig yn cyfuno ar y chwith. Ar y dde cyn y bont mae paneli ffens a llwybr sy'n arwain i lawr grisiau. Ewch i lawr y grisiau, a cherddwch ar hyd yr afon nes i chi gyrraedd adfeilion Castell Llanymddyfri a cherflun dur di-staen gloyw Llywelyn ap Gruffydd Fychan


O'r fan hon gallwch ymweld â Thref Llanymddyfri â’i Chanolfan Ymwelwyr, tafarndai, siopau a chaffis cyn mynd yn ôl i'r orsaf ar hyd yr A40, gan deithio tua'r gorllewin. Byddwch yn pasio Coleg Llanymddyfri, sy’n rhestredig Gradd 2, ar eich dde cyn i chi gyrraedd yno.


** Blwch gwybodaeth – Castell Llanymddyfri a Cherflun Llywelyn ap Gruffydd Fychan.


Adeiladodd goresgynwyr Normanaidd y castell mwnt a beili cyntaf rhwng 1100 a 1116. Erbyn 1162 roedd yn nwylo Rhys Gruffydd, Arglwydd Deheubarth. Yn y pen draw, syrthiodd Castell Llanymddyfri i'r Saeson yn 1277 a gadwodd y castell tan 1490, ac ar ôl hynny aeth yn adfail.


Yn ystod Rhyfel Rhyddid Owain Glyndŵr (1409-1416) arweiniodd Harri IV fyddin enfawr i Lanymddyfri i chwilio am Glyndŵr. Cafodd Llywelyn Gruffydd Fychan o Gaio, tirfeddiannwr a chefnogwr Glyndŵr, ei grogi a'i chwarteru'n gyhoeddus am wrthod bradychu'r Tywysog. Cafodd y cerflun ei greu gan Toby a Gideon Petersen, mae’n coffáu ei aberth ac fe'i dadorchuddiwyd yn 2001.

Share by: