Llwybr Lein Calon Cymru

Mae Llwybr Lein Calon Cymru yn Llwybr cerdded pellter hir sy'n gwau ei ffordd rhwng gorsafoedd ar hyd Lein Calon Cymru. Agorodd yng Ngwanwyn 2019 ar draws Sir Amwythig, Powys, Sir Gaerfyrddin, Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, a Dinas a Sir Abertawe.


Gallwch gerdded y Llwybr mewn rhannau, ond mae'n bwysig nodi nad yw'r Llwybr yn mynd i bob gorsaf ar y lein, gallwch gyrraedd y rheiny nad yw'n mynd iddynt yn uniongyrchol trwy lwybrau "cyswllt gorsaf."

Offer i'ch helpu wrth gerdded y Llwybr

Mae'r llwybr wedi'i gyfeirbwyntio â marciau cylchol, mynegbyst ac arwyddion â’r logo unigryw. Mae tîm o wirfoddolwyr yn helpu i gadw'r rhain mewn cyflwr da, ond weithiau maent yn diflannu, felly mae'n ddoeth peidio â dibynnu ar y rhain fel eich unig ddull o lywio'r Llwybr. Mae gan gysylltiadau gorsaf eu harwyddion arbennig eu hunain.

Mae Llwybr Lein Calon Cymru ar gael ar Mapiau’r AO.

Ceir arweinlyfr cynhwysfawr â disgrifiadau manwl am dirwedd a diwylliant De Swydd Amwythig a Chanolbarth Cymru. Mae pob adran wedi'i gosod â'i map bras ei hun a manylion 'cysylltiadau gorsaf' ychwanegol os dymunwch ymweld â'r gorsafoedd hynny nad yw'r Llwybr yn pasio trwyddynt. Mae'r llyfr ar gael i'w brynu gan Kittiwake Books neu drwy eich llyfrwerthwr annibynnol lleol.

ARWEINLYFR

Ble i aros


Mae'n well gennym i’r rheiny sy’n cerdded y llwybrau ddefnyddio gwersylloedd lleol, neu lety gwyliau ar hyd y llwybr, NI ARGYMHELLIR GWERSYLLA GWYLLT. Mae gennym dudalen yn benodol am ddarparwyr llety lleol os ydych chi’n chwilio am rywle i aros yn ystod eich taith gerdded.

BLE I AROS

Pwy ydym ni


Mae’r llwybr yn cael ei gefnogi a’i hyrwyddo gan Sefydliad Corfforedig Elusennol (CIO) a sefydlwyd ar ddiwedd 2023 o’r enw ‘Cyfeillion Llwybr Lein Calon Cymru’ a grŵp o ‘Hyrwyddwyr Llwybr’ sy’n cynnal archwiliadau a chynnal a chadw, ar y cyd ag awdurdodau lleol.


Ymddiriedolwyr y Cyfeillion yw aelodau sefydlol y llwybr ynghyd â rhai recriwtiaid newydd. Maent bob amser yn awyddus i glywed gan unrhyw un sydd â diddordeb mewn cefnogi eu gwaith naill ai fel ymddiriedolwr, aelod pwyllgor, aelod o'r sefydliad neu fel hyrwyddwr llwybr.


Ar ôl bod yn is-bwyllgor o'r Bartneriaeth Rheilffyrdd Cymunedol (CRP) yn wreiddiol, mae cyswllt cryf yn parhau rhwng y sefydliadau. Mae'r CRP yn cefnogi presenoldeb a hyrwyddo ar-lein ac ar y cyfryngau cymdeithasol, yn ogystal â chynnig cefnogaeth broffesiynol ar gyfer codi arian a gwaith partneriaeth. .

Cefnogwch y Llwybr


I gefnogi datblygiad parhaus y llwybr a'i gadw ar agor ac yn hygyrch, gallwch ddod yn aelod am £15 y flwyddyn gan ddefnyddio system roddion y Sefydliad Cymorth Elusennau. Cliciwch ar y botwm isod a dilynwch y cyfarwyddiadau i sefydlu rhodd Debyd Uniongyrchol neu wneud un taliad. Unwaith y byddwch wedi gwneud cyfraniad, byddwch yn derbyn neges yn cadarnhau eich aelodaeth. Os yw'n well gennych dalu gyda siec, anfonwch e-bost at  heartofwalestrail@gmail.com Rydym yn ddiolchgar am unrhyw gefnogaeth gan nad yw'r mudiad yn derbyn unrhyw arian craidd.

DEWCH YN AELOD

Lle dechreuodd y cyfan...


Stori Llwybr Lein Calon Cymru


Lein Calon Cymru yw un o'r llwybrau rheilffordd mwyaf golygfaol ym Mhrydain. Mae cerddwyr wedi defnyddio'r lein ers blynyddoedd lawer i gael mynediad i wlad sy’n wych i gerdded, sy'n aml yn anodd ei chyrraedd heb gar.


Yn 2015, cyfarfu llond llaw o gerddwyr a selogion rheilffyrdd mewn tafarn i drafod creu llwybr cerdded ar sail y rheilffordd o Craven Arms i Lanelli, gan blethu rhwng gorsafoedd ar hyd Lein Calon Cymru.

Gwnaethom ofyn i ddau arbenigwr lleol, yr Athro Les Lumsdon ac Alison Caffyn, gynnal astudiaeth dichonoldeb ar gyfer y Llwybr. Cafodd y gwaith ei ariannu gan Drenau Arriva Cymru.

 

Ni allwch gynllunio llwybr cerdded pellter hir, 141 milltir o hyd, yng nghysur eich swyddfa - mae'n rhaid i chi fynd allan yno a'i gerdded. Mae'n rhaid i chi fynd allan ym mhob tywydd, cyfarfod â'r ffermwyr, gweithio â’r hyn rydych chi'n dod o hyd iddo. Os nad oes llwybr ar draws nant, y cwestiwn yw - a ddylen ni ddod o hyd i lwybr gwahanol neu adeiladu pont newydd? Os yw llwybr roeddech chi'n meddwl oedd yn bodoli wedi cael ei ddargyfeirio, mae’n rhaid ailfeddwl.

 

Rydym wedi seilio'r llwybr ar hawliau tramwy presennol, gan ddechrau yn hen dref reilffordd Craven Arms. Mae'r llwybr yn mynd trwy ardaloedd ucheldirol anghysbell gan gynnwys AHNE Swydd Amwythig, Fforest Clud a Bannau Brycheiniog, coetiroedd gogoneddus a chorsydd heli Dyffryn Llwchwr ar ei ffordd i Barc Arfordir y Mileniwm yn Llanelli. Bydd yn addas ar gyfer pobl sy'n chwilio am her pellter hir, ond hefyd i'r rheiny sy'n dymuno cerdded y llwybr mewn rhannau, gan ddefnyddio'r trên i gael mynediad i deithiau cerdded am ddiwrnod neu benwythnos a defnyddio siopau, caffis, tafarndai a llety dros nos lleol ar hyd y ffordd.

 

Ym mis Ionawr 2017, lansiodd grŵp llywio'r llwybr apêl cyllido dorfol i godi arian i helpu i greu’r llwybr. Rydym wedi cael ein llethu gan y gefnogaeth gan gymunedau i fyny ac i lawr y lein, gan grwpiau cerdded a thimau Hawliau Tramwy cynghorau. Cafodd lansiad y cyllido torfol sylw ar y teledu a'r radio - y tro cyntaf i’r rhan fwyaf ohonom, gan roi cyfweliadau yn Gymraeg a Saesneg a mwynhau sylw da iawn yn y wasg leol hefyd. Roedd y gefnogaeth hon yn union yr hyn roedd ei hangen arnom.

 

Mae'r llwybr gorffenedig 227 km (141 milltir) o hyd ac mae'n ddigon posibl y bydd yn cymryd 10 diwrnod i gerddwyr ei gwblhau. Rydym yn gobeithio y byddwch yn mwynhau ei gerdded.

Ein Partneriaid

Gyda'n gilydd, rydym wedi creu llwybr cerdded unigryw, a seiliwyd ar reilffordd, sy'n plethu rhwng gorsafoedd rheilffordd ar hyd Lein Calon Cymru prydferth. DIOLCH i'r holl bobl a sefydliadau sydd wedi ein cefnogi:


Trenau Arriva Cymru

Network Rail

Trafnidiaeth Cymru

Rhwydwaith Rheilffyrdd Cymunedol

Cymdeithas Teithwyr Lein Calon Cymru

Ymddiriedolaeth Elusennol Gwyliau i Gerddwyr

Cymdeithas Cerddwyr Pellter Hir

Rail Ramblers

Cerddwyr Dyffryn Gwy Isaf

Croeso i Gerddwyr (Llanymddyfri)

Cerddwyr Llanbedr Pont Steffan a Llanelli

REPTA

Timau Hawliau Tramwy yn Swydd Amwythig, Powys, Sir Gaerfyrddin a Dinas a Sir Abertawe


A'r holl grwpiau niferus, cynghorau lleol, unigolion a theuluoedd sydd wedi cyfrannu i helpu i ariannu'r llwybr.

Mae'r Llwybr yn ffurfio cyswllt pwysig rhwng sawl llwybr pellter hir sydd eisoes yn bodoli:

Erthyglau, Adroddiadau, Gwobrau a mwy...

Share by: